Angen Help?

Llyfryn Gwybodaeth ‘Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel’

Adnabod Cam-drin

Gall cam-drin fod ar sawl ffurf ac mae’n digwydd pan fydd camdriniwr (neu gamdrinwyr) yn defnyddio pŵer neu reolaeth dros rywun arall.

Gallai camdriniwr fod yn bartner agos neu’n gyn bartner, yn aelod arall o’r teulu, yn ffrind neu’n rhywun arall mewn sefyllfa o ymddiriedaeth fel gofalwr.

Gall cam-drin effeithio arnoch beth bynnag fo’ch oedran – nid rhywbeth y mae pobl ifanc yn unig yn ei brofi ydyw.

I rai pobl, mae’n bosibl bod cam-drin wedi bod yn rhan o’u bywydau ers nifer o flynyddoedd, ac i eraill bydd yn dechrau pan fyddan nhw’n cyrraedd oedran hŷn.

Gall cam-drin effeithio arnoch hefyd beth bynnag fo’ch rhyw, ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Gall cam-drin fod ar sawl ffurf

Mae’n bwysig iawn deall y gwahanol fathau o gam-drin.

Yn aml adnabod arwyddion cam-drin yw’r cam cyntaf pwysig tuag at geisio cymorth a chefnogaeth.

  • Cam-drin corfforol Mae hyn yn cynnwys dyrnu, cicio, brathu, pinsio neu gripio.
  • Cam-drin rhywiol Mae hyn yn gynnwys treisio, cyffwrdd rhywun mewn ffordd rywiol yn erbyn eu hewyllys, gorfodi rhywun i wneud rhywbeth rhywiol ei natur sy’n eu gwneud yn anghyfforddus.
  • Cam-drin seicolegol/emosiynol Mae hyn yn cynnwys sarhau, galw enwau neu regi rhywun, bygwth, tanseilio, bychanu, cau allan neu anwybyddu drwy’r amser, bygythiadau i niweidio eraill sy’n bwysig i chi, cael eich rhwystro rhag gweld pobl sy’n bwysig i chi.
  • Esgeulustod Mae hyn yn cynnwys anwybyddu anghenion gofal meddygol, emosiynol neu gorfforol; methu â darparu mynediad at ofal a chymorth priodol; neu atal hanfodion fel meddyginiaeth, maeth a gwres.
  • Cam-drin ariannol Mae hyn yn cynnwys dwyn arian neu eiddo, cael eich gorfodi i roi arian, meddiannau neu eiddo. Defnyddio twyll i gymryd arian, meddiannau neu eiddo. Cymryd neu gadw atwrneiaeth neu geisio cymryd neu gadw atwrneiaeth.
  • Rheolaeth drwy orfodaeth Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu’n batrwm o weithredoedd sy’n ymosod, yn bygwth, yn codi cywilydd ac yn brawychu, neu fath arall o gam-drin. Mae’n cael ei ddefnyddio i niweidio, i gosbi neu i godi ofn ar rywun. Mae’r ymddygiad hwn yn ceisio gwneud y dioddefwyr yn ddibynnol drwy eu hynysu o gefnogaeth, ymelwa arnynt, dwyn eu hannibyniaeth a rheoli eu hymddygiad bob dydd.

Gall fod yn anodd adnabod ymddygiad camdriniol neu un sy’n rheoli person, yn enwedig os ydych chi wedi byw gyda’r ymddygiad hwnnw am amser hir. Ond os ydych wedi profi unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir uchod, gofynnwch am gyngor a chefnogaeth gan y sefydliadau a restrir isod. Os ydych chi’n pryderu eich bod mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a chysylltwch â’r heddlu yn syth.

NESAF: Beth os ydw i’n poeni am rywun arall? > < BLAENOROL

“Roedd yn rheoli’r hyn oeddwn i’n gallu ei wneud a lle’r oeddwn yn cael mynd. Cefais fy ynysu oddi wrth fy ffrindiau ac roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy nghaethiwo yn fy nghartref.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges