TRAWSNEWID GWASANAETHAU MEWN GOFAL SYLFAENOL A CHYMUNEDOL
TRAFODAETH BWRDD CRWN, 24 MEHEFIN 2025
Y Cefndir
Mynediad at bractisau meddygon teulu yw un o’r materion y mae pobl hŷn yn eu codi amlaf gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Fel y gwyddoch, cyhoeddodd y Comisiynydd blaenorol, Heléna Herklots, adroddiad dan y teitl Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu: profiadau Pobl Hŷn ym mis Mawrth 2024, a hefyd Practisau meddygon teulu yng Nghymru: Canllaw i Bobl Hŷn ym mis Gorffennaf 2024. Mae’r Canllaw wedi profi i fod yn un o adnoddau mwyaf poblogaidd y Comisiynydd. Ym mis Gorffennaf 2024, cadeiriodd y Comisiynydd ddigwyddiad bwrdd crwn, a gynhaliwyd ac a gefnogwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu, i archwilio sut y gellid bwrw ymlaen â’i hargymhellion, a chyhoeddodd adroddiad diweddaru cynnydd yn fuan wedyn.
Dechreuodd Rhian Bowen-Davies yn ei swydd fel Comisiynydd ym mis Medi 2024, a chadeirio ail ddigwyddiad bwrdd crwn ym mis Tachwedd. Ers hynny, cafwyd datblygiadau sylweddol, gan gynnwys:
- Rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025, fel rhan o’r broses o ddatblygu ei blaenoriaethau a’i chynllun gwaith ei hun, fe wahoddodd y Comisiynydd newydd pobl hŷn i rannu eu profiadau a helpu i siapio’r camau mae hi’n eu cymryd yn ystod ei chyfnod ei hun. Roedd canlyniadau’r arolwg yn adlewyrchu canlyniadau adroddiad gwreiddiol Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu. Mae pobl hŷn yn dal i gael trafferth cael gafael ar y math o apwyntiad sydd ei angen arnynt yn eu practis meddyg teulu, maent yn teimlo bod amseroedd aros am apwyntiadau’n rhy hir, nad yw’r dulliau o gael apwyntiadau’n diwallu anghenion y boblogaeth hŷn, mae diffyg parhad gofal o hyd ac mae rhai pobl hŷn yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail eu hoedran ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Cafwyd profiadau cadarnhaol fel rhan o’r ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae mynediad cyffredinol at feddygon teulu yn parhau i fod yn un o’r themâu mwyaf cyson a godwyd gan bobl hŷn gyda’r Comisiynydd yn ystod ei hymweliadau ymgysylltu a thrwy ei gwasanaeth Cyngor a Chymorth;
- Ym mis Mai 2025, lansiodd y Comisiynydd ei chynllun strategol a’i rhaglen waith newydd. Bydd ffocws parhaus ar fynediad pobl hŷn at wasanaethau gofal sylfaenol yn ei rhaglen waith. Yn benodol, mae’r Comisiynydd hefyd wedi gweld cynnydd yn y pryderon gan bobl hŷn ynghylch iechyd y geg a gofal deintyddol a bydd yn bwrw ymlaen â darn o waith ar wahân ar ddeintyddiaeth;
- Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi cyhoeddi trawsnewidiad arfaethedig i wasanaethau dan arweiniad meddygon teulu mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Er ei fod yn croesawu’r datblygiad hwn, mae’r Comisiynydd yn poeni nad yw’r hyn a ddysgwyd o’r gwaith Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yn cael ei golli, bod y rhwystrau i fynediad pobl hŷn yn cael eu dileu ac nad yw’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu harwain gan feddygon teulu yn parhau â’r problemau presennol;
- Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ar gefnogi pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch, atal pobl hŷn rhag datgyflyru mewn ysbytai, a risgiau a chyfleoedd ehangu systemau gofal iechyd digidol.
Bwrdd crwn
Roedd y Comisiynydd am greu cyfle i ddod ag elfennau allweddol o Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac arweinyddiaeth broffesiynol at ei gilydd i drafod sut gellir harneisio’r datblygiadau amrywiol hyn i lywio’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau mewn cymunedau mewn ffordd gydlynol ac integredig sy’n sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o’r gwaith o ailddylunio gwasanaethau, yn cael y budd mwyaf posibl o ofal iechyd sylfaenol a chymunedol yn y dyfodol ac nad ydynt yn cael eu heithrio gan y system yn y dyfodol.
Felly, cynhaliodd y Comisiynydd drafodaeth bwrdd crwn yn y drydedd rownd ar drawsnewid gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol ar 24 Mehefin 2025. Dyma oedd pwrpas y cyfarfod:
- gwneud i’r hyn a ddysgwyd o waith blaenorol ar fynediad pobl hŷn i bractisau meddygon teulu gael ei gario drosodd i’r gwaith dan arweiniad meddygon teulu ar drawsnewid gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
- ehangu’r drafodaeth i gynnwys eiddilwch a datgyflyru mewn pobl hŷn;
- trafod sut mae technoleg ddigidol ac arloesi yn gallu sbarduno a chefnogi’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;
- cytuno ar y camau nesaf.
Trafod
Mewn sesiwn eang a llawn gwybodaeth, trafododd y cyfranogwyr y pethau canlynol:
- heriau parhaus y mae pobl hŷn yn eu hwynebu o ran cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys amseroedd aros hir am apwyntiadau, allgáu digidol, a’r angen am fuddsoddiad sylweddol mewn gofal sylfaenol a chymunedol;
- yr angen i ddiogelu’r gweithlu gofal iechyd at y dyfodol yng ngoleuni poblogaeth sy’n heneiddio a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd yn y gymuned i roi gofal cynhwysfawr i bobl hŷn;
- gweithredu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn gyson ar draws pob bwrdd iechyd i reoli anghenion gofal cymhleth yn nes at adref;
- heriau a chyfleoedd clystyrau gofal sylfaenol, gan gynnwys materion cyllido, amser a lle ar gyfer meddwl strategol, yn ogystal â’r angen am well integreiddio â gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddarparu gofal cyfannol;
- cytundeb contract diweddaraf y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, gan gynnwys: gofyniad newydd i bractisau meddygon teulu nodi pobl sydd â risg gymedrol neu ddifrifol o fregusrwydd, gan ddefnyddio offeryn cydnabyddedig ar gyfer pobl dros 65 oed; prosiect gwella ansawdd ar barhad gofal mewn practisau meddygon teulu dros gyfnod o dair i bum mlynedd, ac adolygiad o safonau mynediad a fydd yn ystyried tegwch mynediad ac addasiadau rhesymol ar gyfer grwpiau penodol o bobl;
- effaith trawsnewid gwasanaethau ar bobl hŷn a’r angen i gofnodi a mesur profiadau pobl;
- pwysigrwydd parhad gofal: er mwyn sicrhau boddhad cleifion, wrth i gleifion feithrin ymddiriedaeth gyda’u clinigwyr, nid oes angen iddynt esbonio eu hanes meddygol dro ar ôl tro ac maent yn llai tebygol o gael eu cyfeirio at ysbytai neu ymweld ag adrannau achosion brys; ac er mwyn gwella boddhad clinigwyr, lleihau’r risg o gamgymeriadau a meithrin perthynas gryfach â’u cleifion a all arwain at gadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn well;
- cymorth cofleidiol i bobl hŷn sy’n arafu, sydd mewn perygl o golli eu hannibyniaeth neu sydd eisoes yn ddibynnol ar eraill, gan gynnwys pwysigrwydd atal, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig rhagweithiol, a datblygu adnodd segmentu a haenu digidol a fydd yn helpu clinigwyr i gadw pobl hŷn yn iach ac yn annibynnol am gyn hired â phosibl;
- atal pobl hŷn rhag colli swyddogaethau fel gallu meddwl, ymataliaeth, cryfder a symudedd – a elwir yn ddatgyflyru – yn yr ysbyty, gan gynnwys datblygu adnodd i fesur datgyflyru a fydd maes o law yn gallu cael ei ddefnyddio gan unrhyw un yn unrhyw le, gan gynnwys pobl hŷn eu hunain yn eu cartrefi eu hunain. Pwysleisiodd y drafodaeth bwysigrwydd adnabod datgyflyru’n gynnar ac ymyrryd i atal niwed;
- trawsnewid digidol ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys datblygu offer deallusrwydd artiffisial, cofnod gofal integredig, a phwysigrwydd dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wella’r gwasanaeth a ddarperir a phrofiad cleifion. Roedd y drafodaeth yn tynnu sylw at rôl hyrwyddwyr digidol a phaneli ymchwil defnyddwyr o ran sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion pob defnyddiwr.
Y Camau Nesaf
Cytunodd y cyfranogwyr i rannu rhagor o wybodaeth a chyfleoedd i barhau i feithrin rhwydweithiau a deialog wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau dull cydlynol o drawsnewid gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol a fydd yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl hŷn.
Dywedodd y Comisiynydd y byddai’n cyhoeddi adroddiad cynnydd yn crynhoi’r drafodaeth.
Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol fod y mwyafrif helaeth o gysylltiadau â chleifion yn digwydd ym maes gofal sylfaenol a chymunedol. Mae hi’n gwerthfawrogi cyfranogiad parhaus rhanddeiliaid allweddol a’r safbwynt maen nhw’n ei gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon ac yn gobeithio y bydd yn parhau.