Ymgysylltu ac Ymgynghori Effeithiol â Phobl Hŷn – Canllawiau i awdurdodau lleol
Cyflwyniad
Mae gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys gwasanaethau fel gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol fel bysiau, canolfannau dydd, llyfrgelloedd, toiledau cyhoeddus a llawer mwy – yn darparu cymorth hanfodol i lawer o bobl hŷn ledled Cymru, gan alluogi pobl i aros yn annibynnol a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae’r gwasanaethau hyn hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n oed-gyfeillgar ac yn cefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda, elfennau hanfodol o’r agenda iechyd ataliol ehangach yng Nghymru.
Gall newidiadau posibl i wasanaethau cyhoeddus, neu golli gwasanaethau cyhoeddus, greu pryderon sylweddol i bawb yr effeithir arnynt, ond gall pobl hŷn (pobl 60 oed a hŷn) fod â phryderon penodol oherwydd effaith rhwystrau eraill y gallant eu hwynebu – fel diffyg trafnidiaeth neu allgau digidol.
Felly, mae’n hanfodol bod gwrando ac ymateb yn effeithiol i leisiau pobl hŷn yn rhan allweddol o ymgysylltu, ymgynghori a gwneud penderfyniadau, a bod hyn yn gyson ledled Cymru.
Fodd bynnag, mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn ei chael yn anodd sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau neu eu cymunedau.
Mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf y gall cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan, a’r cymorth sydd ar gael i’w galluogi i gymryd rhan, fod yn gyfyngedig, sy’n eu gwneud i deimlo’n ddi-rym, ac sy’n rhoi’r argraff iddynt nad yw eu lleisiau a’u profiadau’n bwysig.
Mae pobl hŷn hefyd wedi dweud wrthyf nad yw’n glir yn aml pa ystyriaeth a roddwyd i’r safbwyntiau neu’r syniadau y maent wedi’u rhannu na’r effaith y mae eu lleisiau wedi’i chael. Mae hyn wedi arwain at gred ymysg rhai o’r unigolion rwyf wedi siarad â nhw mai’r unig beth y mae ymgysylltu ac ymgynghori yn ei wneud yw ‘ticio blychau’, yn hytrach na chynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl ddweud eu dweud.
Mae mynd i’r afael â’r mathau hyn o bryderon yn bwysig er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio rhag ymgysylltu, ymgynghori a gwneud penderfyniadau, a bod pobl o bob oed yn eu holl amrywiaeth yn cael eu grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, sy’n hanfodol fel rhan o greu cymunedau sy’n oed-gyfeillgar ac i alluogi cyd-gynhyrchu go iawn.
Mae sicrhau bod gan bawb lais yn uchelgais rwy’n gwybod sy’n cael ei rhannu ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam fy mod yn rhannu’r Canllawiau hyn i gefnogi awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gweithgareddau sy’n ymwneud ag ymgysylltu,
ymgynghori a gwneud penderfyniadau, a helpu i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Mae’r cynnwys isod yn adlewyrchu’r hyn mae pobl hŷn wedi’i ddweud wrthyf am sut maen nhw’n teimlo y gellid gwella’r gweithgareddau hyn, yn ogystal â defnyddio egwyddorion ehangach sy’n galluogi dulliau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Y Cyd-destun Deddfwriaethol
Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb defnyddiol o ddeddfwriaeth a rheoliadau allweddol sy’n creu dyletswyddau penodol ar gyfer cyrff cyhoeddus a ddylai gyfrannu at ddatblygu a darparu gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori gydag amrywiaeth o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl hŷn.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys dyletswydd gyffredinol, sef Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd â’r nod o sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a’r rhai sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallant gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r PSED yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn dod yn rhan annatod o ddylunio polisïau a darparu gwasanaethau, ac yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bawb.
O dan y Ddyletswydd, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd dan y Ddeddf.
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
- Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd gyffredinol, rhaid i awdurdod cyhoeddus sicrhau:
- Gwybodaeth: Rhaid i staff ac arweinwyr fod yn ymwybodol o ofynion y ddyletswydd a’u hystyried yn ymwybodol wrth wneud penderfyniadau.
- Amseroldeb: Rhaid ystyried y ddyletswydd cyn ac yn ystod o broses o lunio polisïau, yn hytrach na’i gyfiawnhau ar ôl gwneud penderfyniadau.
- Ystyriaeth briodol: Rhaid i’r ddyletswydd gael ei hintegreiddio’n gadarn i’r broses o wneud penderfyniadau, nid ei thrin fel mater o ffurfioldeb yn unig.
- Gwybodaeth ddigonol: Rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau asesu’r wybodaeth bresennol a nodi unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen i fynd i’r afael â’r ddyletswydd.
- Adolygu: Mae’r ddyletswydd yn berthnasol fel rhwymedigaeth barhaus wrth ddatblygu polisïau, gwneud penderfyniadau, gweithredu ac adolygu.
- Peidio â dirprwyo: Mae’r ddyletswydd yn aros gyda’r awdurdod cyhoeddus, hyd yn oed os yw swyddogaethau’n cael eu dirprwyo i sefydliad arall.
Dyletswyddau penodol yng Nghymru
Diben y dyletswyddau penodol yng Nghymru yw helpu cyrff rhestredig o ran gweithredu’r ddyletswydd gyffredinol a chynorthwyo yng nghyswllt tryloywder. Mae’r dyletswyddau penodol yng Nghymru, a’r materion maent yn ymwneud â nhw, wedi’u nodi yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Ymgysylltu
Mae’r PSED yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff rhestredig ymgysylltu ag unigolion y mae’n eu hystyried yn gynrychiolwyr un neu fwy o grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau, a’u cynnwys.
Ar ben hyn, caiff corff rhestredig ymgynghori â phobl eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a’u cynnwys. Wrth benderfynu pwy sy’n addas, a phan fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod ystyried yr angen i ymgysylltu neu i ymgynghori â phobl o un neu fwy o grwpiau gwarchodedig sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r awdurdod yn gweithredu.
Rhaid i’r ymgysylltu hwn ddigwydd mewn perthynas â:
- gosod amcanion cydraddoldeb
- paratoi ac adolygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- nodi sut y gall gwaith a gweithgareddau awdurdod gyfrannu at gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol
- asesu effaith debygol unrhyw bolisïau neu arferion sy’n cael eu cynnig neu eu hadolygu ar grwpiau gwarchodedig
Croestoriadedd
Mae croestoriadedd yn adlewyrchu bod gan unigolion amrywiaeth o nodweddion, a statws economaidd-gymdeithasol, a bod y rhain, gyda’i gilydd, yn gallu arwain at fathau penodol o wahaniaethu neu anfantais. Mae hwn yn gysyniad pwysig wrth feddwl am ymgysylltu â phobl hŷn.
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, mae’n ehangu’r Ddeddf Cydraddoldeb, ac yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff i roi sylw dyledus i’r angen i leihau’r anghydraddoldebau mewn canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol.
“Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau, yn ystyried pa mor briodol yw eu harfer mewn ffordd sydd wedi cael ei dylunio i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.”
Mae’r canllawiau statudol ar y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn darparu’r diffiniadau defnyddiol canlynol.4
Ystyr anfantais economaidd-gymdeithasol: yw pan mae rhywun yn “byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas.
Anghydraddoldeb canlyniadau: (mae hyn) yn ymwneud ag unrhyw wahaniaeth mae modd ei fesur yn y canlyniad a gaiff y rheini sydd wedi wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a’r canlyniad a gaiff gweddill y boblogaeth.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo llesiant, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac ymyrraeth gynnar.5
Nod y Ddeddf yw rhoi mwy o reolaeth i unigolion dros y cymorth maent yn ei gael a chryfhau hawliau gofalwyr, yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd gydweithio i ddarparu gofal a chymorth integredig a chynaliadwy.
Mae’r Cod Ymarfer a’r canllawiau sy’n berthnasol i’r Ddeddf yn cynnwys yr egwyddorion canlynol sy’n ymwneud ag ymgysylltu:
- Sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth dros y gofal a’r cymorth maent yn ei gael drwy gynnwys unigolion yn weithredol mewn penderfyniadau am eu bywydau, gan gynnwys wrth asesu a diwallu angen.
- Sicrhau bod darparwyr y maent yn comisiynu neu’n caffael gwasanaethau ganddynt yn annog ac yn galluogi pawb i gyfrannu at gynllunio ffurf gwasanaethau a sut y byddant yn gweithredu i sicrhau canlyniadau llesiant, a bod darparwyr yn cynnwys pobl yn y gwerthusiad a’r adolygiad.
- Mae’r Cod yn diffinio cydgynhyrchu fel: ffordd o weithio lle mae ymarferwyr a phobl yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal i gynllunio a darparu gofal a chymorth.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yn rhoi ystod o bwerau i’r Comisiynydd hyrwyddo a diogelu buddiannau pobl hŷn, herio gwahaniaethu ar sail oedran, hyrwyddo arferion gorau wrth drin pobl hŷn ac adolygu’r gyfraith fel y mae’n effeithio ar bobl hŷn.
O dan y Ddeddf, caiff y Comisiynydd gyhoeddi Canllawiau ar arfer gorau mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw iddo wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddf sydd wedi’i chynllunio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio mewn ffordd gynaliadwy ar y cyd i ddiwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Yn ogystal â nodi saith nod llesiant, mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys pum ffordd o weithio, sy’n darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau:
- Hirdymor
- Integreiddio
- Cynnwys
- Cydweithio
- Atal
Mae Cydweithio yn cyd-fynd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy’n gofyn am ymgysylltu â chynrychiolwyr, ond mae Cynnwys yn mynd ymhellach ac yn cwmpasu ymgysylltu â phobl (gan gynnwys cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu).
Ymgysylltu â Phobl Hŷn
Mae cynnwys dinasyddion drwy ymgysylltu yn broses ddwyffordd barhaus a ddylai ganolbwyntio ar wrando’n weithredol a dangos parodrwydd i ddysgu ac ymateb i’r wybodaeth a’r profiadau a rannwyd.
Ymgysylltu ar waith
- Dylid parhau i ymgysylltu â phobl hŷn o amrywiaeth eang o gefndiroedd a Gellir cyflawni hyn, yn rhannol, drwy weithio gyda fforymau / rhwydweithiau ffurfiol pobl hŷn a sefydliadau sy’n cynrychioli eu buddiannau, ond dylid ymdrechu hefyd i estyn allan ac ymgysylltu ag unigolion nad ydynt efallai’n dod i gysylltiad â’r rhain.
- Mae’n bwysig ystyried y mannau lle mae pobl hŷn yn mynd yn ystod eu bywydau bob dydd, a pha gyfleoedd a allai fod i ddefnyddio’r rhain i helpu i sicrhau bod ystod fwy amrywiol o leisiau pobl hŷn yn cael eu clywed yn ystod gweithgareddau ymgysylltu. Gallai hyn gynnwys lleoedd fel archfarchnadoedd, swyddfeydd post, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a mannau addoli.
- Yn yr un modd, mae’n bwysig ystyried pobl hŷn a allai fod yn llai amlwg mewn bywyd bob dydd a nodi ffyrdd o estyn allan atynt fel nad ydynt yn cael eu heithrio o gyfleoedd ymgysylltu.
- Dylid cydnabod bod llawer o bobl hŷn yn parhau i fod yn weithgar drwy barhau i weithio, ymrwymiadau gofalu, gofal plant neu wirfoddoli, ac nad oes ganddynt lawer o amser yn aml i leisio eu pryderon a’u blaenoriaethau; mae gan bobl hŷn gyfyngiadau ar eu hamser yn yr un ffordd â phobl iau.
- Dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu, gan gynnwys opsiynau nad ydynt yn ddigidol, fel cynulliadau cyhoeddus a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, gohebiaeth ysgrifenedig a sgyrsiau dros y ffôn. Ni ddylai gweithgareddau ymgysylltu ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig fyth fod yn ‘ddigidol yn unig’.
- Wrth gynllunio gweithgareddau ymgysylltu, mae’n bwysig ystyried rhwystrau a allai atal pobl hŷn rhag cymryd rhan – fel hygyrchedd, trafnidiaeth neu allgáu digidol – a sut gellid dileu’r rhain. Dylai lleoliadau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu fod yn gwbl hygyrch i bobl hŷn, gyda chyfleusterau ac offer priodol yn cael eu darparu i alluogi ymgysylltu, fel cyfieithu Cymraeg/Saesneg/Iaith Arwyddion Prydain, dolenni clyw, goleuadau, seddi hygyrch, mynediad i gadeiriau olwyn, parcio i bobl anabl, a thoiledau hygyrch.
- Mae’n bwysig gweithio gyda chyfryngwyr neu eiriolwyr pan fo angen i alluogi pobl hŷn i gymryd rhan a sicrhau bod ganddynt Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol bod llais y person hŷn yn cael ei glywed, ac nid llais yr unigolyn sy’n ei gefnogi.
- Dylid hefyd ystyried sut gallai fforymau ac unigolion lleol sy’n cynrychioli pobl hŷn, fel Hyrwyddwyr Pobl Hŷn, gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithgareddau ymgysylltu, yn ogystal â chymryd rhan ynddynt.
- Dylid ymgysylltu ar adeg pan fydd pobl hŷn yn cael cyfle gwirioneddol i gyfrannu eu meddyliau, lleisio eu pryderon a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
- Mae’n bwysig bod yn onest ac yn realistig am yr heriau sy’n cael eu hwynebu a’r penderfyniadau y mae angen eu Rhan o hyn yw rheoli disgwyliadau pobl o ran opsiynau posibl a’r hyn y gellir ei gyflawni.
- Dylai gweithgareddau ymgysylltu sicrhau bod amrywiaeth eang o leisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac nad yw un llais penodol (neu grŵp o leisiau) yn meddiannu neu’n rheoli’r sgwrs.
- Mae’n bwysig buddsoddi amser i feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth gyda gwahanol grwpiau ac unigolion, gan greu’r sylfeini ar gyfer ymgysylltu agored, gonest ac ystyrlon.
- Dylid darparu adborth sy’n dangos yn glir sut mae lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wedi cael eu defnyddio a’r ffyrdd maen nhw wedi dylanwadu ar gynigion, polisïau ac arferion.
Ymgynghori â Phobl Hŷn
Mae ymgynghori yn aml yn broses fwy ffurfiol sy’n canolbwyntio fel arfer ar fynd i’r afael â mater penodol neu geisio barn am newidiadau arfaethedig i wasanaethau neu bolisïau. Fel ymgysylltu, mae ymgynghori yn broses ddwy ffordd, a ddylai roi cyfleoedd ystyrlon i bobl hŷn rannu eu barn, eu syniadau ac unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Ymgynghori ar waith
- Rhaid cynnal ymgynghoriadau ar adeg pan fo unrhyw gynigion yn dal i fod ar gam ffurfiannol, a dylid ymrwymo i fod yn agored ac yn atebol, yn ogystal â pharodrwydd i newid cwrs o ganlyniad i ddysgu drwy ymgynghori.
- Dylai dogfennau ymgynghori fod ar gael i’r ystod ehangaf bosibl o bobl hŷn, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
- Dylid darparu digon o wybodaeth i alluogi pobl i ddeall yr hyn sy’n cael ei gynnig a’r rhesymau y tu ôl iddo.
- Dylid defnyddio iaith syml a dylid gosod y ddogfen mewn ffordd.
- Dylai unrhyw ddatganiad o ffeithiau mewn dogfen ymgynghori gael ei ategu gan dystiolaeth, a dylai’r dystiolaeth fod ar gael i bobl hŷn.
- Dylai cwestiynau a ofynnir mewn dogfennau ymgynghori fod yn gwestiynau agored sydd â sail gadarn yn y ddogfen ymgynghori ac unrhyw dystiolaeth ategol, ac ni ddylent arwain yr ymatebydd mewn unrhyw ffordd.
- Dylid rhoi digon o amser i bobl hŷn ystyried y wybodaeth ac ymateb.
- Dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i bob ymateb i’r ymgynghoriad gan berson hŷn, ni waeth sut y cyflwynwyd yr ymateb hwnnw.
- Mae’n bwysig dangos i bobl hŷn sut mae eu hymatebion wedi cael eu hystyried yn gydwybodol wrth lunio penderfyniadau terfynol.
Asesu effaith
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol, ac asesu effaith unrhyw bolisi sy’n cael ei adolygu ac unrhyw ddiwygiad arfaethedig. Rhaid i gyrff gyhoeddi adroddiadau am yr asesiadau lle maent yn dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar allu awdurdod i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol a monitro effaith polisïau ac arferion ar ei allu i gyflawni’r ddyletswydd honno.
Rhaid i adroddiadau ar asesiadau nodi’n benodol ddiben y polisi neu’r arfer (neu’r diwygiad) a aseswyd, a chynnwys crynodeb o’r camau y mae’r awdurdod wedi’u cymryd i gynnal yr asesiad (gan gynnwys ymgysylltu perthnasol).
Rhaid i grynodeb o’r wybodaeth y mae’r awdurdod wedi’i chymryd i ystyriaeth yn yr asesiad a chanlyniadau’r asesiad gael eu cyhoeddi hefyd, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau a wnaed mewn perthynas â’r canlyniadau hynny.
Yn ogystal, wrth asesu effaith ar grwpiau gwarchodedig, rhaid i awdurdodau rhestredig gydymffurfio â’r darpariaethau ymgysylltu a rhoi sylw dyledus i’r wybodaeth berthnasol sydd gan yr awdurdod.
Rôl asesu’r effaith ar gydraddoldeb wrth ymgysylltu ac ymgynghori
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae asesu effaith yn broses a ddylai sicrhau nad yw polisïau neu arferion yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn grwpiau a warchodir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, nac yn cael effaith andwyol arnynt.
Wrth asesu’r effaith, dylai Awdurdodau Lleol ystyried hefyd sut y gallai’r polisi neu’r arfer hyrwyddo cyfleoedd cyfartal yn well a sut y bydd yn effeithio ar gysylltiadau rhwng grwpiau. Mae asesu effaith yn ddyletswydd barhaus ac nid yw’n ymarfer ‘rhoi tic mewn blwch’. Rhaid rhoi sylw dyledus i ganlyniad asesiadau.
Asesu effaith yn ymarferol
- Dylid cydnabod bod ymgysylltu ac ymgynghori’n llwyddiannus yn dibynnu ar asesiad effaith cadarn, gan gynnwys asesiad o’r effaith ar Mae’r craffu hwn yn hanfodol i bennu effaith unrhyw gynnig ac a allai hyn gael effaith anghymesur ar unrhyw unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig, fel pobl hŷn.
- Mae rhoi ‘sylw dyledus’ i’r ddyletswydd gydraddoldeb yn golygu ei bod yn ddyletswydd o sylwedd y dylid ei harfer â thrylwyredd a meddwl Nid yw’n fater o ‘dicio blychau’.
- Dylid cadw cofnodion digonol o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddangos ystyriaeth briodol o ddyletswyddau cydraddoldeb a thrafodaeth onest ynghylch y cwestiynau perthnasol.
- Wrth asesu effaith, dylid ystyried y ffaith y gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Byddai achos o wahaniaethu uniongyrchol i’w gael pan fo person hŷn yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig.
- Ceir achos o wahaniaethu anuniongyrchol pan fo darpariaeth, maen prawf neu ymarfer yn cael ei gymhwyso i bawb ond ei fod yn creu anfantais dim ond i’r rhai sydd â nodwedd warchodedig mewn modd na ellir ei gyfiawnhau.
- Pan fydd problemau posibl yn cael eu hamlygu, nid yw’r broses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) yn atal camau gweithredu yn awtomatig ond mae’n sicrhau bod materion o’r fath yn cael eu cyfiawnhau, eu hegluro neu eu lliniaru pan fo angen, gyda chofnod clir o ystyriaethau ac ymatebion.
Mae rhagor o ganllawiau ar asesu’r effaith ar gydraddoldeb ar gael gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: https://www.equalityhumanrights.com/cy/arweiniad/public-sector-equality-duty/asesu-effaith-ar-dyletswydd-cydraddoldeb-sector-cyhoeddus
Symud ymlaen
Nod y Canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gweithgareddau ymgysylltu sy’n gwrando ac yn ymateb i leisiau pobl hŷn mewn ffordd ystyrlon, yn cynnal hawliau pobl ac yn diwallu dyletswyddau statudol.
Drwy fy sgyrsiau a’m hymgysylltiad fy hun â chydweithwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, rwy’n gwybod bod llawer o arferion da eisoes yn cael eu darparu a bod llawer o’r egwyddorion a nodir uchod eisoes yn cael eu defnyddio i ymgysylltu â phobl hŷn mewn ffyrdd arloesol ac effeithiol.
Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar hyn er mwyn i bob person hŷn gael cyfleoedd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny, a bod dull gweithredu cyson ar waith ledled Cymru.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a’u grymuso i siapio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Diolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am eu cefnogaeth wrth adolygu’r Canllawiau hyn.
Adnoddau defnyddiol
Ymgysylltu a Dylanwadu: Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
https://knowledgehub.cymru/cy/resources/egwyddorion-cenedlaethol-ar-gyfer-ymgysylltu-ar- cyhoedd-yng-nghymru/
Llawlyfr ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd
https://www.wlga.wales/SharedFiles/Download.aspx?pageid=62&mid=665&fileid=3865
Cyfraith Ymgynghori
https://www.wlga.wales/SharedFiles/Download.aspx?pageid=62&mid=665&fileid=3833
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: Ymgysylltu a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb
https://www.equalityhumanrights.com/sites/default/files/2022/our-work-engagement-and- equality-duty-public-authorities-wales-pdf-cymraeg.pdf
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol – Canllawiau i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd
https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/05/Canllawiau-S12-Sicrhau-mynediad-at- wybodaeth-a-gwasanaethau-mewn-oes-ddigidol.pdf