Ymatebion Ymgynghori – Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
1. Beth yw eich barn am egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
- Yn gyffredinol, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r weledigaeth ar gyfer newid sydd wedi’i chynnwys yn y Bil ar gyfer system fysiau sy’n darparu’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd, gan ddarparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau bysiau gydag amserlenni a chysylltiadau cydlynol, a gwybodaeth sy’n hawdd cael gafael arni.
- Mae trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da yn elfen allweddol o alluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda yng Nghymru. Mae egwyddorion cyffredinol y Bil yn bositif ac mae angen deddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd. Serch hynny, dim ond rhan o’r darlun yw deddfwriaeth ac ni fydd deddfwriaeth yn unig yn ddigon i sicrhau bod gan Gymru wasanaeth bysiau sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau dinasyddion, gan gynnwys dinasyddion hŷn.
- Mae ymchwil ar drafnidiaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru (gweler: Trafnidiaeth (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [HTML] | GOV.WALES ) yn dangos bod 14% o bobl 65+ oed yn defnyddio’r bws o leiaf unwaith yr wythnos. Dyma oedd yr uchaf o blith yr holl grwpiau oedran, felly mae’n hanfodol bod digon o bwyslais ar anghenion a gofynion pobl hŷn yn y Bil ac ar ôl ei weithredu.
- Yn ddiweddar, ymgynghorodd y Comisiynydd â phobl hŷn ynglŷn â blaenoriaethau ar gyfer ei thymor. Codwyd problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys bysiau, yn aml. Nid yw’r model gweithredu bysiau ar hyn o bryd yn diwallu anghenion pobl hŷn am amryw o resymau. Roedd y rhain yn cynnwys gwasanaethau cyfyngedig (neu mewn rhai achosion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, dim gwasanaethau o gwbl), yn enwedig gyda’r nos a phenwythnosau, methu â chael mynediad at apwyntiadau iechyd neu apwyntiadau eraill oherwydd llwybrau a/neu amserlennu, diffyg dibynadwyedd, a cherbydau anhygyrch. Sonnir am broblemau trafnidiaeth yn aml wrth y Comisiynydd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu ac mewn ymholiadau a dderbyniwyd gan ei Gwasanaeth Cyngor a Chymorth.
- Bydd llawer o fanylion gweithredol y Bil yn cael eu gwneud drwy reoliadau a chanllawiau a bydd yn bwysig rhoi digon o amser i ymgynghori arnynt ac i graffu’n ddigonol. Mae’r Bil hefyd yn caniatáu craffu rheolaidd gan y Senedd, sydd i’w groesawu.
- Yr hyn sy’n allweddol i gyflawni bwriad y polisi a nodwyd yw ymgynghori ystyrlon a deall gweledigaeth y gymuned ehangach ar gyfer gwasanaethau bysiau. Mae angen i’r weledigaeth hon gynnwys y rhai nad ydynt yn defnyddio bysiau ar hyn o bryd, ac mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r rhain.
- Mae Bil Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth y DU (Rhif 2), a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2024, yn cynnwys darpariaethau pwysig ar ddiogelwch a hyfforddiant gyrwyr, gan gynnwys hyfforddiant mewn meysydd fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a chydraddoldeb i bobl anabl (gweler: Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) [HL] ). Mae pobl hŷn wedi codi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys bysiau) gyda’r Comisiynydd, yn ogystal â hygyrchedd. Roedd gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gyrwyr bysiau o gydraddoldeb a hygyrchedd wedi’i godi gyda’r Comisiynydd hefyd. Dylid archwilio ac ymdrin â’r adrannau perthnasol o Fil Llywodraeth y DU fel rhan o Fil Llywodraeth Cymru.
2. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 1 – Cysyniadau allweddol ac amcanion cyffredinol (adrannau 1 i 4)
- Mae’r cysyniadau allweddol a’r amcanion cyffredinol yn rhesymol.
- Mae’r amcan i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau bysiau lleol i’w groesawu ond er mwyn iddo weithio, mae angen mwy o ystyriaeth a dealltwriaeth o’r rhwystrau rhag defnyddio gwasanaethau bysiau lleol. Er mwyn goresgyn rhwystrau, rhaid eu deall yn iawn yn y lle cyntaf. Mae pobl hŷn ar draws Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac ynysig, yn aml yn wynebu heriau trafnidiaeth, ac mae gwasanaethau bysiau wedi’u torri’n ddifrifol mewn rhai ardaloedd. Dywedodd un person hŷn wrth ymateb i ymgynghoriad diweddar y Comisiynydd ar ei blaenoriaethau “mae gen i bas bws ond dim bws”.
- Mae cynyddu argaeledd gwasanaethau bysiau lleol yn hanfodol, felly mae’n ddefnyddiol gweld hynny wedi’i adlewyrchu fel amcan yn y Bil. Mae’r geiriad ‘gweithio tuag at’ hyn yn awgrymu dealltwriaeth o raddfa’r heriau dan sylw. Mae digon o gyllid i gefnogi gwelliannau i wasanaethau bysiau yn hanfodol i gyflawni amcanion y Bil. Heb ddigon o gyllid, ni fydd yn bosib gwneud na chynnal gwelliannau i wasanaethau bysiau lleol.
- Mae gan yr amcan sy’n canolbwyntio ar welliant parhaus o ran dibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol y potensial i fynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â nifer o’r problemau a godwyd gan bobl hŷn. Serch hynny, yn wahanol i’r ddeddfwriaeth ddrafft gyfredol ar gyfer Lloegr yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2), nid oes llawer o fanylion penodol am ddiogelwch. Dylid ystyried yr adrannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth yn Lloegr a’u hychwanegu at Fil Cymru er mwyn mynd i’r afael â hyn, ynghyd ag unrhyw fesurau pellach i fynd i’r afael â diogelwch. Gallai hyn gynnwys ystyried y pwyntiau a godwyd yn y ddadl y llynedd ar gynnig deddfwriaethol Aelod am Fil i gynyddu diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus. (Gweler Cyfarfod Llawn 12/03/2024 – Senedd Cymru.)
- Nid yw’r un o chwe amcan y Bil yn sôn am ansawdd, gwella ansawdd, nac yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau bysiau a phrofiadau teithwyr. Dylid ychwanegu neu ymgorffori hwn fel amcan. Gallai ansawdd gynnwys cyfeiriadau at hyfforddiant a gosod disgwyliadau o ran isafswm yr hyfforddiant sydd ei angen i gefnogi gyrwyr bysiau. Gall problemau fel ymddygiad gyrwyr effeithio ar ba mor debygol y mae pobl hŷn o ddefnyddio bysiau, tra bod ymddygiad gwrthgymdeithasol teithwyr eraill yn ffactor arall y soniwyd amdano gan bobl hŷn wrth greu hinsawdd lle mae pobl yn teimlo’n anniogel. Mae’r Bil yn cynnig cyfle pwysig i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac mae hyn wedi’i gynnwys yn benodol yn neddfwriaeth ddrafft y DU – Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2). Unwaith eto, dylai Llywodraeth Cymru ystyried y cyfeiriadau at hyfforddiant ym Mil y DU a mabwysiadu dull tebyg.
- Mae’r nod o weithio tuag at gyflawni system drafnidiaeth integredig yn synhwyrol. Serch hynny, dylid bod yn ofalus nad yw llwybrau integredig, yn enwedig i gysylltu bysiau a rheilffyrdd, yn arwain at achosi anghyfleustra’n anfwriadol i deithwyr: er enghraifft, drwy ychwanegu amser diangen at deithiau oherwydd bod yn rhaid i lwybr bws gynnwys gorsaf reilffordd.
- Mae’r amcan i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff trafnidiaeth ar y ffyrdd i’w groesawu. Mae pobl hŷn yn parhau i boeni am newid hinsawdd. Canfu ymchwil a wnaed ar ran y Comisiynydd ym mis Chwefror a Mawrth 2025 fod 81% o bobl hŷn yn poeni am newid hinsawdd.
3. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 2 – Swyddogaethau Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â gwasanaethau bysiau lleol (adrannau 5 i 20)
- Croesewir y ffaith y bydd gofyn i Weinidogion Cymru ofyn am farn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill wrth baratoi a diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru ac y bydd gofyn iddynt gadw golwg ar y Cynllun.
- Serch hynny, nid yw rhestr o’r rhai yr ymgynghorir â nhw yn ystyried rhanddeiliaid nad ydynt yn defnyddio bysiau ar hyn o bryd ac nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd. Mae’r garfan hon o ddefnyddwyr posib yn allweddol i gynyddu nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r rhwydwaith bysiau ond ni fydd o reidrwydd yn cael ei gynnwys gan a.6 (4) (f) o’r rhai sy’n “cynrychioli buddiannau pobl sy’n defnyddio neu’n debygol o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol”. Dylid hefyd cynnwys ffyrdd o gynnwys buddiannau’r rhai y gellid eu hannog neu eu perswadio i ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol yn natblygiad Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, ac ymgynghori arno. Gallai hyn fod yn rhan o ymgysylltiad cymunedol ehangach o ran yr hyn y mae cymunedau eisiau ei weld gan wasanaethau bysiau a beth fyddai’n eu gwneud yn fwy deniadol i ystod ehangach o ddinasyddion neu’n annog defnyddwyr presennol i wneud mwy o siwrneiau ar fysiau.
- Er ei bod yn synhwyrol rhoi sylw i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol wrth i Weinidogion Cymru baratoi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, dylai Gweinidogion Cymru gael sicrwydd eu hunain bod cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol wedi bod yn destun ymgynghoriad ystyrlon ac eang, gan gynnwys gyda phobl hŷn, fel arall mae Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru mewn perygl o waethygu unrhyw broblemau gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol presennol. Mae ymgynghori drwy ddulliau ar-lein yn bennaf neu gyda phwyslais mawr ar ffurflenni ac arolygon ar-lein yn debygol o eithrio nifer sylweddol o bobl hŷn, y mae llawer ohonynt yn defnyddio bysiau ar hyn o bryd, neu yr hoffent ddibynnu ar wasanaethau bysiau.
- Mae’n hanfodol bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i weithredu gwasanaethau trawsffiniol yn llwyddiannus, wrth ddatblygu’r Bil a’i weithredu. Yn rhy aml, mae pobl hŷn sy’n byw ar y ffin â Lloegr ac sy’n defnyddio gwasanaethau trawsffiniol yn wynebu problemau a chymhlethdodau ychwanegol. Dywedodd un person hŷn wrth y Comisiynydd fod “byw mewn pentref ar y ffin yn golygu nad yw Cymru na Lloegr eisiau cymryd cyfrifoldeb amdanom ni”. Mae’n hanfodol nad yw dinasyddion, gan gynnwys dinasyddion hŷn, sy’n byw ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn profi gwasanaethau bysiau o ansawdd gwaeth oherwydd lle maent yn byw.
- Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Bil ei hun yn nodi y bydd taliadau arian parod yn cael eu cadw ar draws yr holl wasanaethau bysiau. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i grwpiau sy’n dibynnu’n bennaf ar arian parod ac yn cydnabod y twf yn y defnydd o arian parod ers 2022, sydd o leiaf yn rhannol ymateb i’r argyfwng costau byw parhaus.
- Bydd adrodd ar gynnydd yn rheolaidd fel y nodir yn y Bil yn ddefnyddiol o ran craffu ar ddatblygiadau. Dylai adroddiadau o’r fath fod yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch, gan ganiatáu i’r rhai sydd â diddordeb ddeall cynnydd.
- Er bod yr adran hon o’r Bil yn canolbwyntio ar Weinidogion Cymru, mae angen i’r Bil hefyd nodi eglurhad pellach ar rôl benodol awdurdodau lleol.
4. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 3 – Cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleol (adrannau 21 i 24)
Dim sylwadau.
5. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 4 – Gwybodaeth a data (adrannau 25 i 31)
- Gallai cydlynu gwybodaeth a data perthnasol gael effaith bositif ar deithio ar fysiau os yw’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i fanylion sy’n ymwneud â siwrneiau.
- Serch hynny, mae’n hanfodol bod y Bil yn nodi na all darparu gwybodaeth a data i’r cyhoedd fod ar-lein yn unig a’i fod yn glir ynglŷn â hyn. Rhaid cynnal sianeli all-lein ar gyfer darparu gwybodaeth a’u gweithredu i’r un safon â’r rhai ar-lein. Rhaid datblygu sianeli all-lein ac ar-lein ar gyfer gwybodaeth ar yr un pryd fel nad yw mynediad all-lein yn dod yn ‘ychwanegiad’ neu’n broblem i’w datrys nes ymlaen.
- Er y bydd croeso i apiau o ansawdd da gan nifer o bobl hŷn, ni fydd mynediad at wybodaeth am wasanaethau bysiau lleol sy’n dibynnu’n gyfan gwbl neu’n helaeth ar ffonau clyfar neu godau QR, yn dderbyniol. Ni ddylai pobl hŷn nad ydynt yn defnyddio’r we fod dan anfantais a dylent allu cael mynediad at wybodaeth a chynllunio teithiau drwy sianeli eraill nad ydynt yn ddigidol: er enghraifft, amserlenni print a thros y ffôn, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb.
- O ran eglurder, nid yw drafft presennol y Bil yn ddigonol ynghylch beth mae ‘ar gael i’r cyhoedd’ yn ei olygu’n ymarferol. Er mwyn rhoi sicrwydd, dylid cynnwys brawddeg ychwanegol yn 27 (1) neu 27 (5) gan nodi, at ddibenion y ddeddfwriaeth, fod ‘ar gael i’r cyhoedd’ yn golygu na ellir darparu’r wybodaeth drwy ddulliau digidol neu ar-lein yn unig.
- Mae rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth wrth awdurdodau lleol neu gynghorau cymuned ar feysydd fel llwybrau bysiau, safleoedd a seilwaith bysiau o dan Adran 26 yn ddefnyddiol. Serch hynny, dylai’r Bil hefyd gynnwys ffyrdd o wella safloedd a seilwaith bysiau, gan ystyried pryderon ynglŷn â diogelwch (fel y nodwyd yn gynharach). Byddai mynnu cynnal archwiliad rheolaidd o safleoedd bysiau yn helpu i nodi ble mae’r problemau. Mae angen mynd i’r afael â phryderon fel diogelwch safleoedd bysiau, goleuadau mewn ardaloedd sydd wedi’u goleuo’n wael, neu’r heriau corfforol o fynd ar fws neu ddod oddi ar fws, yn enwedig mewn tywydd gwael. Byddai hyn yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at amcanion y Bil o hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau bysiau lleol a gwella dibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol yn barhaus.
6. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 5 – Pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol (adrannau 32 i 34)
- Dim sylwadau.
7. Beth yw eich barn ar ddarpariaethau’r Bil (a nodir yn ôl Rhannau, isod), yn benodol a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd?
§ Rhan 6 – Amrywiol a chyffredinol (adrannau 35 i 44)
- Dim sylwadau.
8. Beth yw’r rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, a sut mae’r Bil yn ystyried y rhwystrau hynny?
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
- Un o’r rhwystrau mwyaf i weithredu darpariaethau’r Bil yw cyllid. Mae gwasanaethau bysiau wedi cael eu newid, eu lleihau a’u tynnu’n ôl, yn enwedig ers y pandemig, mewn ymgais i reoli costau. Ni fydd masnachfreinio a chynllunio gwell yn unig yn galluogi Llywodraeth Cymru i fodloni’r amcanion a nodir yn y Bil. Er enghraifft, efallai na fydd masnachfreinio yn gwella prydlondeb a dibynadwyedd.
- Dylai ariannu bysiau yn y dyfodol roi ystyriaeth i’r ffaith a nodir ym Memorandwm Esboniadol y Bil (tudalen 7, para 3.1) fod bysiau’n parhau i fod y dewis mwyaf ymarferol a phoblogaidd o ran trafnidiaeth gyhoeddus, gyda thua 90 miliwn o siwrneiau gan deithwyr bob blwyddyn. Mae hyn yn cymharu â thua 30 miliwn o deithiau ar y rheilffyrdd bob blwyddyn.
- Mae diffyg eglurder o ran trefniadau pontio wrth i fasnachfreinio gael ei gyflwyno gam wrth gam ledled Cymru. Mae’n bwysig bod effaith y pontio yn cael ei deall a’i rheoli fel nad oes unrhyw effaith andwyol ar deithwyr.
- Efallai y bydd rhwystrau i rai cwmnïau bysiau bach a allai ei chael hi’n anodd cystadlu â chwmnïau mwy. Mae hyn yn peri risg o ran gadael i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau gael ei rheoli gan nifer gymharol fach o gwmnïau mawr, y mae rhai ohonynt wedi’u lleoli y tu allan i Gymru.
- Mae gwybodaeth leol yn ffactor pwysig arall na ddylid ei anwybyddu: wrth ymrwymo i gontractau gwasanaethau bysiau lleol, mae’n hanfodol bod unrhyw broses dendro yn ystyried profiad neu ddealltwriaeth darparu gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd daearyddol penodol sy’n dod o dan y tendr. Mae hyn yn arbennig o wir mewn lleoliadau gwledig lle mae gwybodaeth am ddaearyddiaeth leol yn hanfodol i gynllunio cerbydau a llwybrau addas. Mae pobl hŷn wedi tynnu sylw at amgylchiadau lle byddai bysiau bach yn well na cherbydau mwy, o ystyried y mathau o ffyrdd y mae llwybrau’n debygol o’u defnyddio. Os na chaiff gwybodaeth leol ei gwerthfawrogi’n ddigonol yn ystod y broses dendro a chynllunio, ceir risg o gerbydau a llwybrau anaddas nad ydynt yn gweithio i deithwyr.
- Bydd datblygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru yn golygu y bydd angen ymgysylltiad ystyrlon ac mae angen i hyn ymestyn y tu hwnt i’r grwpiau a restrir yn y Bil ar hyn o bryd. Rhaid ymgynghori â’r rhai sy’n annhebygol o ddefnyddio bysiau ar hyn o bryd os yw’r Bil yn mynd i allu cael effaith bositif ar gynyddu niferoedd teithwyr.
- Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gael sicrwydd bod y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn ffynonellau gwybodaeth sy’n gywir ac yn ddibynadwy, yn seiliedig ar ymgysylltiad cymunedol cryf cyn dibynnu’n ormodol arnynt i lywio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.
- Mae angen i’r Bil fod yn glir na all darparu gwybodaeth i’r cyhoedd fod ar-lein yn unig nac ychwaith ddibynnu ar allu defnyddio’r we. Byddai cyfyngu gwybodaeth i ffynonellau ar-lein yn unig yn ei gwneud hi’n anoddach i rai pobl hŷn allu defnyddio gwasanaethau bysiau oherwydd diffyg gwybodaeth am amserlenni, sut i ddefnyddio gwasanaethau ymatebol etc.
9. Pa mor briodol yw y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Rhan 1 o’r Memorandwm Esboniadol)?
- Mae’r pwerau’n eang ond mae cydbwysedd dealladwy rhwng faint o fanylion y mae’n rhesymol eu cynnwys yn y Bil a’r hyn y mae angen ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth. Mae’n hanfodol bod digon o amser yn cael ei ganiatáu a bod ymgynghori ystyrlon yn digwydd ar unrhyw reoliadau a chanllawiau sy’n deillio o hynny.
10. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn debygol o ddeillio o’r Bil?
- Bydd llwyddiant y Bil yn dibynnu i raddau helaeth ar ba mor effeithiol y caiff ei weithredu. Gallai oedi wrth gyflwyno systemau neu wasanaethau newydd danseilio’r buddion. Mae potensial i’r amserlen ar gyfer gweithredu’r Bil lithro a allai achosi heriau pellach.
- Gallai newidiadau i lwybrau etc. wneud y gwasanaeth bysiau yn anoddach i rai pobl hŷn gael mynediad ato a’i lywio os na wneir digon o ymdrech i gyfathrebu datblygiadau. Oni bai bod y Bil yn glir ynglŷn â’r angen i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol, mae risg y gallai pobl hŷn a grwpiau eraill sydd o risg uwch o allgáu digidol gael trafferth dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae hyn yn arbennig o wir gan fod y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at y ffaith bod teithwyr bysiau yn gogwyddo tuag at gwintilau incwm is (tudalen 178) a fydd mewn mwy o berygl o allgáu digidol.
11. Beth yw eich safbwyntiau ar asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol y Bil fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol.
- Fel unrhyw brosiect mawr o’r natur yma, ceir pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd, gallu i’w gyflawni a chost gyffredinol. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy rai o’r cyfeiriadau at gynlluniau wrth gefn yn ei asesiad risg.
12. A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu codi am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, neu unrhyw faterion cysylltiedig?
- Serch hynny, yn ymarferol, mae risg y gallai unrhyw gostau ychwanegol i weithredu’r Bil neu reoli’r cyfnod pontio etc. fod yn uchel.
- Byddai sicrwydd bod amcangyfrifon o nifer y staff sydd eu hangen ar gyfer Cyfathrebu / negeseuon a chyfryngau cymdeithasol / ymgysylltu â rhanddeiliaid a Chysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata, sy’n ystyried yn llawn yr angen i ymgysylltu drwy lwybrau nad ydynt yn ddigidol, yn ddefnyddiol. Bydd angen digon o gapasiti i ddelio ag ymholiadau, cysylltu etc. dros y ffôn ac mewn rhai achosion, copïau caled drwy’r post.
- Gallai’r asesiad o oblygiadau ariannol fod wedi cynnwys asesiad gwerth am arian.
12. A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu codi am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef neu unrhyw faterion cysylltiedig?
- Mae’r Bil yn cynnig manteision posib i bobl hŷn os caiff ei weithredu’n llwyddiannus, fel hygyrchedd gwell a gwelliannau i wasanaethau bysiau. Serch hynny, mae gan bobl hŷn bryderon am ddibynadwyedd gwasanaethau, y risg o dorri neu newid llwybrau, a’u gallu i ddod o hyd i wybodaeth amserol.
- Nid yw’r seilwaith o ran llais teithwyr ac ymgysylltu â chymunedau yn y Bil yn ddigon cryf ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn ymwneud â diffyg llais i bobl nad ydynt yn teithio ar fysiau ar hyn o bryd. Mae’n bwysig deall cymhellion y rhai nad ydynt yn defnyddio bysiau ar hyn o bryd er mwyn datblygu ymyriadau effeithiol i dyfu’r rhwydwaith teithwyr. Heb glywed a chynnwys y rhanddeiliaid hyn, nid yw’n bosib mapio a deall anghenion sydd heb eu diwallu.
- Mae’n hanfodol bod gwelliannau i wasanaethau bysiau hefyd yn cael eu gwneud yn y tymor mwy uniongyrchol, yn hytrach na dim ond aros i’r Bil gael ei basio a gweithredu masnachfraint etc. ar draws pob rhan o Gymru. Dylid cymryd y cyfleoedd i nodi a mynd i’r afael â phryderon teithwyr hŷn nawr. Dylai mecanweithiau ar gyfer sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau bysiau, er enghraifft, drwy waith awdurdodau lleol ar Gymunedau Oed-Gyfeillgar, fod wedi’u sefydlu’n dda cyn i’r Bil gael ei basio.
- Dylid archwilio Bil Bysiau drafft cyfatebol Llywodraeth y DU a dylai ei bwyslais ar ddiogelwch a hyfforddiant gyrwyr gael ei ymgorffori yn y ddeddfwriaeth ddrafft yng Nghymru.
- Mae’n hanfodol bod Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod ganddynt arbenigedd digonol am fysiau yn benodol er mwyn sicrhau bod y Bil yn cael ei weithredu’n llwyddiannus.
- Mae’n bwysig rhoi’r newyddion diweddaraf i randdeiliad, gan gynnwys pobl hŷn, yn ystod cyfnod o newid. Bydd darparu negeseuon clir a chyson yn allweddol o ran cynnig sicrwydd ac atal unrhyw erydu pellach o ran hyder mewn gwasanaethau bysiau.