Angen Help?

Llyfryn Gwybodaeth ‘Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel’

Front covers of the Commissioner's Get Help Stay Safe Leaflets in English and Welsh

Beth os ydw i’n poeni am rywun arall?

Gall pob un ohonom chwarae rôl i helpu i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn gwybod y mathau o bethau y mae angen i ni gadw llygad amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn cael ei gam-drin:

  • Arwyddion corfforol, fel cleisio neu anafiadau heb esboniad
  • Newidiadau mewn ymddygiad (e.e. mynd yn dawedog)
  • Ddim yn gadael y tŷ
  • Newidiadau o ran cysylltiad â theulu neu ffrindiau
  • Newidiadau yn y ffordd y mae rhywun yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
  • Gallai newidiadau o ran gwariant (e.e. gallai peidio â thalu biliau, peidio â phrynu bwyd, peidio â defnyddio
    gwres, awgrymu cam-drin ariannol)

Os ydych yn pryderu bod person yn cael ei gam-drin, neu mewn perygl, dylech gysylltu â Thîm Diogelu eich Cyngor, neu gysylltu â’r Heddlu ar 101.

Gallwch hefyd gael cyngor a chefnogaeth drwy gysylltu ag un o’r sefydliadau isod.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae Byw Heb Ofn yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n cael eu cam-drin, a’r rhai sy’n poeni am eraill. Gallwch gysylltu â Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

0808 8010 800

Ewch i’r wefan Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Hourglass Cymru

Mae Llinell Gymorth Hourglass Cymru yn cynnig cymorth yn benodol i bobl hŷn a gall ddarparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth, p’un ai a ydych yn cael eich cam-drin neu’n pryderu am rywun arall.

0808 808 8141

Ewch i’r wefan Hourglass Cymru

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl sylweddol o niwed difrifol sydd ar fin digwydd, cysylltwch â’r heddlu yn syth drwy ddeialu 999.

< BLAENOROL
An older man in a dark room looking frustrated

“Doeddwn i ddim eisiau gwneud cwyn, ond drwy wybod beth oedd yn digwydd, roedd y tîm diogelu lleol yn gallu gweithio gyda ni a’n cefnogi i gael rhywfaint o help i fy ngwraig a lleihau’r risg y yddai’n fy mrifo eto.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges