Y Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar Ddiwygio’r Clo Triphlyg
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae pobl hŷn yn aml yn dweud wrthyf pa mor anodd ydy cael dau ben llinyn ynghyd, yn enwedig wrth i gost hanfodion barhau i godi. Bydd cyhoeddiad heddiw ar newidiadau arfaethedig i’r Clo Triphlyg ar Bensiynau o 2030 ymlaen wedi achosi pryder ac ansicrwydd ymysg llawer o bobl hŷn ledled Cymru, yn enwedig y rheini sydd eisoes yn cael trafferthion ariannol a’r rheini sy’n ceisio cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Hyd yn oed gyda’r Clo Triphlyg ar waith, mae tlodi ymysg pobl hŷn wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae llawer mwy wedi wynebu caledi ariannol oherwydd costau byw sy’n cynyddu’n gyflym.
“Felly, mae’n hanfodol nad ydy unrhyw ddiwygiad i’r Clo Triphlyg yn gwaethygu’r materion hyn, ac y bydd y rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd yn gallu cael gafael ar y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt.
“Heb hyn, byddwn yn gweld iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl yn dirywio, gan arwain at fwy o alw am gymorth a phwysau y gellir eu hosgoi ar wasanaethau.
“Mae angen i’r Prif Weinidog roi rhagor o fanylion am ei gynigion cyn bo hir, yn ogystal â sicrwydd na fydd arbedion cyllidebol yn arwain at ganlyniadau anfwriadol i bobl hŷn.
“Ar ben hynny, er bod gofal cymdeithasol yn fater datganoledig, mae angen rhagor o fanylion hefyd am gynigion i ddiwygio’r system gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr, a oedd yn ffocws arall yn araith y Prif Weinidog heddiw.
“Mae’r system gofal cymdeithasol yma yng Nghymru yn wynebu pwysau a heriau ariannol tebyg, ac mae’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon yn gwneud ymrwymiad tebyg i gyflawni cynnydd tuag at ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ein hunain.
“Felly, bydd yn hanfodol deall sut gallai’r cynigion hyn alluogi gweithredu yma yng Nghymru a fydd yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.”