Ymateb y comisiynydd i adroddiad sy’n tynnu sylw at ostyngiad sylweddol mewn disgwyliad oes iach
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:
“Rwy’n bryderus iawn ynghylch canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Sefydliad Iechyd, sy’n tynnu sylw at y ffaith bod disgwyliad oes iach wedi gostwng, ac mai Cymru sydd â’r dirywiad mwyaf ar draws y pedair gwlad.
“Testun pryder hefyd yw bod bylchau sylweddol a chynyddol rhwng disgwyliadau oes iach pobl sy’n byw yn yr ardaloedd cyfoethocaf o’u cymharu â’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf.
“Dylai’r ffaith bod disgwyliad oes iach yn dirywio’n sylweddol, yn enwedig o’i gymharu â gwledydd incwm uchel eraill, arwain at lywodraethau ar draws y DU i weithredu ac i weithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â hyn.
“Mae’n rhaid i’r llywodraeth yng Nghymru ac ar draws y DU sicrhau bod gwella disgwyliad oes iach yn darged allweddol, ac mae angen buddsoddi mwy mewn atal a chefnogi iechyd da drwy gydol oes pawb er mwyn galluogi hyn.
“Heb hyn, rydyn ni’n debygol o weld rhagor o ostyngiadau mewn disgwyliadau oes iach, a fydd yn arwain at ragor o gostau sylweddol – nid yn unig i unigolion yn gweld ansawdd eu bywyd yn dirywio a bod llai o gyfleoedd i gymryd rhan, ond hefyd yn fwy eang o ran cynnydd mewn costau iechyd a gofal cymdeithasol a llai o gynhyrchiant.
“Ochr yn ochr â’r gwaith hirdymor yma, rydyn ni hefyd angen gweld camau yn cael eu cymryd ar unwaith i wella gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gydag iechyd gwael er mwyn iddyn nhw gael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Dylai hyn gynnwys cymryd camau o fewn y GIG, fel lleihau rhestrau aros ac amseroedd aros, a chymryd camau gweithredu ehangach sy’n ymwneud â materion eraill sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant pobl, fel tlodi neu gael trafferth ymdopi’n ariannol, a theimlo’n unig ac yn ynysig.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu mynd i’r afael â’r materion hyn ar unwaith ac yn y tymor hir. Bydd hyn yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau ac i sicrhau bod pobl yn byw yn hirach ac yn cael y cyfleoedd maen nhw eu hangen i fyw a heneiddio’n dda.”