Llety a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin: Chreu dadl dros newid
Mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cam-drin yn y cartref. Yn ystod y pandemig a’i gyfyngiadau ar fywyd bob dydd, mae’r cyfleoedd i adnabod pobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sy’n cael eu cam-drin wedi gostwng. Ar yr un pryd, gall y cyfyngiadau fod wedi gwaethygu sefyllfaoedd o gam-drin presennol neu wedi arwain at rai newydd.
Er mwyn diogelu pobl hŷn a sicrhau mynediad at y gwasanaethau cymorth priodol, sefydlodd y Comisiynydd Grŵp Gweithredu ar Gam-drin1 ar ddechrau’r pandemig. Mae’r grŵp hwn, sy’n cynnwys dros 30 o sefydliadau erbyn hyn, yn gweithio ar y cyd a chydag ymrwymiad mawr i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall pobl hŷn ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel, hyrwyddo pwysigrwydd y rôl y gall pob un ohonom ei chwarae o ran amddiffyn pobl hŷn, a hyrwyddo’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i helpu pobl hŷn.
Neges graidd y Grŵp i bobl hŷn yw ‘dydych chi ddim ar eich pen eich hun’.
Drwy waith y Grŵp Gweithredu, daeth y broblem o ddiffyg llety a chefnogaeth i’r rhai sydd angen gadael perthynas gamdriniol i’r amlwg. Er mwyn deall y sefyllfa bresennol yn well a chanfod ffyrdd o’i gwella, cynhaliwyd arolwg o Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a chynhaliwyd gweithdy ar-lein ar 4 Tachwedd i roi cyfle i rannu gwybodaeth a thrafod y ffordd ymlaen.
Cadeirydd y digwyddiad oedd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a chafodd ei gynnal o dan reolau Chatham House (mae rhestr o’r rheini a oedd yn bresennol yn yr atodiad). Daeth y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS hefyd i’r digwyddiad, ac rydyn ni’n ddiolchgar iddi am annerch y digwyddiad ac am gefnogi’r gwaith hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi prif bwyntiau’r digwyddiad, yn rhoi cyd-destun ychwanegol ac yn nodi’r camau nesaf.
Darllenwch yr adroddiad