Taliadau parcio digidol yn hunllef i bobl hŷn ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio y bydd llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn cael trafferth mynd allan i’w cymunedau yn ystod cyfnod y Nadolig oherwydd eu bod yn poeni am beidio â gallu talu am barcio a chael dirwyon.
Mae Pobl Hŷn yn aml yn rhannu pryderon gyda’r Comisiynydd gan nodi bod y defnydd cynyddol o apiau a systemau digidol i dalu am barcio yn eu gwneud yn rhwystredig ac yn eu hallgáu. Rhoddir sylw i’r mater hwn yn adroddiad diweddaraf y Comisiynydd – Lle i bawb – Barn pobl hŷn ar fynediad i gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar brofiadau pobl hŷn, yn ogystal â data a ddarparwyd i’r Comisiynydd gan yr holl awdurdodau lleol, sy’n rhoi cipolwg i ni ar yr opsiynau a’r systemau talu sydd ar gael yn eu meysydd parcio.
Mae’r adroddiad yn dangos bod y rhan fwyaf o feysydd parcio dan ofal awdurdodau lleol yn dal i gynnig amrywiaeth o opsiynau talu, gan gynnwys arian parod mewn sawl man. Ond y gred ymysg pobl hŷn yw nad yw hyn yn bosibl mwyach, ac mae hynny yn effeithio ar eu hannibyniaeth, eu llesiant a’u gallu i gymryd rhan yng ngweithgarwch y gymuned.
Ar ben hyn, nid yw’r effaith bosibl y gall cael gwared ar opsiynau talu ag arian parod ei chael ar bobl hŷn wedi ei chydnabod yn llawn, a phrin yw’r cyfleoedd i bobl hŷn leisio eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl hŷn nawr yn eu hwynebu wrth geisio parcio eu car, fel y dryswch o ddefnyddio’r holl apiau, sydd heb gael eu dylunio gyda defnyddwyr hŷn mewn golwg; pryderon am sgamiau a phreifatrwydd data; a signal symudol annibynadwy wrth geisio talu ar-lein neu dros y ffôn, problem ymarferol mewn ardaloedd gwledig sydd â chysylltiad gwael.
Mae’r rhwystrau hyn wedi gorfodi rhai unigolion i ddibynnu ar eraill am gymorth, ac mae eraill wedi rhoi’r ffidil yn y to am nad ydynt bellach yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud rhywbeth oedd yn arfer bod yn weithgaredd syml roedden nhw’n ei chyflawni’n ddyddiol.
Ar sail ei chanfyddiadau, mae’r Comisiynydd wedi nodi nifer o gamau ymarferol i awdurdodau lleol eu cymryd er mwyn ymateb i’r materion sy’n cael sylw yn yr adroddiad. Mae’r rhain yn cynnwys cynnig amrywiaeth o opsiynau talu, gwella cyfathrebu i roi sicrwydd bod opsiynau talu nad ydynt yn ddigidol yn dal ar gael, a sicrhau bod ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon yn digwydd gyda phobl hŷn os oes unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried, yn unol â’r Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd yn gynharach eleni.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Wrth i bawb ruthro dros gyfnod y Nadolig – yn mynd i ddigwyddiadau Nadoligaidd neu wneud rhywfaint o siopa munud olaf– ni fydd nifer ohonom yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio ap neu systemau digidol i dalu am barcio.
“Ond i lawer o bobl hŷn, yn enwedig y rhai sydd heb ffôn clyfar neu sydd â sgiliau digidol cyfyngedig, mae’r defnydd cynyddol o systemau fel hyn yn eu gwneud yn rhwystredig ac yn eu hallgáu.
“Er bod y data y gofynnais amdano gan awdurdodau lleol yn dangos bod mwyafrif eu meysydd parcio yn cynnig amrywiaeth o opsiynau talu, y gred ymysg pobl hŷn yw nad yw hyn yn bosibl mwyach – mae’n fater sy’n cael ei godi’n aml gyda mi ledled Cymru – ac mae hynny’n creu rhwystr sylweddol sy’n effeithio ar annibyniaeth a llesiant pobl hŷn, a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cael i gymryd rhan.
“Mae’r broblem hon yn cael ei gwaethygu gan rwystrau ehangach sydd wedi gwneud gweithgareddau a arferai fod yn syml, yn llawer anoddach. Mae hyn wedi achosi nifer o bobl hŷn i ddibynnu ar eraill am gymorth, neu i roi’r ffidil yn y to.
“Gan ystyried nad oes gan tua thraean o bobl 75 oed â hyn fynediad i’r rhyngrwyd, ac nad yw traean o bobl dros 65 oed yn defnyddio ffonau clyfar, mae fy nghanfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen am atebion cynhwysol sy’n sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r byd droi’n fwy a mwy digidol.
“Dyna pam fy mod yn galw ar awdurdodau lleol i gymryd amrywiaeth o gamau ymarferol i ymateb i’r materion hyn, gan gynnwys cynnal amrywiaeth o opsiynau talu, a chyfathrebu’n well i hyrwyddo’r ffaith bod opsiynau talu, nad ydynt yn ddigidol, yn dal ar gael.
“Ochr yn ochr â hyn, mae hefyd yn hanfodol bob pobl hŷn yn cael cyfleoedd ystyrlon i leisio eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau pan fo newidiadau i wasanaethau lleol yn cael eu hystyried.
“Mae sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wasanaethau fel parcio ceir yn bwysig ac yn galluogi pobl hŷn i ddal ati i chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn ganolog i greu cymunedau oed-gyfeillgar, lleoedd lle gall pobl o bob oed fyw a heneiddio’n dda, gyda chefnogaeth dylunio cynhwysol, gwasanaethau hygyrch, a rhwydweithiau cymdeithasol cryf.”
DIWEDD
Darllenwch Adroddiad y Comisiynydd (PDF) Darllenwch Adroddiad y Comisiynydd (HTML)