Angen Help?
Older woman at dental clinic looking at camera. Her dentist is in the background.

Trafodaeth bord gron am iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Trafodaeth bord gron am iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru: Adroddiad diweddaru

Roedd Rhaglen Waith 2025-26 y Comisiynydd yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar fynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddiaeth ac iechyd y geg yng Nghymru, gan fod pobl hŷn ym mhob cwr o Gymru yn aml yn codi problemau a phryderon am yr anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio cael apwyntiadau deintyddol.

Felly, aeth y Comisiynydd ati i gynnull cyfarfod bwrdd crwn ar 12 Tachwedd 2025 er mwyn dod â rhanddeiliaid o feysydd polisi ac ymarfer deintyddiaeth ac iechyd y geg, yn ogystal â rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol, at ei gilydd i drafod sut gallai iechyd y geg a deintyddiaeth pobl hŷn elwa o integreiddio’n well â modelau atal, trin a gofalu newydd yn y gymuned.

Darllenwch grynodeb o’r cyfarfod bwrdd crwn isod.

Darllenwch Adroddiad Cryno’r Bwrdd Crwn (Ferswin PDF) Darllenwch Adroddiad Cryno’r Bwrdd Crwn (Fersiwn HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges