Ymateb i lansio Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd i Gymru
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r Strategaeth Iechyd Meddwl newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n cydnabod ehangder y materion sy’n effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant, a’i nod yw sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn gyflym pan fydd eu hangen arnynt.
“Rwyf hefyd yn croesawu’r ffocws ar atal ac ymyrryd yn gynnar yn y strategaeth, sy’n adlewyrchu blaenoriaethau tebyg ar draws y system iechyd ehangach yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol i helpu i sicrhau nad yw pobl yn cyrraedd sefyllfa argyfyngus cyn eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth.
“Rwy’n falch bod y strategaeth yn cyfeirio at bobl hŷn a’r materion a’r rhwystrau penodol y gallent eu hwynebu, er y byddwn wedi hoffi cael rhagor o fanylion am sut y bydd yn mynd i’r afael â’r gwahaniaethu sy’n gallu effeithio ar fynediad pobl at wasanaethau a chymorth – boed hynny ar sail oedran neu nodweddion gwarchodedig eraill.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod problemau iechyd meddwl pobl hŷn weithiau wedi cael eu diystyru fel ‘henaint’, yn hytrach na rhywbeth y gellir ei helpu’n ymarferol drwy gynnig yr ystod lawn o driniaethau sydd ar gael i oedolion eraill.”
“Fel Comisiynydd, byddaf yn monitro sut caiff y strategaeth ei rhoi ar waith yn ofalus, er mwyn sicrhau bod ei huchelgeisiau’n cyflawni camau gweithredu ystyrlon a bod profiadau pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu gwella.”
Darllenwch Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2025-35