Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU na fydd unrhyw iawndal yn cael ei dalu i’r menywod hŷn y mae’r newidiadau i bensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n deall y teimladau cryf o ddicter, rhwystredigaeth ac anobaith a deimlir gan y menywod hŷn y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt.
“Mae hyn wedi effeithio ar bron i 4 miliwn o fenywod ledled y DU, ac mae nifer yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol am eu bod yn credu na chawsant amser priodol i wneud addasiadau mewn ymateb i’r newidiadau i’r oed pensiwn. Bydd llawer o fenywod hŷn hefyd nawr yn mynd heb y Lwfans Tanwydd Gaeaf, sy’n rhoi mwy o bwysau ar y caledi ariannol.
“Mae’r penderfyniad hwn yn cael effaith anghymesur a gwahaniaethol ar y menywod hyn, ac mae hynny’n annerbyniol.”