Angen Help?
Image of Pound coins and banknotes money currency of United Kingdom

Ymateb i Ymgynghoriad: Ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion Eitemau sydd ar gael i’w llwytho i lawr:

Ymateb i Ymgynghoriad: Ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Medi 2025

Crynodeb – Blaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru:

  • Sefydlu ffynonellau cymorth i bobl hŷn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol ac sydd eisoes yn hawlio eu hawliadau i gyd.
  • Ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau, os bydd mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau fel Gostyngiadau yn y Dreth Gyngor, nad yw hynny’n arwain at ddiffyg cyllid i awdurdodau lleol.
  • Cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, gan sicrhau bod mwy o bobl hŷn yn cael cymorth priodol yn gyflym, fod llai yn profi’r niwed sy’n deillio o dlodi tanwydd, a bod adnewyddu neu gynnal a chadw boeleri yn parhau i fod yn opsiwn mewn achosion lle nad yw atebion carbon isel yn addas ar hyn o bryd.
  • Blaenoriaethu mesurau ataliol sy’n helpu pobl i aros yn iach, i heneiddio’n dda, ac i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.
  • Ystyried mesurau i helpu pobl hŷn i fynd ar-lein ac aros ar-lein ym mhob maes polisi a rhaglen berthnasol, gan archwilio polisïau a phrosesau presennol i sicrhau nad ydynt yn arwain at allgáu digidol.
  • Sicrhau cyllid teg ar gyfer bysiau a chymorth ar gyfer Trafnidiaeth Gymunedol, gan gydnabod bod bysiau’n cyfrif am oddeutu 90 miliwn o deithiau gan deithwyr bob blwyddyn.
  • Clustnodi a pharhau i roi cyllid penodol i awdurdodau lleol ar gyfer Cymunedau Oed-Gyfeillgar i sicrhau bod yr holl bobl hŷn yng Nghymru yn byw ac yn cymryd rhan mewn lleoedd cynhwysol ac effeithiol, sy’n gweithio’n gynaliadwy i chwarae rhan ataliol ac yn ein helpu ni i gyd i heneiddio’n well.
  • Dyrannu digon o adnoddau i roi’r camau gweithredu a amlinellir yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar waith yn llawn er mwyn gwneud yn siŵr nad yw pobl hŷn yn cael eu cam-drin.
  • Ariannu ac ehangu gwasanaethau eiriolaeth i bobl hŷn er mwyn grymuso unigolion i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn enwedig wrth ymdrin â systemau cymhleth fel iechyd, gofal cymdeithasol, tai, diogelu/cam-drin, a chymorth ariannol.
  • Adolygu penderfyniadau gwario arfaethedig i nodi a mynd i’r afael yn benodol ag unrhyw ragfarnau posibl sy’n gysylltiedig ag oedran neu ganlyniadau anfwriadol i bobl hŷn.
  • Sicrhau bod adnoddau a ddyrennir yn cefnogi urddas pobl hŷn ac yn hyrwyddo ac yn cynnal eu hawliau yn nes ymlaen mewn bywyd.

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

Hoffai’r Comisiynydd weld y meysydd canlynol yn cael blaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

Tlodi

Mae bron i un o bob chwe pherson hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (16%).[i]  Mae hyn yn cynyddu gydag oedran. Mae 17% o bobl 65-69 a 75-79 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol, gan gynyddu ymhellach i 18% i bobl 80-84 oed ac 20% i bobl 85 oed a hŷn.[ii]  Mae effeithiau’r argyfwng costau byw parhaus yn dal i gael eu teimlo, sy’n golygu nad yw pobl hŷn ar yr incwm isaf yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi na chael digon o fwyd.  Mae hyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn.

Croesewir y ffaith bod Llywodraeth y DU yn ailsefydlu’r Lwfans Tanwydd Gaeaf ar gyfer pobl hŷn gydag incwm trethadwy blynyddol sy’n is na £35,000. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai’r cyfan mae hyn yn ei olygu yw ein bod yn mynd yn ôl i sut yr oedd hi cyn dod ag ef i ben yn 2024, pan oedd pethau’n anodd i lawer o bobl hŷn yn barod.

Yn ystod hydref/gaeaf 2024-25, pan oedd y Lwfans Tanwydd Gaeaf wedi’i gyfyngu i ddim ond pobl hŷn a oedd yn cael Credyd Pensiwn, daeth y Comisiynydd yn ymwybodol o nifer o bobl hŷn nad oeddent yn gymwys i gael Credyd Pensiwn (weithiau gan eu bod nhw ddim ond ychydig o bunnoedd neu geiniogau dros y trothwy) ac yn dal i wynebu caledi ariannol difrifol er eu bod yn hawlio popeth roedden nhw’n cael ei hawlio.

Ni fyddai pobl hŷn yn y sefyllfa hon o reidrwydd yn gymwys i gael cymorth ariannol brys Llywodraeth Cymru – y Gronfa Cymorth Dewisol, sydd i fod yn gronfa argyfwng.  I fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng, rhaid i bobl fod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft, wedi colli swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am y taliad cyntaf, a heb unrhyw fath arall o gymorth ariannol
  • yn profi argyfwng annisgwyl sy’n golygu nad oes arian i brynu bwyd, nwy a/neu drydan, neu eitemau hanfodol eraill
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed (nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer y grant hwn)
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion.[iii]

Mae angen dybryd i sefydlu ffynonellau cymorth i bobl hŷn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Taliad Cymorth mewn Argyfwng o dan y Gronfa Cymorth Dewisol ac sydd eisoes yn hawlio eu hawliadau i gyd.

Mae llai o lawer o bobl hŷn yn gofyn am Daliad Cymorth mewn Argyfwng. Ym mis Mawrth 2025, dim ond 126 o bobl dros 70 oed ofynnodd am daliad mewn argyfwng, a 598 oedd y ffigur cyfatebol ar gyfer pobl 60-69 oed.  Mae hyn yn cymharu â 6,064 o bobl 30-49 oed, er enghraifft.[iv]

Er y dylid gwneud gwaith i hyrwyddo’r Gronfa Cymorth Dewisol a Thaliadau Cymorth mewn Argyfwng i bobl hŷn, gweithwyr cynghori a phobl eraill sy’n debygol o fod mewn cysylltiad â phobl hŷn a allai gael budd o daliad, mae angen cronfa benodol ar gyfer pobl hŷn nad ydynt mewn argyfwng ond y mae angen cymorth arnynt.

Symleiddio Budd-daliadau yng Nghymru a chynyddu’r nifer sy’n hawlio

Mae’r Comisiynydd yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru ar symleiddio Budd-daliadau yng Nghymru a Siarter Budd-daliadau Cymru. Mae’n hanfodol bod pob person hŷn yn cael ei hawliau ariannol yn llawn – fel Gostyngiadau yn y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, rhaid mynd ati’n briodol i ariannu cynnydd yn y nifer sy’n hawlio ar draws pob grŵp oedran. Dylai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau nad yw gwell mynediad yn arwain at ddiffyg cyllid i awdurdodau lleol.

Dylai’r Gyllideb Ddrafft hefyd barhau i gefnogi ymdrechion i sicrhau bod pobl hŷn yn hawlio’r holl hawliadau sydd ar gael ar lefel y DU, gan gynnwys Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth fel Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi, a buddsoddi mewn cymorth penodol i awdurdodau lleol ddefnyddio data sydd ar gael yn barod i ganfod pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys ond nad ydynt yn hawlio ar hyn o bryd. Dylai adnoddau alluogi gwaith allgymorth rhagweithiol – fel llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau â chartrefi – gan adeiladu ar waith peilot presennol gyda Policy in Practice. Dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer y math hwn o weithgaredd wedi’i dargedu dros rowndiau pellach o waith codi ymwybyddiaeth cyffredinol.

Mae cyllid parhaus i fudiadau’r trydydd sector weithio’n uniongyrchol gyda phobl hŷn hefyd yn hanfodol. Mae’r sefydliadau hyn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddod o hyd i unigolion a allai fod yn colli allan ar hawliau a’u cefnogi drwy’r broses ymgeisio – rhan hanfodol o’r ymdrechion i gynyddu incwm, lliniaru tlodi ac atal dirywiad.

Tlodi Tanwydd

Er bod y Lwfans Tanwydd Gaeaf ar gael unwaith eto i’r rhan fwyaf o bobl hŷn yng Nghymru erbyn hyn, mae tlodi tanwydd a chynnydd mewn prisiau ynni yn parhau i fod yn bryder a godwyd gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn.  Mae tlodi tanwydd yn arwain at gartrefi oer, sy’n cyfrannu at farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf ac at wahanol fathau o salwch symptomatig. Mae newidiadau mewn tymheredd oherwydd y tywydd oer yn debygol o effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn. Mae pobl 75 oed a hŷn yn cyfrif am 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf.[v]

Gall tywydd oer a byw mewn tŷ oer effeithio ar amrywiaeth o gyflyrau iechyd a’u gwaethygu, gan gynnwys cyflyrau anadlol a chylchredol, clefyd cardiofasgwlaidd ac anafiadau damweiniol.[vi] Hefyd, mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng tymheredd oer mewn cartref ac iechyd meddwl gwaeth. Mae hyn yn arwain at gostau sylweddol i GIG Cymru: yn 2019, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod effaith oerfel gormodol yn arwain at gynnydd o tua £41 miliwn i’r gwasanaeth iechyd mewn costau yn gysylltiedig â thai o ansawdd gwael, gan ddod â’r cyfanswm i bron £100 miliwn y flwyddyn.[vii]  Mae mynd heb fwyd neu beidio â bwyta digon dros amser yn arwain at ddiffyg maeth, sy’n cynyddu’r risg o fynd yn eiddil, a golygu cynnydd yn nifer yr ymweliadau â meddygon teulu ac ysbytai, a gorfod aros yn yr ysbyty’n hirach.[viii]

Felly, dylai lleihau tlodi tanwydd i bobl hŷn gael ei ystyried yn rhan bwysig o weithredu i atal gan Lywodraeth Cymru.

Gall Rhaglen Cartrefi Clyd Nyth chwarae mwy o ran wrth leddfu tlodi tanwydd.  Mae’n hollbwysig o hyd taro cydbwysedd rhwng rôl y Rhaglen yn cyflawni’r ymrwymiadau Sero Net a gwneud yn siŵr bod cartrefi pobl hŷn yn gynnes ac yn ddiogel ac mor ynni-effeithlon â phosibl, hyd yn oed os nad yw’r cartrefi hyn yn addas ar gyfer atebion gwresogi carbon isel ar hyn o bryd.

Roedd y Comisiynydd yn falch o weld newid i gynllun Nyth ym mis Ebrill 2025 i ganiatáu trwsio boeleri nwy neu osod boeleri nwy newydd mewn tai lle nad yw opsiynau carbon isel yn bosibl eto.  Rhaid i hyn barhau, ochr yn ochr ag ymrwymiad na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys byth yn cael ei adael mewn argyfwng heb system wresogi a dŵr poeth sy’n gweithio. Mae angen parhau â ‘llwybr argyfwng’ ar gyfer y rheini sy’n arbennig o agored i niwed hefyd.

Dylai cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, gan sicrhau bod mwy o bobl hŷn yn cael cymorth priodol yn gyflym a bod llai yn profi’r niwed sy’n deillio o dlodi tanwydd.

Yn y tymor byr, mae angen darparu cymorth brys mewn argyfwng, gan gynnwys cymorth i ychwanegu at fesuryddion talu ymlaen llaw a phrynu tanwydd oddi ar y grid fel olew ac LPG.  Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu un llwybr ar gyfer hyn ond fel y dangosir uchod, mae perygl bod pobl hŷn nad ydynt mewn argyfwng ond mewn caledi ariannol difrifol yn colli allan.

Atal

Nid yw’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â gwasanaethau a chamau ataliol wedi bod yn ddigonol, ac mae hyn wedi cyfrannu at gyfyngu ar effaith Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn ôl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ (Ebrill 2025): “Mae cyflymu cynnydd dan y Ddeddf yn dechrau gyda blaenoriaethu atal. Heb newid mwy systematig tuag at atal, bydd cyllidebau’n cael eu disbyddu, ac mae’n debygol y bydd deilliannau’n waeth. Po hwyaf a gymer, po waethaf y mae pethau’n debygol o fynd.”[ix]

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r tensiynau presennol a’r dewisiadau a wnaed yng nghyllidebau blaenorol Llywodraeth Cymru: “Yn 2025, rydym yn gweld bod atal dan bwysau. Mae hyn yn amlwg mewn rhai dewisiadau gwario. Cydnabu Llywodraeth Cymru y gallai ei chyllideb ar gyfer 2024-25 ‘effeithio ar gapasiti gwasanaethau atal megis cymorth i roi’r gorau i ysmygu, rheoli pwysau a gwneud ymarfer corff’. Fe wnaeth hefyd gynnwys toriadau sylweddol i gyllid cyrff ym maes diwylliant. Canfu asesiad y Comisiynydd [Cenedlaethau’r Dyfodol] o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 ‘nad yw eto’n blaenoriaethu atal’.”[x]

Yn unol â hyn, nid yw’n syndod yr hoffai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru weld mwy o bwyslais yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethu mesurau ataliol sy’n helpu pobl i gadw’n iach, heneiddio’n dda, ac aros yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser. Drwy gefnogi heneiddio’n iach, gellir lleihau neu oedi’r galw am rai gwasanaethau, gan osgoi’r angen am ymyriadau mwy costus yn nes ymlaen. Mae buddsoddi mewn atal nid yn unig yn gost-effeithiol – mae hefyd yn gwella safon bywyd pobl hŷn.

Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod gwasanaethau ar gael mewn cymunedau lleol, gyda ffocws cryf ar ddarparu gofal yn nes at adref. Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yn yr ystyr ehangaf – nid dim ond mewn gwasanaethau meddygon teulu, ond mewn gwasanaethau deintyddol, fferyllfeydd a nyrsio cymunedol – yn hytrach na chanolbwyntio adnoddau ar ofal eilaidd.  Mae’r Comisiynydd yn croesawu pwyslais diweddar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar symud adnoddau i ofal sylfaenol, ac mae’n cefnogi’r ymgyrch i wneud Cymru yn Genedl Marmot.  Rhaid i bobl hŷn elwa o weithio fel hyn.

Rhaid i wasanaethau hefyd fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel bod pobl hŷn sy’n defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn gallu cael gofal ar delerau cyfartal. Mae gallu cyfathrebu yn iaith gyntaf rhywun yn hanfodol er mwyn cael triniaeth a chymorth priodol, yn enwedig mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hollbwysig mewn atal ond yn aml nid yw’n cael ei werthfawrogi’n ddigonol. Mae ei gyfraniad yr un mor bwysig â chyfraniad y gwasanaeth iechyd wrth helpu pobl hŷn i heneiddio’n dda, a rhaid i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu i’r lefel sy’n cefnogi urddas pobl hŷn ac yn cynnal eu hawliau yn nes ymlaen mewn bywyd. Yn yr un modd, rhaid i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol ystyried cymorth i ofalwyr di-dâl a gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau – fel cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr.

Dylai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ystyried lefel y buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau llwyddiant y Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2026, a dyrannu adnoddau priodol fel rhan o’r broses o bennu’r gyllideb.  Mae’r un egwyddor yn wir am y Cynllun Gweithredu newydd ar Ddementia sydd ar y gweill. Bydd hwn hefyd yn gofyn am ddigon o gyllid i fynd i’r afael â diffygion blaenorol ac ymateb yn ystyrlon i adborth gan bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Mae’r agenda atal hefyd yn cynnwys gwasanaethau addasu cartrefi ar gyfer pobl hŷn sy’n eu galluogi i fyw’n dda gartref am gyfnod hirach, er enghraifft yr addasiadau a ddarperir gan awdurdodau lleol dan y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, neu wasanaethau trydydd sector sy’n darparu addasiadau, yn cynnal a chadw cartrefi ac yn gwneud archwiliadau diogelwch.  Gan ein bod yn fwy tebygol o fynd yn anabl wrth i ni heneiddio, mae’n debygol y bydd mwy o alw am y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.  Yn yr un modd, mae’r argyfwng costau byw parhaus yn golygu bod mwy o bobl hŷn wedi bod yn methu fforddio cynnal a chadw’r cartrefi y maent yn berchen arnynt.

Dylid ystyried tai a chartrefi hygyrch ac addasadwy yng nghyd-destun uchelgeisiau cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdogaethau a lleoedd fel y nodir yn yr ymgynghoriad diweddar ar y ‘Cynllun Drafft ar Hawliau Pobl Anabl: 2025 – 2035’, a byddai’r Comisiynydd yn disgwyl gweld cyllid i rymuso pobl hŷn i heneiddio’n dda gartref yn cael ei ystyried fel rhan o’r Gyllideb Ddrafft.

Allgáu digidol

Mae allgau digidol yn dal yn bryder mawr i bobl hŷn ac mae’n dal i gael ei godi gyda’r Comisiynydd, boed hynny mewn perthynas â bancio, mynediad at wybodaeth a gwasanaethau fel apwyntiadau meddygon teulu a phresgripsiynau, disgwyliadau talu drwy ap ar gyfer meysydd parcio neu e-docynnau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon neu gyngherddau.  Mae angen i’r Gyllideb Ddrafft wneud yn siŵr bod mesurau i helpu pobl i fynd ar-lein ac aros ar-lein yn cael eu hystyried ym mhob rhaglen a maes polisi.  Dylid cynnal archwiliad o brosesau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhai’r cyrff y mae’n eu hariannu, i sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yr un mor hygyrch i bobl hŷn a grwpiau eraill nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydynt yn gallu ei defnyddio.  Dylid mynd i’r afael ag unrhyw fylchau ar frys, gyda chyllid yn cael ei ddarparu at y diben hwn.

Yn yr un modd, rhaid i gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wneud yn siŵr bod adnoddau digonol ar gael i gynnal gwasanaethau all-lein o safon, oherwydd nid yw pawb yn gallu neu’n dymuno defnyddio’r rhyngrwyd. Ar hyn o bryd, nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed (tua 95,069 o unigolion) fynediad i’r rhyngrwyd gartref, ac nid yw 33% yn defnyddio’r rhyngrwyd o gwbl (gan gynnwys setiau teledu clyfar a dyfeisiau llaw). Mae hyn yn cymharu ag 13% o bobl rhwng 65 oed a 74 oed a 0% o bobl rhwng 25 a 44 oed, sy’n golygu nad yw tua 101,200 o bobl dros 75 oed ar-lein.[xi]

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn tendro am ei chontract cymorth cynhwysiant digidol, ac mae’n hanfodol bod cyllid ar gyfer y gwaith hwn yn cael ei gynnal. Mae cymorth digidol yn hanfodol er mwyn annog pobl i ymgysylltu â gwasanaethau, fel ap GIG Cymru neu lwyfannau ar-lein eraill. Heb gymorth digidol hygyrch o safon uchel – sy’n cael ei ddarparu mewn ffyrdd a lleoedd sy’n addas i anghenion pobl – mae perygl mai’r rheini sydd â’r angen mwyaf, gan gynnwys pobl hŷn, fydd yn cael y mynediad gwaethaf, gan waethygu anghydraddoldebau ymhellach.

Mae llyfrgelloedd yn aml yn cael eu hystyried yn ganolfannau cymunedol gwerthfawr ar gyfer darparu cymorth digidol a hyfforddiant sgiliau, yn enwedig i grwpiau fel pobl hŷn. Maen nhw’n cynnig amgylcheddau croesawgar heb stigma sy’n annog ymgysylltu. Fodd bynnag, mae llyfrgelloedd yn dal i wynebu pwysau sylweddol o safbwynt ariannu, gyda rhai awdurdodau lleol yn cynnig gostyngiadau pellach i rwydweithiau eu canghennau.

Os yw llyfrgelloedd am chwarae rhan ystyrlon yn y dasg o fynd i’r afael ag allgau digidol, mae’n hanfodol bod canghennau’n parhau i fod wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bobl hŷn ac yn cael eu cefnogi gan gysylltiadau trafnidiaeth priodol. Heb hyn, bydd eu potensial i gefnogi cynhwysiant digidol yn gyfyngedig iawn.

Mae allgáu digidol hefyd yn fater ieithyddol a rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith technoleg a datblygiad technolegol.  Mae angen i gyllid fod ar gael i ddatblygu a chynnal gwasanaethau digidol yn y Gymraeg i’r un safon ac amserlen â’r rhai Saesneg. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 116,788 o bobl dros 60 oed yn siarad Cymraeg – 13.6% o’r grŵp oedran hwnnw. Ymysg siaradwyr Cymraeg rhugl dros 65 oed, mae 28% – tua 21,000 o bobl hŷn – yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg na Saesneg.[xii]

Trafnidiaeth

Mae’r gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau a newidiadau i lwybrau teithio yn effeithio ar bobl hŷn. Yn wir, mae hwn yn fater y mae’r Comisiynydd yn clywed amdano’n rheolaidd.  Roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn faes pwysig a nodwyd gan bobl hŷn yn ystod ymgynghoriad y Comisiynydd ar flaenoriaethau.  Mae bysiau’n destun pryder arbennig, gyda phobl yn nodi bod ganddynt docyn bws ond mai ychydig iawn o fysiau sydd ar gael, os o gwbl.  Mae ymchwil ar drafnidiaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru (gweler: Trafnidiaeth (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [HTML] | LLYW.CYMRU ) yn dangos bod 14% o bobl 65+ yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Dyma’r uchaf o bob grŵp oedran.

Dylai cyllid ar gyfer bysiau yn y dyfodol – a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru – adlewyrchu’r gydnabyddiaeth ym Memorandwm Esboniadol Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (tudalen 7, paragraff 3.1) mai bysiau yw’r math mwyaf ymarferol a phoblogaidd o drafnidiaeth gyhoeddus o hyd, yn cyfrif am oddeutu 90 miliwn o deithiau gan deithwyr bob blwyddyn, o’i gymharu ag oddeutu 30 miliwn o deithiau ar drenau.

Er bod gan Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) y potensial i wella gwasanaethau yn y tymor hir, bydd yn cymryd amser i’r manteision ddwyn ffrwyth. Yn y cyfamser, ni ddylid gadael pobl hŷn heb opsiynau trafnidiaeth ymarferol. Dylai’r cyllid a ddyrennir i wasanaethau bysiau fod yn ddigon i gynnal a datblygu llwybrau sy’n galluogi pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys apwyntiadau gofal iechyd, yn ogystal â theithio at ddibenion gwaith, gwirfoddoli, cyfrifoldebau gofalu, a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae trafnidiaeth gymunedol yn achubiaeth mewn ardaloedd lle nad yw llwybrau parod yn diwallu anghenion y boblogaeth. Mae’r Comisiynydd yn gwerthfawrogi rôl bwysig trafnidiaeth gymunedol ac mae’n annog ei chynnwys yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru fel ffordd o alluogi pobl hŷn i gadw’n heini, i gadw mewn cysylltiad ac i gymryd rhan yn y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn gwaith ataliol, gan fod pobl hŷn wedi dweud wrth y Comisiynydd bod diffyg trafnidiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at deimlo’n ynysig ac wedi’u datgysylltu oddi wrth eu cymunedau.

Cymunedau Oed-gyfeillgar

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos cefnogaeth gref i ddatblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar, fel yr amlinellir yn Cymru Oed-Gyfeillgar: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Mae cyllid pwrpasol i awdurdodau lleol ar gyfer Cymunedau Oed-gyfeillgar wedi bod yn werthfawr dros ben, a dylid ei ddiogelu fel elfen wedi’i chlustnodi o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Er ein bod yn croesawu ymdrechion i leihau’r beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol, mae’n hanfodol nad yw cyllid ar gyfer Cymunedau Oed-Gyfeillgar yn cael ei leihau nac yn cael ei amsugno i setliadau ariannol ehangach, lle mae perygl y bydd yn cael ei golli neu ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol.

Mae syniad o Gymuned Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd, a ddatblygwyd yn 2007 mewn ymgynghoriad â phobl hŷn, yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch beth sy’n cefnogi heneiddio iach ac egnïol. Mae’n grymuso trigolion hŷn i siapio’r mannau lle maent yn byw ac yn annog cydweithio ymysg rhanddeiliaid – gan gynnwys pobl hŷn, awdurdodau lleol, busnesau, grwpiau cymunedol a’r sector gwirfoddol – i wella amgylcheddau ffisegol a chymdeithasol.

Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn nodi wyth nodwedd hanfodol sy’n galluogi pobl i heneiddio’n dda:

  • Adeiladau a mannau yn yr awyr agored
  • Trafnidiaeth
  • Tai
  • Cyfranogiad cymdeithasol
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol
  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
  • Cyfathrebu a gwybodaeth
  • Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd

Mae pob un o’r wyth maes yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn gallu heneiddio’n dda ledled Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn cael ei gydnabod yn Aelod Cyswllt o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar, ac mae’n mynd ati’n frwd i hyrwyddo datblygiadau oed-gyfeillgar ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae Swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn gweithredu fel catalydd cenedlaethol, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth i bartneriaethau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol sy’n awyddus i ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang.

Mae Cymru wedi cael ei chydnabod fel gwlad sy’n chwarae rhan bwysig ar lefel ryngwladol yn Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd, gan gyfrannu at drafodaethau a rhannu arferion gorau ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae llawer o enghreifftiau o fanteision iechyd cynlluniau oed-gyfeillgar – sy’n aml wedi’u cynllunio gan bobl hŷn i bobl hŷn – er mwyn annog gweithgarwch corfforol a chysylltiadau cymdeithasol a lleihau teimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig. Er enghraifft, yn Ynys Môn, cafodd grŵp y Nifty 60s ei ffurfio yn 2019 i helpu i leihau nifer y bobl hŷn sy’n llithro, yn baglu ac yn cwympo, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae’r grŵp yn ymgymryd â hyfforddiant ymwrthiant a gweithredol i wella cryfder, hyblygrwydd a symudedd. Gyda 132 o aelodau ac oedran cyfartalog o 74, mae’r sesiynau wedi tyfu i 30 o gyfranogwyr ym mhob dosbarth. Mae’r aelodau’n dweud bod eu lles corfforol a meddyliol wedi gwella, a gyda chyllid y Loteri Genedlaethol, mae’r grŵp yn bwriadu ehangu ar draws Ynys Môn, gan gynnwys Llangefni.

Hyd yma, mae deg awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Gymunedau a Dinasoedd Oed-Gyfeillgar, gyda nifer o rai eraill bron iawn yn barod i gyflwyno ceisiadau. Mae arferion da yn cael eu rhannu a’u datblygu, ac mae cyfraniad Cymru at drafodaethau rhyngwladol wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae Cymunedau Oed-gyfeillgar yn gwneud cyfraniad uniongyrchol at fynd i’r afael a theimladau o fod yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol, yn ogystal ag amrywiaeth o flaenoriaethau eraill ar gyfer pobl hŷn. Bydd y dull ataliol hwn yn y gymuned yn hanfodol yn y flwyddyn i ddod.

Fodd bynnag, byddai cymorth a chyllid tymor hwy (yn hytrach na blynyddol) yn golygu y byddai modd cyflawni mwy drwy ddarparu parhad a sicrwydd.  Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl bobl hŷn yng Nghymru yn byw ac yn cymryd rhan mewn Cymunedau Oed-gyfeillgar cynhwysol ac effeithiol, sy’n gweithio’n gynaliadwy i chwarae rhan ataliol ac yn ein helpu ni i gyd i heneiddio’n well.  Mae hwn yn fater y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ei ystyried ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol.

Atal cam-drin pobl hŷn

Roedd cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn ym mis Chwefror 2024 yn gam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, rhaid cyflymu’r cynnydd yn awr i sicrhau newid ystyrlon. Dylai’r Gyllideb Ddrafft ddyrannu digon o adnoddau i gyflwyno’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun yn llawn a sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Mae hefyd yn hanfodol bod cynlluniau cysylltiedig Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o atal cam-drin pobl hŷn yn parhau i gael eu cydlynu’n dda. Mae’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi mabwysiadu fframwaith glasbrint i arwain y gwaith o gyflawni’r Strategaeth. O fewn hyn, cydnabyddir anghenion pobl hŷn fel ffrwd waith bwrpasol. Mae sicrhau bod y maes hwn yn cael adnoddau digonol yn hanfodol i hyrwyddo pwrpas y strategaeth a chyflawni ei hamcanion lefel uchel.[xiii]

Eiriolaeth

Mae amrywiaeth o resymau pam y gallai fod angen mynediad at eiriolwr arnom wrth i ni heneiddio.  Mae eiriolaeth yn hanfodol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, yn grymuso unigolion i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn enwedig wrth ymdrin â systemau cymhleth fel iechyd, gofal cymdeithasol, tai, diogelu/cam-drin, a chymorth ariannol. Mae llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau oherwydd oedraniaeth, teimlo’n ynysig neu ddirywiad mewn iechyd, sy’n gallu ei gwneud hi’n anodd iddynt fynnu eu hawliau neu gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae eiriolaeth yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu pobl hŷn rhag niwed, esgeulustod a chamdriniaeth drwy sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i godi llais, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a herio triniaeth wael. Mae hefyd yn cyfrannu at atal – drwy nodi risgiau’n gynnar a hyrwyddo urddas a pharch mewn lleoliadau gofal.  Mae gwaith diweddar y Comisiynydd ar heneiddio heb blant a thrafodaethau am y nifer cynyddol o bobl hŷn nad oes ganddynt blant na mynediad at deulu, wedi pwysleisio pwysigrwydd eiriolwyr.[xiv]  Dylai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru barhau i ariannu ac ehangu gwasanaethau eiriolaeth fel rhan o’i hymrwymiad i Gymru oed-gyfeillgar.

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dylai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru gael ei siapio gan ymrwymiad i degwch a chynhwysiant, gan sicrhau nad yw rhagfarn sy’n gysylltiedig ag oedran yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch gwariant a blaenoriaethu adnoddau. Mae oedraniaeth – sy’n cael ei ddiffinio fel stereoteipio, rhagfarn neu wahaniaethu ar sail oedran neu oedran tybiedig – yn gallu effeithio ar bobl o bob oed, ond mae unigolion hŷn yn arbennig mewn perygl. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif, ar raddfa fyd-eang, fod agwedd un o bob dau o bobl yn dangos oedraniaeth tuag at bobl hŷn, sy’n tynnu sylw at faint yr her.

Mae’r un mor bwysig bod yr amrywiaeth ymysg pobl hŷn yn cael ei chydnabod mewn penderfyniadau cyllidebol. Nid un grŵp unffurf yw pobl hŷn. Wrth i ni heneiddio, mae ein profiadau, ein diddordebau, ein lefelau incwm, ein hanghenion iechyd a’n perthnasoedd cymdeithasol yn dod yn fwyfwy amrywiol. Rhaid i’r gwaith o ddatblygu polisïau adlewyrchu’r amrywiaeth hwn er mwyn sicrhau bod anghenion pob person hŷn yn cael eu hystyried a’u diwallu’n effeithiol.

Rhaid adolygu penderfyniadau gwario arfaethedig yn ofalus i nodi a mynd i’r afael yn benodol ag unrhyw ragfarnau posibl sy’n gysylltiedig ag oedran neu ganlyniadau anfwriadol i bobl hŷn. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, unrhyw gamau pellach tuag at ddigideiddio gwasanaethau neu sicrhau bod gwaith penodol a ariennir sy’n cael ei gynnig fel rhan o gynlluniau gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb yn rhoi pwyslais cyfartal ar ddeall y cysylltiad rhwng oedran a nodweddion gwarchodedig eraill fel hil, rhywioldeb ac anabledd

 

Rachel Bowen

Cyfarwyddwr Polisi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rachel.bowen@olderpeople.wales

 

[i] StatsCymru (2024) Canran yr holl unigolion, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau yn y DU rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 1995 a FYE 2023 (cyfartaleddau o 3 blwyddyn ariannol) (llyw.cymru).

[ii]StatsCymru (2024) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu. Mawrth 2023. Ar gael yn:

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu.  Sylwch fod y ffigurau sydd ar gael ar gyfer pobl dros 80 oed yn seiliedig ar feintiau sampl cyfyngedig iawn.

[iii] Llywodraeth Cymru, Cronfa Cymorth Dewisol, meini prawf cymhwysedd.  Ar gael yn:  https://www.llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/cronfa-cymorth-dewisol-cymhwysedd

[iv] StatsCymru (2025), ar gael yn Cronfa Cymorth Dewisol yn ôl Oedran – Data misoedd (O Ebrill 2023)

[v] Gofal a Thrwsio (2024) Pobl hŷn yng Nghymru: Tlodi yn y gaeaf. Ar gael yn: careandrepair.org.uk/winter-report/

[vi] Public Health England/UCL Institute of Health Equity (2014), Local action on health inequalities: Fuel poverty and cold home-related health problems, td. 4. Ar gael yn: read-the-report.pdf

[vii] S, Garrett H, Woodfine L, Watkins G, Woodham A. (2019). Cost lawn tai gwael yng Nghymru, Sefydliad Ymchwil Adeiladu Cyf, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru.  Ar gael yn: Cost lawn tai gwael yng Nghymru_adroddiad Cymraeg terfynol2.pdf (phwwhocc.co.uk)

Llywodraeth y DU (2017), Impact assessment: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works. Ar gael yn: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works – GOV.UK (www.gov.uk)

[ix] Archwilio Cymru (2025), Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Ar gael yn: https://www.audit.wales/sites/default/files/publications/Dim_amser_iw_golli_Gwersi_on_gwaith_dan_Ddeddf_Llesiant_Cenedlaethaur_Dyfodol.pdf, tudalen 7.

[x] Archwilio Cymru (2025), Dim amser i’w golli.  Ar gael yn: https://www.audit.wales/sites/default/files/publications/Dim_amser_iw_golli_Gwersi_on_gwaith_dan_Ddeddf_Llesiant_Cenedlaethaur_Dyfodol.pdf, tudalen 23.

[xi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2024, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio: Ystadegau Allweddol.  Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/09/Understanding-Wales-ageing-population-Medi-24-CYM.pdf

[xii] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Cyfrifiad 2021. Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth, Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (Cyfrifiad 2021) [HTML] | LLYW.CYMRU

[xiii] Llywodraeth Cymru (2023), Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint.  Ar gael yn: Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint [HTML] | LLYW.CYMRU

[xiv] Hannah Rigley, Mariana Fikry, Kerry KilBride / Miller Research (UK) Ltd. (2025), Pobl Hŷn Heb Blant: Adolygiad Llenyddiaeth.  Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/newyddion/adroddiad-newydd-yn-nodir-heriau-syn-wynebu-pobl-syn-mynd-yn-hyn-heb-blant/

Eitemau wedi’u llwytho i lawr

Ymateb i Ymgynghoriad: Ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Maint y ffeil
0.26MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges