Ymateb y Comisiynydd i adroddiad yr Ymchwiliad i Ofalwyr Di-dâl
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dilyn yr ymchwiliad i Wella Mynediad at Gymorth i Ofalwyr Di-dâl, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae adroddiad damniol y Pwyllgor yn ei gwneud yn glir bod llawer o ofalwyr yn teimlo’n unig ac yn anobeithiol, ac mae’r sefyllfa hon yn bodoli ers blynyddoedd lawer.
“Yn hytrach na chyflawni’r gwelliannau a addawyd a chydnabod y gofal allweddol y mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn ei roi, sy’n werth biliynau’r flwyddyn, mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu â chadw at eu haddewidion i roi cymorth i ofalwyr, ac mae llawer o’r gofalwyr hyn yn bobl hŷn.
“Mae gofalwyr yn teimlo bod eu sefyllfa wedi gwaethygu a’u bod yn gorfod wynebu heriau cynyddol heb gymorth. Mae hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd y gofalwr, yn ogystal â’r sawl maen nhw’n gofalu amdanynt.
“Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at fylchau sylweddol sy’n peri gofid rhwng polisi ac ymarfer. Yn ôl y Pwyllgor, nid yw’r sicrwydd bod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yn adlewyrchu profiadau gofalwyr di-dâl, ac mae’n ymddangos hefyd nad ydynt yn mynd ati i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen ar fyrder.
“Ni fydd canfyddiadau’r Pwyllgor yn synnu llawer o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ond yn naturiol, byddant yn teimlo eu bod wedi cael cam, ac o ystyried eu profiadau hyd yma, nid wyf yn credu y bydd ganddynt lawer o ffydd y bydd newid ystyrlon yn digwydd.
“Dyna pam mae angen i Lywodraeth Cymru nesa lunio cynllun gweithredu manwl sy’n nodi sut y bydd yn ymateb yn gyflym i’r materion y mae’r Pwyllgor yn eu codi, gan ddarparu amserlenni clir ar gyfer cyflawni.
“Rydym ni wedi cael digon ar eiriau caredig a rhethreg wag: rhaid i ofalwyr di-dâl weld gweithredu clir a pharhaus sy’n darparu’r cymorth y mae ganddynt yr hawl iddo.”
Darllenwch adroddiad y Pwyllgor