Angen Help?

Cael eich gofyn i adael eich Cartref Gofal: Gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y gallwch ei wneud os gofynnir i chi adael eich cartref gofal

i mewn Adnoddau, Taflen Wybodaeth

Mae’r Comisiynydd wedi datblygu’r adnodd hwn ar gyfer pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a’r rhai sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Mae’r adnodd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y dylai preswylwyr ei ddisgwyl os gofynnir iddynt adael eu cartref gofal.

Os gofynnir i chi adael cartref gofal, ni waeth beth yw’r rheswm a roddir, gall achosi cryn ansicrwydd i chi.

Hyd yn oed os ydych yn deall ac yn derbyn rhesymeg y cartref gofal dros ofyn i chi adael, mae’n bwysig bod y broses briodol yn cael ei ddilyn wrth i chi symud i’ch cartref newydd. Bydd y wybodaeth yn yr adnodd hwn yn eich helpu i ddeall y broses honno.

Gall fod yn arbennig o anodd os cewch eich hun mewn sefyllfa am resymau annheg, ac nid ydych yn eu derbyn fel rhai dilys.

Mae’r adnodd hwn yn rhoi atebion i gwestiynau allweddol, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor defnyddiol arall i’ch helpu i lywio’r cyfnod ansicr a heriol hwn.

Os ydych yn y broses o adael eich cartref gofal ac eisiau cymorth a chefnogaeth, neu os oes angen gwybodaeth a chyngor arnoch ar faterion eraill, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd – manylion cyswllt isod.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau wrth symud i gartref gofal, byw ynddo a gadael cartref gofal hefyd ar gael yn y canllaw gwybodaeth “Gwybod eich hawliau: Byw mewn cartref gofal yng Nghymru”, sydd ar gael isod:

 

Byw mewn cartref gofal yng Nghymru: Canllaw i’ch hawliau

Cael eich gofyn i adael eich Cartref Gofal: Gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y gallwch ei wneud os gofynnir i chi adael eich cartref gofal

Gellir, fe ellir gofyn i chi adael eich cartref gofal, ond rhaid i hyn fod am reswm dilys.

Rhaid amlinellu’r rhesymau hyn yn glir yn y contract gyda’r cartref gofal a gallant gynnwys:

  • os yw eich anghenion asesedig wedi newid ac na all y cartref gofal ddiwallu eich anghenion mwyach (hyd yn oed ar ôl iddynt wneud addasiadau rhesymol)
  • os nad ydych wedi talu eich ffioedd dro ar ôl tro a bod gennych ôl-ddyledion mawr
  • os cewch eich derbyn i'r ysbyty, nid yw'r absenoldeb yn un dros dro, ac rydych yn annhebygol o ddychwelyd yn y dyfodol agos
  • os ydych yn dangos ymddygiad treisgar tuag at staff neu breswylwyr eraill a bod risg sylweddol o niwed difrifol os byddwch yn aros yn y cartref

Ni ddylid byth ofyn i chi adael eich cartref gofal am wneud cwyn.

Ni ddylid byth ofyn i chi adael eich cartref gofal dim ond oherwydd bod ffrind neu aelod o'r teulu wedi anghytuno neu gael anghydfod ag aelod o staff y cartref gofal, rheolwr y cartref gofal neu berchennog y cartref gofal.

Dylai eich cartref gofal gymryd amser i wrando a siarad â chi cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ofyn i chi adael y cartref gofal.

Dylai terfynu eich contract yn eich cartref gofal fod yn ddewis olaf ar ôl i bob ymdrech gael ei wneud i ddiwallu eich anghenion a datrys unrhyw broblemau.

Gall y rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal ddisgwyl cael o leiaf 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig cyn y bydd yn ofynnol iddynt adael y cartref gofal. Os yw'r contract gyda'r cartref gofal yn pennu cyfnod hwy, bydd hyn yn berthnasol.

Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y gall cartref gofal fynnu bod preswylydd yn gadael y cartref gofal gyda llai na 28 diwrnod o rybudd.

Mae’r amgylchiadau cyfyngedig hyn yn cynnwys:

  • Os ydych yn y cartref gofal am gyfnod prawf - fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gael rhybudd digonol ac ni ddylai fod rheol gyffredinol sy'n caniatáu i'r cartref gofal gadw unrhyw ragdaliadau am wasanaethau
  • Os yw’r cartref gofal yn cynnig gofal seibiant am gyfnod byr (er enghraifft, oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnoch yn dilyn salwch neu arhosiad yn yr ysbyty)

Os teimlwch eich bod yn cael eich trin yn annheg trwy ofyn i chi adael eich cartref gofal, gallwch godi pryder trwy broses gwyno ffurfiol y cartref gofal.

Ni ddylid byth ofyn i chi adael cartref gofal na chyfyngu ar eich hawl i dderbyn ymwelwyr o ganlyniad i wneud cwyn.

Ni ddylech fyth gael eich rhoi dan bwysau, eich brawychu na'ch hannog i beidio â gwneud cwyn gan eich cartref gofal.

Ar gyfer preswylwyr sy'n ariannu eu gofal eu hunain yn llawn (hunan-arianwyr)

Os ydych yn hunan-ariannu eich gofal, dylech ddilyn proses gwyno'r cartref gofal fel y'i nodir ar eu gwefan neu yng nghanllaw gwasanaeth y cartref, a fydd ar gael yn y cartref gofal ei hun.

Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol gan y bydd angen i gartref gofal wneud cais i’r llys am orchymyn i’ch troi allan os byddwch yn gwrthod gadael. Bydd angen i'r cartref gofal brofi ei fod wedi gweithredu'n unol â'r contract cyn y gellir rhoi gorchymyn i chi gael eich troi allan.

Wedi’ch ariannu’n rhannol neu’n llawn gan yr awdurdod lleol, neu’r bwrdd iechyd lleol

Os caiff eich gofal ei ariannu’n rhannol neu’n llawn gan yr awdurdod lleol neu’r bwrdd iechyd lleol (neu gyfuniad o’r ddau), dylech gysylltu â Thîm Cwynion y corff sy’n ariannu eich gofal am wybodaeth a chyngor ar sut y gallwch symud cwyn ymlaen.

Efallai y byddwch am ofyn iddynt gysylltu â'r cartref gofal ar eich rhan i fynegi eich pryderon.

Os gofynnwyd i chi adael eich cartref gofal, mae'n synhwyrol canfod a deall telerau'r contract y cytunwyd arno gyda'r cartref gofal pan ddaethoch i mewn i'r cartref.

Mae contract y cartref gofal yn nodi eich hawliau, a rhwymedigaethau'r cartref gofal i chi, yn ogystal ag unrhyw rwymedigaethau sydd gennych i'r cartref gofal. Os yw eich gofal yn cael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn gan yr awdurdod lleol neu’r bwrdd iechyd lleol, neu os yw ffrind neu aelod o’r teulu hefyd yn cyfrannu at gostau eich gofal, bydd ganddynt hwy hefyd ddiddordeb mewn deall yr hawliau a'r rhwymedigaethau o fewn y contract.

Yn gyffredinol, bydd cyfraith defnyddwyr yn berthnasol i bob person hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, ni waeth sut y caiff eich gofal ei ariannu. Os bydd eich cartref gofal yn methu â chydymffurfio â chyfraith defnyddwyr, gall yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) a chyrff eraill, megis Gwasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol, ddwyn achos llys i atal torri amodau, ceisio iawndal ar eich rhan ac, mewn rhai achosion, dod ag erlyniadau troseddol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu ceisio iawndal yn y llysoedd.

Ar gyfer preswylwyr sy'n ariannu eu gofal eu hunain yn llawn (hunan-arianwyr)

Os ydych yn hunan-ariannwr, dylai'r contract fod wedi'i ddarparu i chi neu'ch cynrychiolydd yn uniongyrchol gan y cartref gofal. Os nad oes gennych gopi, neu os na allwch ddod o hyd i'ch copi, gofynnwch i'r cartref gofal ddarparu copi.

Ar gyfer preswylwyr sy’n cael eu hariannu’n llawn neu’n rhannol gan yr awdurdod lleol neu’r bwrdd iechyd lleol

Os yw eich gofal yn cael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn gan yr awdurdod lleol neu’r bwrdd iechyd lleol, yna efallai y bydd ganddynt hwy y contract gyda’r cartref gofal. Dylech fynd at y parti sy'n ariannu eich gofal i drafod telerau'r contract.

Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (IPA). Mae IPA yn gweithio'n agos gydag unigolyn i sicrhau bod ei farn yn cael ei chyfleu'n gywir, a bod ei hawliau'n cael eu cynnal.

Cysylltwch â'ch adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol os hoffech drafod a yw cael mynediad i IPA yn opsiwn yn eich amgylchiadau unigol chi.

Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol

Os aseswyd bod preswylydd cartref gofal heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniad mewn perthynas â symud i gartref gofal am gyfnod fyddai'n hwy nag 8 wythnos, ac nad oes gan y preswylydd unrhyw deulu a ffrindiau 'priodol' y gellir ymgynghori â nhw, rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Bwrdd Iechyd lleol perthnasol atgyfeirio'r unigolyn at Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA).

Gall eich adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu fwrdd iechyd lleol roi rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau y gellir penodi IMCA ynddynt.

Gallwch gysylltu ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich awdurdod lleol am gymorth i ddod o hyd i gartref gofal newydd. Hyd yn oed os ydych yn ariannu eich gofal eich hun yn llawn neu’n rhannol, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol helpu i drefnu eich lleoliad cartref gofal newydd. Pan fo corff cyhoeddus yn gyfrifol am ariannu (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) eich gofal neu’n gyfrifol am ei drefnu, mae gennych fwy o amddiffyniadau cyfreithiol gan fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal eich hawliau dynol ym mhopeth a wnânt.

Efallai y byddwch am ofyn am asesiad neu ailasesiad o’ch anghenion gofal a chymorth i sicrhau bod unrhyw gartref gofal newydd yn briodol i’ch anghenion. Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i gynorthwyo gyda’r cais hwn.

Mae CartrefiGofal.cymru yn wefan sy'n darparu gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru ac yn gadael i chi chwilio am opsiynau sy'n cwrdd â'ch anghenion. Mae’n defnyddio gwybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru, y rheoleiddiwr ar gyfer cartrefi gofal, yn ogystal â gwybodaeth gan ddarparwyr cartrefi gofal.

CartrefiGofal.cymru

Llais

Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â Llais.

Corff statudol annibynnol yw Llais, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Bydd eu staff eiriolaeth cwynion hyfforddedig, ymroddedig yn rhoi cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim i chi.

3ydd Llawr, 33 – 35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB
029 2023 5558
ymholiadau@llaiscymru.org

https://www.llaiscymru.org/yn-eich-ardal

Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

Os ydych yn teimlo bod eich cartref gofal yn eich trin yn annheg trwy ofyn i chi adael, yna gallant fod yn torri cyfraith defnyddwyr.

Os hoffech gwyno am wasanaethau defnyddwyr cartref gofal, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am gyngor ac arweiniad.

0808 223 1144 (i gysylltu ag ymgynghorydd sy’n siarad Saesneg - 0808 223 1133)

https://www.citizensadvice.org.uk

Yn ogystal â rhoi cyngor i chi, gall Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drosglwyddo gwybodaeth am gwynion i'ch Safonau Masnach lleol.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Gwasanaeth Cyngor a Chymorth

Mae’r Comisiynydd yn deall y gall llywio cais i adael eich cartref gofal fod yn llethol ac yn ynysig weithiau. Cysylltwch â Gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd am gymorth ac arweiniad wedi'i deilwra i'ch sefyllfa unigol.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Butetown
Caerdydd
CF10 5FL

Ffôn: 03442 640 670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn cyhoeddi canllawiau gwybodaeth ar gyfer pobl hŷn (a’r rhai sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi), yn ogystal ag ar gyfer darparwyr cartrefi gofal.

Mae canllaw CMA “Cartrefi gofal: canllaw byr ar hawliau defnyddwyr i breswylwyr” yn darparu gwybodaeth am hawliau defnyddwyr i breswylwyr mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd neu gynrychiolwyr eraill.

Cartrefi gofal: canllaw byr ar hawliau defnyddwyr i breswylwyr

Mae nodyn cyngor y CMA, “UK care home providers for older people – advice on consumer law - Helping care homes comply with their consumer law obligations” yn darparu gwybodaeth am faterion defnyddwyr i ddarparwyr cartrefi gofal. Mae’r nodyn cyngor ar gael ar wefan CMA yma:

UK care home providers for older people – advice on consumer law - Helping care homes comply with their consumer law obligations

Er bod y nodyn cyngor uchod ar gyfer darparwyr cartrefi gofal, mae wedi'i gynnwys yma er gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae’n bwysig cofio bod cylch gwaith y CMA yn cwmpasu’r DU gyfan, a bydd eu canllawiau yn adlewyrchu hyn yn ei gynnwys.

Os nad ydych yn sicr sut y gallai’r wybodaeth sydd yn y canllaw neu’r nodyn cyngor fod yn berthnasol i chi fel preswylydd cartref gofal yng Nghymru, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges