Comisiynydd yn cyhoeddi canllawiau newydd i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu dweud eu dweud a dylanwadu ar benderfyniadau
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau newydd i awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n nodi’r camau y dylent fod yn eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfle i ddweud eu dweud a dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae’r Canllawiau wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori, a helpu i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol.
Cafodd y Canllawiau eu cynhyrchu gan y Comisiynydd mewn ymateb i bryderon gan bobl hŷn eu bod yn aml yn ei chael hi’n anodd dweud eu dweud a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau neu eu cymunedau. Mae hyn yn gallu gwneud iddynt deimlo’n ddi-rym ac nad yw eu llais yn bwysig.
Mae’r Canllawiau’n adlewyrchu’r hyn mae pobl hŷn wedi’i ddweud wrth y Comisiynydd am sut maen nhw’n teimlo y byddai modd gwella’r gweithgareddau hyn, yn ogystal â defnyddio egwyddorion ehangach sy’n galluogi dulliau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ymgysylltu ac ymgynghori.
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r Canllawiau gan ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ers dechrau yn y swydd yn hwyr y llynedd, mae pobl hŷn yn aml wedi mynegi pryderon wrthyf nad ydyn nhw’n gallu dweud eu dweud pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau, yn enwedig o ran newidiadau i wasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r mathau hyn o newidiadau yn gallu creu pryderon sylweddol i bawb sy’n teimlo’r effaith, ond mae’n bosib y bydd gan bobl hŷn bryderon penodol oherwydd effaith rhwystrau eraill y gallant eu hwynebu – fel diffyg trafnidiaeth neu allgáu digidol.
“Felly, mae’n hynod o bwysig bod gwrando ac ymateb yn effeithiol i leisiau pobl hŷn yn rhan allweddol o ymgysylltu, ymgynghori a gwneud penderfyniadau.
“Dyna pam fy mod wedi cyhoeddi’r Canllawiau hyn i awdurdodau lleol gan ddefnyddio fy mhwerau cyfreithiol, i helpu i wella’r gweithgareddau hollbwysig hyn a helpu i sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru.
“Drwy fy Nghanllawiau, rwy’n awyddus i helpu i sicrhau bod pobl o bob oed yn eu holl amrywiaeth yn cael cyfleoedd ac yn cael eu galluogi i ddweud eu dweud mewn ffordd ystyrlon – rwy’n gwybod bod hon yn uchelgais sy’n cael ei rhannu ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”
DIWEDD
Ferswin HTML Lawrlwythwch Fersiwn PDF