Angen Help?
Bus stop surrounded by hills covered in the fog in Snowdonian National Park, Wales

Comisiynydd Pobl Hŷn: Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn gadael llawer o bobl hŷn heb unman i fynd yn ystod gŵyl y banc

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn: Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn gadael llawer o bobl hŷn heb unman i fynd yn ystod gŵyl y banc

Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, bydd llawer o bobl hŷn yn ei chael hi’n anodd mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw dros benwythnos gŵyl y banc, gan na fyddan nhw’n gallu cael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus addas.

Mae’r Comisiynydd wedi dweud, er y bydd llawer ohonom ni’n defnyddio gŵyl y banc i ymweld â theulu neu ffrindiau, teithio i’r arfordir neu i gefn gwlad am ddiwrnod allan, neu fynd allan i wneud mân bethau hanfodol, mae’r opsiynau hyn yn aml yn gyfyngedig i lawer o bobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi dweud bod yn rhaid gwella argaeledd, hygyrchedd a dibynadwyedd gwasanaethau bysiau yn gyflym pan fydd y ‘Bil Bysiau’ – sy’n addo newidiadau sylweddol – yn mynd drwy’r Senedd, er mwyn i bobl hŷn allu gweld y manteision cyn gynted â phosibl.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein bywydau wrth i ni fynd yn hŷn – yn enwedig os nad ydym ni bellach eisiau neu’n gallu gyrru – fel ein bod ni’n gallu parhau i fynychu apwyntiadau, mynd i siopa, a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn hanfodol i alluogi llawer o bobl hŷn i barhau i weithio, cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli, darparu gofal di-dâl neu gynnig gofal plant – cyfraniad sy’n werth biliynau i economi Cymru bob blwyddyn.

Er gwaethaf ei phwysigrwydd o ran iechyd, llesiant ac annibyniaeth, mae llawer o bobl hŷn yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y drafnidiaeth gyhoeddus sydd ei hangen arnyn nhw, sy’n gallu gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu heithrio ac mewn perygl o gael eu hynysu.

Cafodd y materion hyn eu hadlewyrchu mewn arolwg barn a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Comisiynydd, a ganfu fod bron i ddwy ran o dair o bobl hŷn yn poeni am drafnidiaeth gyhoeddus, gan dynnu sylw at raddfa’r mater hwn, ac ehangder ei effaith.

Mae materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael eu codi’n aml gan bobl hŷn y mae’r Comisiynydd yn cwrdd â nhw ledled Cymru. Mae’r materion hyn yn ymwneud â gwasanaethau cyfyngedig, neu ddim gwasanaethau o gwbl, yn ogystal ag amserlenni a ble i ddod o hyd i wybodaeth, a hygyrchedd a lleoliad arosfannau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl hŷn hefyd yn aml yn rhannu pryderon am ddiogelwch wrth aros am drafnidiaeth gyhoeddus, neu wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a all atal pobl rhag ei ​​defnyddio.

 

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“I lawer ohonom ni, mae cynlluniau gwyliau banc yn cynnwys rhyw fath o deithio, ac mae mynd o A i B yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei gymryd yn ganiataol pan fydd gennym ni fynediad at gar.

“Ond i lawer o bobl hŷn, mae opsiynau trafnidiaeth yn llawer mwy cyfyngedig. Yn aml, daw hyn yn sgil diffyg gwasanaethau bysiau a threnau, neu eu dibynadwyedd, neu o ganlyniad i’r ffaith bod pobl hŷn yn gorfod dibynnu ar bobl eraill er mwyn gallu teithio.

“Mae hyn yn golygu y bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru dros y penwythnos yn ei chael hi’n anodd mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, sy’n hanfodol er mwyn cefnogi eu hiechyd, eu llesiant a’u hannibyniaeth.

“Nid dim ond ar benwythnosau gŵyl y banc y mae hyn yn broblem – mae’r rhwystrau sy’n cael eu creu gan ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem y mae pobl hŷn yn ei hwynebu bob dydd. Fel y dywedodd un person hŷn wrthyf: ‘Mae gen i bàs bws, ond does dim bysiau’.

“Dyna pam mae angen i ni weld gwelliannau sylweddol yn cael eu cyflawni, gyda gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn adlewyrchu anghenion teithwyr yn well drwy sicrhau bod rhagor o wasanaethau ar gael, a’u bod yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Bydd hyn o fudd i bobl o bob oed, yn enwedig pobl hŷn, a bydd yn cefnogi opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.

“Felly, mae’n hanfodol bod y newidiadau a addawyd gan y Bil Bysiau yn cael eu cyflawni’n gyflym ar ôl i hyn fynd drwy’r Senedd, fel bod pobl hŷn yn gallu teimlo’r manteision cyn gynted â phosibl.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges