Blog y Comisiynydd: Dathlu Iaith, Diwylliant a Chynhwysiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam
Yn ddiweddar, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol â lliw, cerddoriaeth a digonedd o gyfle i sgwrsio i Wrecsam, ac fe gefais i’r anrhydedd o fod yn rhan ohono. Roeddwn i yn yr Eisteddfod am ddau ddiwrnod ac yn y cyfnod hwnnw cefais gyfle i ymuno â digwyddiadau, cwrdd â phobl ysbrydoledig, a chodi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn ogystal â’r gwaith rwyf i’n ei wneud i newid pethau er gwell.
Ddydd Sul, cefais groeso gan Gomisiynydd y Gymraeg ac aelodau ei thîm. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni sgwrsio â phobl hŷn am eu profiadau yn cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg – rhywbeth sydd yn hawl yn ogystal â dewis diwylliannol. Fe drafodon ni pam ei bod hi’n bwysig fod pobl hŷn yn gallu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol yn eu dewis iaith, a hynny heb wynebu rhwystrau nac orfod cyfaddawdu.
Yn ogystal â chael y sgyrsiau gwerthfawr hyn, cefais gyfle i rannu gwybodaeth am fy swydd i fel Comisiynydd – gan sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod bod eu lleisiau, eu hawliau, a’u profiadau yn bwysig.
Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfleoedd arbennig i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac i ddysgu ganddynt. Eleni, cefais gyfle i ymuno â phanel o arbenigwyr yn y digwyddiad ‘Mae hygyrchedd yn bwysig – gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb’ oedd yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Hefyd ar y panel, roedd Comisiynydd y Gymraeg, arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac eiriolwyr allweddol dros gynhwysiant digidol. Pwysleisiais i nad mater technegol yn unig yw cynhwysiant digidol – mae’n ymwneud â phobl
Mae bron i un o bob pump o bobl dros 65 oed yng Nghymru, a 29% o bobl dros 75, heb gysylltiad at y rhyngrwyd yn eu cartref, ac mae newid i wasanaethau digidol yn gyntaf yn peryglu gadael nifer o bobl ar ôl. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus gael eu dylunio mewn ffordd sy’n golygu fod pawb – waeth beth fo’u hoed, eu gallu, na’u hyder gyda thechnoleg – yn gallu eu defnyddio’n hwylus a gydag urddas.
Mae gwella hygyrchedd yn arwain at fanteision amlwg i unigolion: mae’n hybu annibyniaeth ac yn lleihau achosion lle caiff pobl eu hallgáu, ond mae hefyd yn fanteisiol i wasanaethau cyhoeddus ac yn eu gwneud yn fwy effeithlon. Y nod yw creu Cymru Gynhwysol lle nad oes neb yn cael eu rhwystro rhag defnyddio gwasanaethau angenrheidiol.
Yn ystod fy nghyfnod ar y Maes, cefais gyfle hefyd i sgwrsio â thîm Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd yn tynnu sylw at hawliau gofalwyr di-dâl. Mae eu gwaith yn ein hatgoffa o gyfraniad sylweddol gofalwyr, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu ac yn cael gafael ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Roeddwn i’n awyddus iawn i ddysgu rhagor am Lwybr Dementia Gogledd Cymru – sef dull cyfannol o ddarparu cefnogaeth i bobl sy’n byw â dementia ac i’w teuluoedd. Mae arferion da fel hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac mae cael rhagor o fentrau fel hyn yn allweddol os ydym ni eisiau sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn ystod fy neuddydd yn yr Eisteddfod, cefais gyfle i ymweld ag amrywiaeth o sefydliadu sy’n chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau, gan gynnwys Sefydliad y Merched a Merched y Wawr. Mae’r grwpiau hyn yn darparu cyfeillgarwch gwerthfawr, yn rhoi cyfle i ymgyrchu ar y cyd ac yn rhoi llais i’w haelodau ar faterion fel sgamiau, mynediad at wasanaethau deintyddol ac atal trais yn erbyn menywod. Maen nhw hefyd yn dangos y gwaith arbennig y mae pobl hŷn yn ei wneud fel gwirfoddolwyr, arweinwyr cymunedol ac ymgyrchwyr.
Roedd hi’n braf iawn cael cyfle i sgwrsio â’r aelodau a’r grwpiau lleol oedd wedi gweithio’n galed i groesawu’r Eisteddfod i’w sir. Roedd eu hymdrechion yn cynnwys cynnal prosiectau gydag ysgolion lleol i ddathlu hanes a diwylliant yr ardal, gan ddangos dinas Wrecsam ar ei gorau.
Roedd yr haul yn tywynnu yn Wrecsam, ond yr hyn sy’n aros yn y cof i mi yw’r holl sgyrsiau gwerthfawr a’r ysbryd gwladgarol. Mae hi’n amlwg fod pobl wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad lle caiff lleisiau a hawliau pobl hŷn eu clywed a lle’r gweithredir ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud.
Cefais ddau ddiwrnod prysur iawn yn yr Eisteddfod – ond roedd yn ddau ddiwrnod pwysig o ran codi ymwybyddiaeth, cysylltu â phobl hŷn a sefydliadau a sicrhau bod gwaith y Comisiynydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau ym mhob cwr o Gymru.