Adroddiad newydd yn nodi’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (11 Mehefin) gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn datgelu bod amrywiaeth o bolisïau a deddfwriaethau yn ‘annigonol ar y cyfan’ wrth ymateb i anghenion pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod tyfu’n hŷn heb blant yn gallu dod â llawer o fanteision, gan gynnwys bywydau cymdeithasol cryf a chysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a mudiadau cymunedol; cyfleoedd i greu rhwydweithiau cefnogol cyfoethog ac amrywiol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli; a sefydlogrwydd ariannol.
Fodd bynnag, gall pobl heb blant hefyd deimlo’n anweledig, ar yr ymylon a’u bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod mynd yn hŷn heb blant yn gallu dod â llawer o fanteision, ond gall unigolion deimlo’n anweledig, ar yr ymylon a’u bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu.
Mae’r adroddiad yn canfod bod llawer o bolisïau a gwasanaethau yn tybio bod rhyw fath o gymorth teuluol ar gael, sy’n gallu creu rhwystrau o ran cael gafael ar wasanaethau a chymorth fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, gweithgareddau cymdeithasol, addysg a gweithgareddau diwylliannol.
Ar ben hynny, gall pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant ganfod eu hunain hefyd mewn mwy o berygl o faterion sy’n gallu effeithio ar ein gallu i heneiddio’n dda.
Mae’r adroddiad yn nodi pam mae angen gweithredu i fynd i’r afael â’r materion hyn gan fod disgwyl i nifer y bobl hŷn heb blant gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r cam gweithredu hwn yn cynnwys mwy o ymyriadau wedi’u targedu, gwelliannau i gymorth cymdeithasol, a dulliau arloesol o ddarparu gofal, gan adeiladu ar arferion da sydd eisoes yn cael eu treialu a’u darparu.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni i ddod â’r bobl allweddol sy’n creu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru at ei gilydd i glywed gan bobl hŷn am eu profiadau o fynd yn hŷn heb blant, er mwyn archwilio’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn fanylach ac i edrych ar ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n hanfodol fod Cymru’n ymateb yn effeithiol i’r newidiadau demograffig rydym ni’n eu gweld, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnom wrth i ni heneiddio a chael cyfleoedd i fyw ac heneiddio’n dda, beth bynnag fo’n hamgylchiadau.
“Dyna pam y comisiynais yr ymchwil hwn, sy’n edrych ar brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant a’r mathau o gamau sydd eu hangen i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu’n well mewn polisïau, cynlluniau ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran sicrhau bod y materion sy’n aml yn wynebu pobl hŷn heb blant yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw, a byddaf yn rhannu’r canfyddiadau â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau allweddol eraill.
“Byddaf hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth bwysig hon i gefnogi fy ngwaith i ddylanwadu ar bolisïau a’r modd y caiff gwasanaethau eu dylunio ledled Cymru.
“Er mwyn creu gwasanaethau a chymunedau sy’n gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol, rhaid i Gymru symud y tu hwnt i bolisi ac ymarfer yn seiliedig ar dybiaethau hen ffasiwn, gan gydnabod anghenion pob person hŷn – gan gynnwys y rhai heb blant – rhywbeth y byddaf yn ei gefnogi a’i alluogi drwy fy ngwaith.”
Darllenwch adroddiad y Comisiynydd