Beth os ydw i’n poeni am rywun arall?
Gall pob un ohonom chwarae rôl i helpu i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn gwybod y mathau o bethau y mae angen i ni gadw llygad amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn cael ei gam-drin:
- Arwyddion corfforol, fel cleisio neu anafiadau heb esboniad
- Newidiadau mewn ymddygiad (e.e. mynd yn dawedog)
- Ddim yn gadael y tŷ
- Newidiadau o ran cysylltiad â theulu neu ffrindiau
- Newidiadau yn y ffordd y mae rhywun yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
- Gallai newidiadau o ran gwariant (e.e. gallai peidio â thalu biliau, peidio â phrynu bwyd, peidio â defnyddio
gwres, awgrymu cam-drin ariannol)
Os ydych yn pryderu bod person yn cael ei gam-drin, neu mewn perygl, dylech gysylltu â Thîm Diogelu eich Cyngor, neu gysylltu â’r Heddlu ar 101.
Gallwch hefyd gael cyngor a chefnogaeth drwy gysylltu ag un o’r sefydliadau isod.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae Byw Heb Ofn yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n cael eu cam-drin, a’r rhai sy’n poeni am eraill. Gallwch gysylltu â Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
0808 8010 800
Ewch i’r wefan Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Hourglass Cymru
Mae Llinell Gymorth Hourglass Cymru yn cynnig cymorth yn benodol i bobl hŷn a gall ddarparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth, p’un ai a ydych yn cael eich cam-drin neu’n pryderu am rywun arall.
0808 808 8141
Ewch i’r wefan Hourglass Cymru
Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl sylweddol o niwed difrifol sydd ar fin digwydd, cysylltwch â’r heddlu yn syth drwy ddeialu 999.
< BLAENOROL
“Doeddwn i ddim eisiau gwneud cwyn, ond drwy wybod beth oedd yn digwydd, roedd y tîm diogelu lleol yn gallu gweithio gyda ni a’n cefnogi i gael rhywfaint o help i fy ngwraig a lleihau’r risg y yddai’n fy mrifo eto.”