Cofiwch: Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun
Os ydych chi’n darllen y llyfryn hwn, rydyn ni’n gwybod y gallech chi fod yn ofnus neu wedi anafu. Efallai eich bod yn teimlo’n ynysig ac ar eich pen eich hun. Efallai eich bod yn poeni am rywun sy’n bwysig i chi.
Efallai eich bod gwir angen cymorth a chefnogaeth, ond ddim yn siŵr ble i droi.
Ond cofiwch: Nid chi yw’r unig un. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Gwyddom y gall ceisio cymorth fod yn anodd iawn, ond mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth os oes ei angen arnoch. Peidiwch â dioddef yn dawel. Os ydych yn cael eich cam-drin, neu’n meddwl y gallech fod mewn perygl, neu os ydych yn pryderu am rywun arall, cysylltwch ag un o’r sefydliadau isod, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae Byw Heb Ofn yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n cael eu cam-drin, a’r rhai sy’n poeni am eraill. Gallwch gysylltu â Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
0808 8010 800
Ewch i’r wefan Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Hourglass Cymru
Mae Llinell Gymorth Hourglass Cymru yn cynnig cymorth yn benodol i bobl hŷn a gall ddarparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth, p’un ai a ydych yn cael eich cam-drin neu’n pryderu am rywun arall.
0808 808 8141
Ewch i’r wefan Hourglass Cymru
Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl sylweddol o niwed difrifol sydd ar fin digwydd, cysylltwch â’r heddlu yn syth drwy ddeialu 999.
NESAF: Adnabod Cam-drin > Fersiynau Hygyrch“Wrth edrych yn ôl, roedd cam-drin bob amser wedi bod yn rhan o fy mherthynas gyda fy ngŵr – doeddwn i ddim wedi sylweddoli hyn.
Efallai nad oeddwn i eisiau ei gyfaddef. Ond pan aeth pethau’n waeth, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bryd cael help.
”
Eitemau wedi’u llwytho i lawr
Llyfryn Gwybodaeth ‘Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel’
- Maint y ffeil
- 9.86MB
- Math o ffeil
- PDF Document