Heriau Heddiw, Syniadau Ddoe?
Newid demograffig wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru
Er bod y Senedd wedi cael toriad dros yr haf, mae gwaith wedi parhau ‘y tu ôl i’r llenni’ ac rydw i wedi rhannu amrywiaeth eang o dystiolaeth â Phwyllgorau newydd y Senedd, sy’n nodi pa faterion ddylai fod yn destun craffu ac ymchwiliadau yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Mae hyn wedi cynnwys galw am ymchwiliadau i faterion strwythurol eang, gan gynnwys hawliau pobl hŷn ac oedraniaeth, yn ogystal â materion sydd wedi’u gwreiddio’n fwy uniongyrchol ym mywydau pobl hŷn o ddydd i ddydd, fel tlodi ac addasu cartrefi.
Er bod nifer o themâu pwysig wedi dod i’r amlwg wrth baratoi a rhannu’r dystiolaeth hon, mae un thema benodol yn berthnasol i bob agwedd ar bolisi yng Nghymru, o dai a thrafnidiaeth i iechyd a gofal cymdeithasol, i ddiogelwch cymunedol a datblygu economaidd, sef newid demograffig.
Ers blynyddoedd lawer, mae dealltwriaeth dda o’r ffyrdd y mae poblogaeth Cymru yn newid. Rydym yn byw’n hirach ac mae nifer y bobl hŷn yn parhau i dyfu. Mae strwythurau aelwydydd a rhwydweithiau cymorth yn newid.
Felly, mae angen i ni ofyn cwestiwn syml ond sylfaenol: a yw ein gwasanaethau cyhoeddus, ein polisïau a’n cymunedau mewn sefyllfa i ymateb yn effeithiol i’r newidiadau hyn?
Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw hyn yn wir.
Er enghraifft, yn ddiweddar cyhoeddais adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith y rhagwelir y bydd nifer y bobl sy’n mynd yn hŷn heb blant yn cynyddu bron i ddwy ran o dair erbyn 2030, sy’n gynnydd sylweddol a chyflym.
Roedd fy adroddiad yn edrych ar brofiadau bywyd pobl a chanfu fod llawer o bobl hŷn heb blant yn gallu teimlo’n anweledig mewn cymdeithas lle mae heneiddio’n dal i gael ei ystyried yn aml drwy lygaid teulu. Ond yn fwy pryderus efallai, mae fy nghanfyddiadau hefyd yn dangos bod llawer o bolisïau a gwasanaethau’n parhau i dybio bod cymorth ar gael gan deuluoedd, sy’n arwain at nifer o rwystrau. Mae hyn nid yn unig yn creu heriau o ran cael gafael ar wasanaethau allweddol fel iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth, ond hefyd pethau fel gweithgareddau cymdeithasol a gwybodaeth (yn enwedig pan fydd hyn ar gael ar-lein yn unig).
Yn yr un modd, rydym yn gweld nifer cynyddol o bobl yn byw ar eu pen eu hunain wrth iddynt heneiddio, sy’n arwain at newidiadau mewn lefelau perchnogaeth tai a deiliadaeth tai.
Mae’r amcanestyniadau’n awgrymu y gallai tua 20% o bobl hŷn fod yn rhentu’n breifat erbyn 2040, i fyny o tua 4% heddiw. Mae hyn yn golygu bod nifer cynyddol o bobl hŷn yn debygol o wynebu ansicrwydd tai a phroblemau cysylltiedig fel tlodi, sydd â goblygiadau o ran iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau, yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod nifer o faterion eisoes yn cael effaith sylweddol ar bobl hŷn heddiw o ganlyniad i fethiannau i gynllunio’n effeithiol i ddiwallu anghenion poblogaethau sy’n newid.
Er enghraifft, mae amcanestyniadau dros nifer o flynyddoedd wedi dangos bod disgwyl i nifer y bobl sy’n byw gyda dementia datblygedig gynyddu’n sylweddol wrth i ni gyrraedd y 2020au, ond mae llawer o bobl hŷn sydd â dementia o’r fath yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt oherwydd prinder gwasanaethau gofal arbenigol. Mae hyn yn aml yn arwain at unigolion yn gorfod aros yn yr ysbyty am gyfnodau hir er eu bod yn feddygol iach i gael eu rhyddhau, neu bobl yn cael eu gadael heb ddewis ond symud filltiroedd lawer oddi wrth eu hanwyliaid i gael y gofal sydd ei angen arnynt.
Er gwaethaf amrywiaeth o dystiolaeth sy’n tynnu sylw at ffyrdd o wella cymorth i’r nifer cynyddol o ofalwyr hŷn di-dâl yng Nghymru, fel cyfleoedd ar gyfer seibiant, gwell cymorth ariannol neu fwy o hyblygrwydd mewn swyddi, mae llawer o unigolion yn cyrraedd pen eu tennyn, yn methu cael gafael ar y cymorth y mae ganddynt yr hawl i’w gael yn aml.
Nid yw hyn i gyd wedi digwydd dros nos. Ers blynyddoedd lawer, mae’r dystiolaeth wedi tynnu sylw’n glir at y newidiadau demograffig rydym yn eu gweld ar hyn o bryd, gyda sefydliadau, gan gynnwys fy swyddfa i, yn cynhyrchu adroddiadau, argymhellion a galwadau i weithredu. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at ganlyniadau peidio â chynllunio ac ymateb yn effeithiol i’n demograffeg sy’n newid.
Er y cydnabuwyd bod demograffeg yn newid, mae cynllunio a buddsoddi gan lywodraethau olynol wedi methu, gan arwain at bolisïau a gwasanaethau sy’n aml yn seiliedig ar dybiaethau am anghenion pobl, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar brofiadau bywyd.
Mae hyn yn cynyddu’r risg o ymateb i heriau heddiw gyda syniadau ddoe, gan roi atebion amherthnasol ar waith i faterion ac amgylchiadau sydd eisoes wedi newid.
Mae angen i ni roi’r gorau i ymateb i newid demograffig er mwyn cynllunio’n weithredol ar ei gyfer, gan adeiladu gwasanaethau a chymunedau o amgylch sut mae pobl yn byw eu bywydau mewn gwirionedd, cydnabod amrywiaeth profiadau pobl a chefnogi annibyniaeth, cysylltiad a llesiant.
Felly wrth i graffu ac ymchwiliadau hanfodol ddechrau yn y Senedd, rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r pwyllgor ar draws pob plaid yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynir iddynt drwy lygaid demograffeg, ac yn gofyn cwestiynau pwysig ynghylch a fydd polisïau a buddsoddiad yn diwallu anghenion pobl heddiw yn ogystal ag anghenion pobl a fydd yn newid yn y dyfodol.
Mae angen i ni hefyd weld cwestiynau o’r fath yn cael eu gofyn ar draws ein sector cyhoeddus, lle rwy’n gwybod bod uchelgais ar y cyd i ddarparu gwasanaethau o safon a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar gymorth os oes ei angen arnynt.
Mae cyflawni hyn yn golygu cydnabod newid demograffig fel realiti presennol, nid her yn y dyfodol, a defnyddio tystiolaeth i alluogi gweithredu nawr i sicrhau bod gwasanaethau, polisïau a chymunedau ledled Cymru yn gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.