Parcio ar y palmant: rhwystr dyddiol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru
Mewn erthygl ddiweddar gan Newyddion BBC Cymru, mae elusen Guide Dogs UK yn codi pryderon am yr effaith y mae parcio ar balmentydd yn ei chael ar bobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg a sut mae’r rhwystr hwn yn achosi peryglon posib i bobl pan fyddant allan o’r tŷ yn crwydro.
Mae’n fater sydd yn taro tant gyda llawer o bobl hŷn, a gwelwn hynny yn y ffaith bod cynifer o’r ymatebion a ddaeth i law fel rhan o’r Ymgynghoriad Dweud eich Dweud a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn cyfeirio at balmentydd blêr, neu balmentydd nad oes modd cerdded arnynt, fel rhwystr sy’n eu hatal rhag mynd allan i grwydro’n ddiogel ac sy’n effeithio ar eu symudedd, eu hannibyniaeth, a’u hyder.
Pan nad oes modd cerdded ar balmentydd, mae pobl yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd, ar arwynebau anwastad neu o amgylch rhwystrau. Mae’r holl bethau hyn yn gwneud pobl yn fwy tebygol o gael damwain a allai arwain at anafiadau difrifol fel torri esgyrn neu anaf i’r pen.
Mae hyn yn gallu rhwystro pobl hŷn rhag mynd allan i grwydro, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chadw’n heini – pethau sy’n ein helpu i heneiddio’n dda.
Nid ceir yn unig sydd ar fai am y broblem hon. Er mai ceir yn parcio ar lwybrau cerdded yw’r broblem fwyaf amlwg, mae problemau eraill – fel bagiau sbwriel, llystyfiant wedi gordyfu a phalmentydd neu lwybrau sydd wedi torri – hefyd yn creu rhwystrau ac yn rhoi pobl sydd eisiau cerdded yn ddiogel mewn perygl. Mater arall sydd yn dod i’r amlwg yw’r defnydd cynyddol o e-feiciau ac e-sgwteri ar balmentydd. Yn aml nid oes modd clywed y rhain yn dod ac felly mae perygl y gallai person hŷn gael ei daro neu ddisgyn i’r llawr.
Mae Guide Dogs UK yn galw ar Gymru i ddilyn esiampl yr Alban a Llundain a gwahardd parcio ar balmentydd. Rwyf i’n cefnogi’r galwadau hyn. Dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y cynlluniau oedd ar y gweill i wahardd yn 2023 a chyflawni’r ymrwymiad y bu’r Gweinidog Trafnidiaeth yn sôn amdano eto yn ddiweddar, sef ‘gwneud y strydoedd yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch’.
Mae angen i awdurdodau lleol gael rhagor o bwerau i gosbi a rhoi dirwyon i bobl sydd yn gadael rhwystrau neu’n parcio ar balmentydd yn aml. Byddai rhoi pŵer i gynghorau yn gam ymarferol i’r cyfeiriad cywir ac yn dangos i’r cyhoedd nad yw parcio ar balmentydd yn dderbyniol.
Mae angen cymryd camau gweithredu a chodi ymwybyddiaeth o’r mater hwn er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r peryglon a achosir gan rwystrau ar balmentydd a’r effaith mae hynny yn ei chael ar bobl hŷn.
Byddai pobl o bob oed yn elwa o’r camau gweithredu hyn – gan gynnwys rhieni â phramiau a phobl sydd yn byw ag anableddau neu gyflyrau sy’n cyfyngu ar eu symudedd.
Mae rhwystrau ar balmentydd yn fwy na niwsans, maent yn atal pobl rhag symud, bod yn annibynnol, gofalu am eu llesiant a heneiddio’n dda. Mae angen cyflwyno mesurau cryfach i fynd i’r afael â’r mater hwn er mwyn i bobl gael cerdded yn ddiogel ac yn hyderus drwy bentrefi, trefi a dinasoedd ledled Cymru.