Angen Help?

Ymateb y Comisiynydd i adroddiad ‘A ydym yn gofalu am ein gofalwyr?’

i mewn Newyddion

Ymateb y Comisiynydd i adroddiad ‘A ydym yn gofalu am ein gofalwyr?’

Wrth ymateb i ganfyddiadau adroddiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Ydyn ni’n gofalu am ein gofalwyr?, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu gofal a chymorth gwerth biliynau o bunnoedd. Mae hynny’n aml ar draul eu hiechyd a’u llesiant eu hunain. Ni fyddai ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu ymdopi heb ein gofalwyr di-dâl.

“Felly, mae’n siomedig dros ben gweld methiannau sylweddol o ran cynnal hawliau gofalwyr ar draws pedwar awdurdod lleol, fel y datgelwyd yn adroddiad diweddaraf yr Ombwdsmon. Mae’r adroddiad hefyd yn codi cwestiynau am faint o ofalwyr mewn rhannau eraill o Gymru sy’n wynebu profiadau tebyg.

“Mae’n frawychus mai dim ond 2.8% o ofalwyr yn yr ardaloedd yr ymchwiliwyd iddynt, llawer ohonynt yn ofalwyr hŷn, a gafodd asesiad. Mae hyn yn rhywbeth y mae gan bob gofalwr di-dâl hawl i’w gael, a dim ond 1.5% o ofalwyr a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth.

“Mae’r ffigurau hyn yn frawychus ac yn dangos bod bwlch annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer.

“Mae hefyd yn destun pryder mawr, ar ôl bron i ddegawd o’r dyletswyddau hyn, nad yw llawer o ofalwyr yn cael gwybodaeth lawn am eu hawliau, gan gynnwys eu hawl i eiriolaeth, bod gwybodaeth yn aml yn wael, a bod anghysondebau mewn iaith a therminoleg sy’n achosi dryswch ac yn creu rhwystrau i ofalwyr.

“Rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn edrych yn ofalus ar ganfyddiadau ac argymhellion yr Ombwdsmon, yn ogystal â’r arferion da a nodir yn yr adroddiad, ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol ac yn cynnal hawliau gofalwyr.

“Ar ben hynny, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ddefnyddio’r canfyddiadau i lywio ei hadolygiad sydd ar y gweill o’r Strategaeth Gofalwyr Di-dâl, ochr yn ochr â darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i adnabod gofalwyr di-dâl, gwella ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr, a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.”

Read the Ombudsman's Report

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges