Angen Help?
Older woman walking up the stairs in her house

Amser i Addasu: Archwilio’r amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Comisiynydd Pobl Hŷn: oedi wrth addasu cartrefi sy’n peryglu iechyd, diogelwch ac annibyniaeth pobl hŷn

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn datgelu bod pobl hŷn mewn sawl rhan o Gymru yn aros dros flwyddyn i addasiadau hanfodol gael eu gwneud i’w cartrefi, gyda’r cyfartaledd mewn un ardal bron i ddwy flynedd.

Mae’r Comisiynydd wedi rhybuddio bod oedi wrth addasu tai pobl hŷn yn peryglu eu hiechyd, eu diogelwch a’u hannibyniaeth, gan adael unigolion yn aml yn methu â gwneud tasgau sylfaenol neu symud o gwmpas eu cartrefi’n ddiogel. Mewn rhai achosion, mae aros am amseroedd hir wedi arwain at bobl hŷn yn cwympo neu’n cael anafiadau difrifol eraill, gan arwain at eu derbyn i’r ysbyty neu gartrefi gofal heb fod angen.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr effaith bersonol sylweddol ar bobl hŷn, ond mae’r materion hyn hefyd yn creu pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae canfyddiadau’r Comisiynydd yn seiliedig ar ddata y gofynnwyd amdano gan awdurdodau lleol1 ar amseroedd aros cyfartalog ar gyfer gwaith a wneir drwy Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, sy’n cynnig cyllid ar gyfer addasiadau cartrefi i’r rhai sy’n gymwys.

Canfu’r Comisiynydd mai 370 diwrnod yw’r amser aros cyffredinol ar gyfartaledd yng Nghymru, sy’n dangos bod amseroedd aros bron wedi dyblu ers 2019, pan gyhoeddwyd y data tebyg diwethaf. Mae ymatebion gan awdurdodau lleol hefyd yn dangos bod pobl hŷn mewn tua hanner yr ardaloedd yn aros yn hirach na’r cyfartaledd – misoedd lawer yn hirach mewn rhai achosion – gyda’r amser aros cyfartalog mewn un ardal cymaint â 692 diwrnod, bron i flwyddyn yn hirach na’r cyfartaledd yng Nghymru.

Gofynnodd y Comisiynydd hefyd am ddata ar oedran, rhyw ac ethnigrwydd pobl a dderbyniodd Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl i nodi rhwystrau posibl i fynediad neu fylchau wrth ddarparu gwasanaeth. Roedd yn destun pryder deall bod unigolion o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol yn seiliedig ar y data a dderbyniwyd – gan gynnwys dim ond 1.3% o’r rhai sy’n derbyn gwasanaeth er eu bod yn cynrychioli 6% o’r boblogaeth yng Nghymru.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Mae llawer o bobl hŷn yn credu bod y broses Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn anodd ei deall.
  • Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael trafferth talu costau sy’n cynyddu’n gyflym ac ymateb i’r galw cynyddol.
  • Mae anghysondebau yn y ffyrdd y mae’r broses addasu cartrefi / Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn cael ei gweithredu ledled Cymru, gan gynnwys dulliau o brofi modd.
  • Mae’r data a gasglwyd am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn gyfyngedig iawn – ac nid yw’n cynnig fawr o wybodaeth go iawn am brofiadau pobl – ac anaml y caiff ei gyhoeddi, gan gyfyngu ar gyfleoedd craffu.
  • Mae’r canllawiau a’r safonau gwasanaeth presennol wedi hen ddyddio ac nid ydynt o lawer o werth i awdurdodau lleol.

Wrth drafod ei chanfyddiadau, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:

“Mae ein cartrefi yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau, gan ddylanwadu ar ein hiechyd, diogelwch o ran llesiant, diogelwch ac annibyniaeth yn ogystal â’n cysylltu â’n hanwyliaid a’n cymunedau, sy’n hanfodol er mwyn gallu byw a heneiddio’n dda.

“Ond wrth i ni fynd yn hŷn, gallem weld nad yw ein cartrefi bellach yn diwallu ein hanghenion yn llawn neu gallen nhw beri risgiau posibl i’n diogelwch, sy’n golygu y gallai fod angen gwneud addasiadau.

“Tynnwyd sylw at faint y broblem hon mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan fy swyddfa, a ganfu bod bron i 1 o bob 5 o bobl 60+ oed (tua 178,000 o unigolion) yn cael anawsterau wrth fynd o gwmpas eu cartrefi, er enghraifft i ddefnyddio grisiau neu gyfleusterau ystafell ymolchi.2

“Mae addasiadau i’r cartref felly’n hanfodol i alluogi pobl hŷn i barhau i fyw gartref (os ydyn nhw’n dymuno) neu ddychwelyd adref ar ôl aros yn yr ysbyty neu gartref gofal, gan hefyd atal damweiniau fel cwympiadau a sicrhau bod yr amgylchedd cartref yn diwallu anghenion pobl o ran mynediad, symudedd a gofal.

“O ystyried pwysigrwydd addasiadau cartref, mae’n hanfodol bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl, a bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi trwy gydol y broses hon.

“Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi rhannu eu pryderon a’u rhwystredigaethau gyda mi ynglŷn â’r amser y gall ei gymryd i addasiadau cartref gael eu gwneud, yn enwedig pan fyddan nhw’n rhan o’r broses Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, ac effaith hyn ar eu bywydau.

“Y realiti yw bod pobl yn aml yn methu â gwneud tasgau sylfaenol neu symud o gwmpas eu cartrefi yn ddiogel wrth aros am addasiadau, sy’n lleihau annibyniaeth pobl ac yn gallu eu gorfodi i ddibynnu ar eraill am gefnogaeth.

“Mewn rhai achosion, mae aros am amser hir hefyd wedi arwain at bobl hŷn yn cwympo neu’n cael anafiadau, gan gael effaith bersonol sylweddol ar unigolion, yn ogystal ag arwain yn aml at ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol heb fod angen.

“Roeddwn i eisiau archwilio’r materion hyn yn fwy manwl, gyda ffocws penodol ar ddeall maint y broblem y mae pobl hŷn yn ei hwynebu a pham fod hyn yn digwydd.

“Mae’r data a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn cyflwyno darlun pryderus: mae’n ymddangos bod amseroedd aros wedi cynyddu bron i 80% ers 2019 – hyd at 370 diwrnod o’i gymharu â dim ond 207 diwrnod o’r blaen. Mae’n ymddangos bod rhai unigolion hefyd yn aros yn llawer hirach, gyda’r amser aros yn 692 diwrnod ar gyfartaledd mewn un ardal, bron i flwyddyn yn hirach na’r cyfartaledd.

“Mae data demograffig hefyd yn awgrymu bod pobl hŷn o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn colli allan ar fynediad at addasiadau, gan adlewyrchu’r rhwystrau sylweddol y mae unigolion o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn aml yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a chymorth.”

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, Chris Jones:

“Mae data’n dangos bod dros 75% o Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer pobl dros 60 oed. Mae’r grantiau hyn yn cyfrannu’n sylweddol at gefnogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol gartref, sef lle mae ein hanwyliaid yn well ganddynt fod wrth iddynt heneiddio. Felly mae’n destun pryder gweld bod amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi cynyddu’n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf, ers i’r ffocws ar fesur amseroedd aros yn genedlaethol yng Nghymru ddod i ben.

“Mae arosiadau cynyddol am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn golygu mwy o gwympiadau, mwy o dderbyniadau i ysbytai ac ymweliadau â meddygon teulu, a derbyniadau i gartrefi gofal yn gynt nag sydd angen. Mae hyn yn niweidiol i lesiant pobl hŷn, ac yn fyr eu golwg o safbwynt gwasanaeth cyhoeddus, gan gostio mwy i’r pwrs cyhoeddus yn y tymor hir.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth nesaf Cymru fynd i’r afael â’r materion a nodwyd, gan gynnwys gwella ansawdd y data a gesglir a chyhoeddi hyn yn gyflymach er mwyn hwyluso mwy o dryloywder, monitro, goruchwylio a chraffu, yn ogystal â chyfleoedd i nodi ac ymateb i faterion posibl yn gyflymach.

Yn ogystal â hyn, mae’r Comisiynydd eisiau gweld camau gweithredu i estyn allan ac ymgysylltu â phobl hŷn o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gynyddu’r niferoedd ymhlith y grŵp hwn.

Ar ben hynny, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau addasu tai, asiantaethau cymorth a phobl hŷn i ddatblygu Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan wedi’i ddiweddaru a Safonau Gwasanaeth newydd i Gymru, a fyddai’n cefnogi arferion effeithiol ac yn helpu i wella cysondeb.

Er bod y camau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau newid dros y tymor hir, mae’r Comisiynydd hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd posibl i weithredu ar unwaith, gan ddefnyddio cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni.

Mae hi eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol y mae’n ei dderbyn ar gael i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau’r trydydd sector fel y gallant gyfeirio adnoddau at rannau o’r system lle, yn lleol, mae materion neu rwystrau penodol. Gallai hyn gynnwys cynyddu capasiti tymor byr i gyflymu camau asesu neu gynllunio/cymeradwyo, er enghraifft, ymgysylltu â grwpiau sy’n fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at wasanaethau neu gymorth, neu wella gwybodaeth leol am addasiadau cartref a Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Mae’n hanfodol bod camau gweithredu yn cael eu cymryd ar unwaith ac yn y tymor hir i sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn gallu cael mynediad at yr addasiadau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddiogel, yn iach ac yn annibynnol gartref, ac yn gallu byw a heneiddio’n dda.”

DIWEDD

Darllenwch adroddiad y Comisiynydd (Fersiwn PDF) Darllenwch adroddiad y Comisiynydd (HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges