Comisiynydd yn lansio canllaw newydd ar hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw newydd i bobl hŷn, sy’n darparu gwybodaeth hollbwysig am eu hawliau pan fyddant yn symud i fyw mewn cartref gofal.
Datblygodd y Comisiynydd y canllaw i helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall yn well yr hawliau sydd ganddynt, beth y gallant ei wneud os ydynt yn poeni nad yw eu hawliau’n cael eu cynnal, a manylion sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys tîm cyngor a chymorth y Comisiynydd ei hun.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am hawliau sy’n ymwneud â byw mewn cartref gofal nad yw pobl hŷn a’u teuluoedd yn ymwybodol ohonynt yn aml, fel yr hawl sydd gan bobl hŷn i fod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal, hawliau sy’n ymwneud â chyswllt ag aelodau o’r teulu, a hawliau i gael mynediad at wasanaethau fel gwasanaethau iechyd. Ar ben hynny, mae’r canllaw hefyd yn darparu gwybodaeth am hawliau sy’n ymwneud â thalu am ofal, mater sy’n aml yn destun pryder mawr i bobl hŷn a’u teuluoedd.
Mae’r Comisiynydd yn dosbarthu’r canllaw i bob cartref gofal yng Nghymru fel y gellir ei gynnwys mewn pecynnau croeso a ddarperir i bobl hŷn pan fyddant yn symud i gartref gofal.
Mae hi hefyd wedi cynhyrchu fersiwn fyrrach o’r canllaw a fydd yn cael ei ddosbarthu i bobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru, drwy sefydliadau cymunedol ac mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Cafodd y canllaw ei ddatblygu gyda chymorth gan bobl hŷn, yn ogystal ag arbenigwyr o Gymru a’r DU i sicrhau bod y canllaw yn helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus a chael gafael ar gymorth a chefnogaeth os ydynt yn poeni am eu hawliau.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn rhan allweddol o’m rôl fel Comisiynydd, gan gynnwys hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.
“Mae’n hanfodol ein bod yn gwybod am ein hawliau wrth fyw mewn cartref gofal a’r hyn y gallwn ei wneud os ydyn ni’n teimlo nad yw ein hawliau’n cael eu cynnal, ond gall deall yr hawliau hyn fod yn anodd gan eu bod yn cael eu llunio gan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu cyflwyno a’u diweddaru dros gyfnod o flynyddoedd lawer.
“Dyna pam fy mod wedi cynhyrchu’r canllaw hwn, i roi gwybodaeth bwysig i bobl hŷn a’u teuluoedd am yr hawliau sydd gan bobl, ynghyd â manylion sefydliadau allweddol – gan gynnwys fy swyddfa i – sy’n gallu darparu cymorth a chefnogaeth yn ymwneud â hawliau.
Dywedodd Bethan Mascarenhas, sy’n rhedeg Gartref Gofal Old Vicarage yn Llangollen:
“Mae gwneud y penderfyniad i symud i leoliad gofal yn gallu bod yn broses frawychus, ond drwy waith Heléna a’i thîm, mae gan bobl bellach adnodd hygyrch a llawn gwybodaeth, a fydd yn helpu i’w grymuso ym mhob agwedd ar fywyd a’r gofal a gânt.
“Mae hwn yn ganllaw rhagorol a fydd yn galluogi’r rheini yn ein gofal i ddeall eu hawliau ac i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.”
Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:
“Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn darparu gwasanaeth cynnes a chroesawgar i’r bobl sy’n byw yno, ond gwyddom i gyd faint o bethau sydd i feddwl amdanynt wrth symud i rywle newydd. Mae bod yn ymwybodol o’ch hawliau mor bwysig ac mae’r canllaw hwn a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddogfen ddefnyddiol i’w darllen wrth symud i gartref gofal a byw yno.
“Mae rhoi pobl yn gyntaf yn un o egwyddorion sylfaenol ein gwaith ac mae sicrhau bod eu hawliau’n cael eu hyrwyddo a’u cynnal yn un o elfennau pwysicaf ein gweithgareddau. Os ydych chi’n teimlo ar unrhyw adeg nad yw cartref gofal yn hyrwyddo hawliau’r bobl sy’n byw yno, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni.”
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Rwyf wedi anfon copïau o’r canllaw i bob cartref gofal yng Nghymru fel bod modd eu cynnwys mewn pecynnau croeso i bobl hŷn, a byddaf yn dosbarthu fersiwn fyrrach o’r canllaw i bobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru.
“Mae cynnal hawliau pobl yn rhan hanfodol o ddarparu gofal o ansawdd uchel, a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau pobl wrth iddynt symud i gartref gofal neu fyw mewn cartref gofal yng Nghymru.”
Gwybod eich hawliau: Byw mewn cartref gofal yng Nghymru – Fersiynau Hygyrch