Angen Help?
Newport, Wales, UK - 10 January 2024: Traffic driving on the M4 near Newport in south Wales

Ymateb y Comisiynydd i gynigion newydd ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd

i mewn Newyddion

Ymateb y Comisiynydd i gynigion newydd ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i yrwyr, teithwyr, cerddwyr a beicwyr o bob oed yn flaenoriaeth bwysig, ac mae sgyrsiau am sut y gellid gwella diogelwch i’w croesawu.

“Fodd bynnag, mae’n siomedig bod gyrwyr hŷn dan y lach unwaith eto, gydag awgrymiadau y dylai pawb sy’n 70 oed a hŷn orfod cael profion llygaid parhaus er mwyn cadw eu trwyddedau gyrru.

“Dydy iechyd, golwg a sgiliau gyrru pobl ddim yn newid mwyaf sydyn pan fyddan nhw’n troi’n 70 oed, er gwaethaf yr hyn sy’n cael ei ensynio gan y polisi arfaethedig hwn. Awgrymir yn aml fod gyrwyr hŷn yn ‘beryglus’, ond mewn gwirionedd maent ymysg y rhai mwyaf diogel ar y ffyrdd.

“Byddai cyflwyno polisi o’r fath yn creu rhwystrau i yrwyr hŷn sy’n dymuno adnewyddu eu trwyddedau, neu’n annog gyrwyr cwbl abl i beidio â gwneud hynny, gan effeithio ar ryddid ac annibyniaeth pobl, yn ogystal â’u cyfleoedd i weithio, gwirfoddoli neu ddarparu gofal a chymorth – yn enwedig mewn ardaloedd lle mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus addas yn brin.

“Byddai hefyd yn rhoi rhagor o bwysau wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill ar adeg pan maent eisoes ar eu gliniau – oherwydd byddai mwy o alw am wasanaethau ymarferol fel profion llygaid, yn ogystal â chymorth, gwybodaeth a systemau newydd.

“Yn hytrach na pholisi sy’n neilltuo gyrwyr hŷn fel ‘grŵp ar wahân’ ac yn atgyfnerthu naratifau oedraniaethol am sgiliau gyrru pobl hŷn, mae angen mwy o gydnabyddiaeth y gall materion sy’n ymwneud â’n hiechyd a/neu ein golwg ddigwydd ar unrhyw adeg yn ein bywydau.

“Dylid canolbwyntio’n ehangach ar sicrhau bod gyrwyr o bob oed yn deall sut gall y mathau hyn o broblemau effeithio ar ein gallu i yrru, ac ar yr hyn y mae angen i bobl ei wneud os byddant yn profi unrhyw newidiadau – er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau diogel a chyfrifol.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges