Canllawiau Cyfathrebu i Sefydliadau wrth Godi Ymwybyddiaeth o Sgamiau a Thwyll: Crynodeb
Mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gyda grwpiau o bobl hŷn ledled Cymru i edrych ar ffyrdd o wneud gwybodaeth am sgamiau a thwyll ariannol yn fwy diddorol ac effeithiol.
Isod ceir crynodeb o’r prif bwyntiau a godwyd gan bobl hŷn yn ystod y sesiynau hyn, sy’n tynnu sylw at bethau pwysig i’w hystyried wrth ddatblygu deunyddiau codi ymwybyddiaeth.
Mae crynodeb manylach o’r materion a’r syniadau a gafodd eu rhannu gan bobl hŷn yn ystod y sesiynau hyn ar gael yma hefyd:
- Dylai gwybodaeth fod ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, i adlewyrchu gwahanol anghenion a dewisiadau pobl hŷn.
- Dylid ystyried lefelau allgáu digidol ymysg pobl hŷn yng Nghymru. Mae’n hanfodol sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau nad ydynt yn ddigidol, yn ogystal â fformatau digidol.
- Mae pobl hŷn yn dweud eu bod yn fwy tebygol o ddarllen gwybodaeth ysgrifenedig fel pamffledi a thaflenni, os ydynt yn eu disgwyl, felly ystyriwch ffyrdd o baratoi pobl hŷn i
dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig (er enghraifft, drwy hysbysebion papur newydd neu ar y radio). - Dylai gwybodaeth ysgrifenedig fod yn fyr ac yn gryno – un neu ddwy dudalen ar y mwyaf.
- Talwch sylw i’r iaith a ddefnyddir wrth siarad am sgamiau. Osgowch jargon a geiriau sy’n awgrymu bod y dioddefwr rywsut yn gyfrifol am fod wedi cael ei sgamio.
- Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth ar gael yn yr ieithoedd sy’n cael eu siarad gan bobl hŷn ledled Cymru. Mae gwybodaeth yn fwy tebygol o gael ei darllen os yw ar gael yn iaith gyntaf person hŷn.
- Rhowch wybod i bobl hyn bod modd iddyn nhw gael eu sgamio mewn ieithoedd ar wahân i’r Saesneg.
- Mae delweddau’n gallu helpu, ond dylen nhw fod yn glir ac yn ddiamwys. Gwnewch yn siŵr nad yw’r delweddau yn ‘rhoi bai ar y dioddefwr’ a pheidiwch â defnyddio delweddau sy’n stereoteipio pobl hŷn.
- Pan fo’n bosib, chwiliwch am gyfleoedd i rannu gwybodaeth mewn trafodaethau grŵp wyneb yn wyneb.
- Gwnewch yn siŵr bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi i adnabod sgamiau a gwybod ble i fynd / pwy i gysylltu â nhw os ydyn nhw’n amau eu bod wedi cael eu sgamio.
- Rhowch resymwaith clir dros riportio sgamiau. Efallai fod pobl hŷn yn amharod i wneud hynny oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd neu embaras.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn eiriolydd ar ran pobl hŷn ledled Cymru.
Mae’r Comisiynydd yn cymryd camau i warchod hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio i sicrhau Cymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Sut i gysylltu â’r Comisiynydd:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn: 03442 640 670
E-bost: ask@olderpeople.wales
Gwefan: www.comisiynyddph.cymru
Twitter: @comisiwnphcymru