Safbwyntiau gwahanol, un tîm: buddion gweithleoedd sydd yn cynnwys mwy nag un genhedlaeth
Fel rhan o Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau eleni, byddwn ni’n canolbwyntio ar thema benodol bob diwrnod, a ddoe ysgrifennais am bwysigrwydd creu a chefnogi ardaloedd cymunedol sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd [link to blog].
Heddiw, cyflogaeth sy’n mynd â’n sylw, a’r manteision a ddaw o gael amrywiaeth o wahanol oedrannau yn ein gweithleoedd. Y gweithle yw’r man mwyaf cyffredin y mae gwahanol genedlaethau yn dod at ei gilydd yn ddyddiol, ond mae’n aml yn cael ei anghofio neu ei ddiystyru.
Mae amrywiaeth eang o dystiolaeth yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae timau sy’n cynnwys mwy nag un genhedlaeth yn ei chael ar weithleoedd. Mae’r timau hyn yn dueddol o fod yn fwy gwydn, yn fwy arloesol ac yn fwy parod i ymateb i anghenion sy’n newid.
Mae pob cenhedlaeth yn dod â rhywbeth unigryw i’r gweithle, gan gynnwys profiad a gwybodaeth sefydliadol – yn fewnol ac yn allanol – ac mae gan bob cenhedlaeth safbwyntiau gwahanol ar bethau fel datrys problemau a rheoli risgiau yn effeithiol.
Drwy gyfuno syniadau newydd gydag arferion sydd wedi eu hen sefydlu, a rhannu gwersi a ddysgwyd gyda phob cenhedlaeth, mae timau’n gallu addasu ac ymateb yn gynt, ac mae hyn yn aml yn hanfodol er mwyn llwyddo.
Mae cynlluniau mentora yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi hyn ac yn aml maent yn fwy gwerthfawr byth am eu bod yn fuddiol i’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora. Mae’r cynllun ‘DUO for a Job’ yn tynnu sylw at hyn.
Rhaglen ryngwladol yw hon sydd wedi ei llunio ar sail cyfnewid rhwng cenedlaethau. Mae DUO for a Job yn paru pobl ifanc sy’n chwilio am swydd ac sy’n dod o gefndiroedd sydd wedi ymfudo gyda mentoriaid gwirfoddol dros 50 oed.
Dros gyfnod o chwe mis, mae’r parau’n cwrdd yn wythnosol ac yn cael cyfle i feithrin perthnasoedd ystyrlon ar sail ymddiriedaeth, dysgu ar y cyd, a pharch gan y naill a’r llall.
Mae’r ddwy ochr yn elwa o’r cynllun; mae’r bobl ifanc yn cael arweiniad, hyder a mynediad at rwydweithiau newydd, ac mae’r mentoriaid hŷn yn cael cyfle i gadw’n heini, rhannu gwybodaeth a phrofiadau a theimlo bod gwerth yn yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Sefydlwyd DUO for a Job yn 2013 ac mae’r cynllun yn cael ei weithredu yng Ngwlad Belg, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Yn 2025, roedd y rhaglen wedi cefnogi 2000 a mwy o barau ac wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol (swydd, interniaeth neu hyfforddiant) i 7 o bob 10 o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen. Mae 80% o’r mentoriaid hefyd yn mynd yn eu blaen i gymryd rhan mewn rhaglen fentora bellach ar ôl cwblhau’r cyfnod mentora â’u pâr cyntaf.
Mae dylanwad y rhaglen yn dangos sut y mae perthnasoedd rhwng y cenedlaethau yn gallu gwella canlyniadau cyflogaeth i bobl ifanc, a chyfoethogi bywydau gwirfoddolwyr hŷn.
Ac ar ben hynny, drwy gysylltu pobl o wahanol genedlaethau a diwylliannau, mae DUO for a Job yn cryfhau’r ymdeimlad o gydlyniant cymdeithasol, yn lleihau rhagfarn, ac yn creu cymunedau sy’n fwy cynhwysol.
Mae defnyddio cryfderau pob cenhedlaeth yn creu sefydliadau cryfach a mwy gwydn sy’n fwy parod i ymateb. Mae hyn hefyd yn hanfodol wrth fynd ati i greu gweithleoedd a chymunedau lle caiff pawb gyfle i gymryd rhan, ac wrth ein cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.