Gêm y Cenedlaethau: Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau 2026
Bob blwyddyn, mae Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau yn dathlu manteision gwahanol genedlaethau’n dod ynghyd.
Eleni, am y tro cyntaf, mae pob diwrnod yn canolbwyntio ar thema wahanol, fel herio oedraniaeth, mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol, neu leihau unigrwydd.
Thema heddiw yw ‘creu mannau a chymunedau sy’n pontio’r cenedlaethau’. Dyma elfen bwysig dros ben, ond un sy’n cael ei hanghofio weithiau, o greu cyfleoedd ar gyfer cysylltu, perthyn, rhannu treftadaeth a pharch at ein gilydd.
Mae’r conglfeini hyn yn cyd-fynd â’n traddodiadau cadarn yma yng Nghymru o adrodd straeon, capeli, neuaddau cymunedol, Eisteddfodau ac adegau eraill pan fydd gwahanol genedlaethau’n dod ynghyd fel rhan o fywyd o ddydd i ddydd.
Mae’r mannau hyn yn bwysig gan eu bod yn helpu i greu cymunedau lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, bod cysylltiad rhyngddyn nhw a phobl eraill, a bod grym ganddyn nhw – gan ddysgu o’r gorffennol, byw yn y presennol a chydweithio i greu’r dyfodol.
Pan fydd pobl o wahanol oedrannau yn cydweithio, rydyn ni’n gweld cysylltiadau cymdeithasol cryfach drwy ystadau, pentrefi, trefi a chymunedau gwledig. Mwy o ymddiriedaeth. Mwy o ddealltwriaeth. Mwy o barch at ein gilydd.
Pan fydd cenedlaethau’n ystyried eu hunain yn bartneriaid, yn hytrach na grwpiau oedran ar wahân – yn cyd-ddysgu, yn rhannu diwylliant a thraddodiadau, ac yn cefnogi ei gilydd drwy adegau o newid – mae cydlyniant cymunedol ar ei gryfaf.
Felly, law yn llaw â diogelu’r mannau a’r cyfleoedd hyn, rhaid i ni hefyd greu cyfleoedd newydd, gan adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes wedi cael effaith gadarnhaol.
Mae prosiect Menter Môn, Ein Hanes Ni, yn esiampl bwerus. Mae’n dod â phlant a thrigolion hŷn at ei gilydd i gofnodi atgofion, hanes cyffredin, a phrofiadau o fannau lleol.
Mae pobl ifanc yn cyfweld aelodau hŷn o’r gymuned, gan gofnodi straeon na welwch chi mewn llyfrau neu archifau: straeon am fywyd o ddydd i ddydd, gwaith, iaith, diwylliant a newidiadau.
Mae’r prosiect yn cael effaith mor fawr oherwydd nid yn unig y mae’n gwarchod hanes lleol ac yn cryfhau’r Gymraeg, mae hefyd yn magu hyder ymysg y ddau grŵp oedran gan sefydlu perthynas ddiffuant a pharhaus rhwng y cenedlaethau ar yr un pryd.
Wythnos yma, dwi hefyd wedi gweld manteision gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau gyda fy llygaid fy hun. Fe es i draw i Glwb Garddio Canolfan Gymunedol y Fan, sy’n darparu lle awyr agored i bobl o bob oedran ddatblygu sgiliau garddio newydd a dysgu gan ei gilydd, yn ogystal â chael ambell awgrym gan arbenigwyr lleol.
Dwi hefyd yn edrych ymlaen at ymweld â nifer o brosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau yn Wrecsam, gan gynnwys Prosiect Cyfeillion Cartref Gofal Book of You, sy’n cysylltu gwirfoddolwyr â phobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal nad ydyn nhw’n cael llawer o ymwelwyr, os o gwbl.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd eisoes yn bodoli y byddai modd adeiladu arnyn nhw a’u cyflwyno’n ehangach i ddod â mwy byth o bobl ynghyd ledled Cymru.
Ond dwi hefyd yn dymuno gweld camau gweithredu ar lefel strategol i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i bontio’r cenedlaethau yn cael eu creu ar draws polisïau ac ymarfer.
Mae hyn yn golygu gwreiddio dulliau o’r fath fel disgwyliad craidd wrth ddatblygu polisïau – ar draws gofal cymdeithasol, addysg, tai, trafnidiaeth, diwylliant a pholisi economaidd – lle mae cyrff cyhoeddus yn dangos yn glir sut mae eu polisïau’n meithrin cysylltiadau ar draws grwpiau oedran ac yn cyfrannu at gydlyniant cymunedol hirdymor.
Ar ben hynny, mae angen mwy o gymorth i ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch sefydlu partneriaethau parhaus sy’n pontio’r cenedlaethau gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau diwylliannol, cartrefi gofal a chyflogwyr.
Hefyd, mae angen i ni barhau i ddefnyddio’r celfyddydau, diwylliant, gwirfoddolwyr a hyd yn oed mannau digidol cynhwysol i ddod â phobl o wahanol grwpiau oedran at ei gilydd drwy ddiddordebau neu ymdrechion cyffredin er mwyn helpu i feithrin ymddiriedaeth, dealltwriaeth a chydnerthedd rhwng cenedlaethau.
Does dim o hyn yn gofyn am ddechrau o’r dechrau. Beth sydd angen ei wneud yw adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n barod a chydnabod gwerth enfawr creu cysylltiadau ar draws oedrannau.
Felly dewch i ni fuddsoddi mewn prosiectau sy’n bendant o gael effaith gadarnhaol ar draws y cenedlaethau. A dewch i ni gydweithio i wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru – o bob oedran – yn teimlo bod ganddyn nhw gysylltiad â phobl eraill, a’u bod yn cael eu parchu a’u clywed.