Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2026: Pŵer Cymuned a Chysylltiadau
Bob blwyddyn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1 Hydref), rwy’n falch o ymuno â sefydliadau, grwpiau ac unigolion ledled y byd i ddathlu heneiddio a’r cyfraniad enfawr, sy’n werth biliynau yma yng Nghymru, y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n bywydau, ein cymuned a’n cymdeithas.
Mae’r diwrnod hefyd yn llwyfan i archwilio sut y gellid gwella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn, ac eleni mae’n canolbwyntio’n benodol ar y rôl hollbwysig y mae ein cymunedau’n ei chwarae wrth ein galluogi i fyw a heneiddio’n dda.
Mae hyn yn rhywbeth y mae pobl hŷn yn aml yn ei drafod gyda mi mewn digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, gan ddisgrifio pwysigrwydd y lleoedd maen nhw’n byw ynddynt o ran eu cefnogi i fod yn iach, yn annibynnol ac i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Dyma thema amlwg yn y fideo newydd a lansiais yr wythnos hon, sy’n cynnwys cyfraniadau gan 26 o bobl hŷn sy’n byw ledled Cymru.
Yn ogystal â siarad am y pethau maen nhw’n eu gwneud i aros yn hapus ac yn iach, a’r hyn maen nhw’n ei werthfawrogi am fynd yn hŷn, soniodd y bobl hŷn yn ein fideo am y ffyrdd y mae eu cymunedau’n eu cefnogi a’u grymuso.
Maent yn trafod y manteision a gânt o gael cyfleoedd i gymdeithasu, i gymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau neu i ddechrau gwirfoddoli. Maent hefyd yn sôn am sut y mae’r amgylchedd lleol a’r lleoedd awyr agored yn eu galluogi i fynd allan a gwneud cysylltiadau newydd.
Mae’r rhain yn nodweddion allweddol mewn cymunedau oed-gyfeillgar, ac maent yn tynnu sylw at pam ei bod hi’n hollbwysig ein bod yn gwneud rhagor o waith i sicrhau bod y lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt yn cefnogi iechyd, annibyniaeth a chyfranogiad.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn hefyd yn gyfle i herio rhagdybiaethau a stereoteipiau am dyfu’n hŷn, sy’n aml yn cael ei bortreadu fel rhywbeth i’w ofni, fel cyfnod o eiddilwch a dirywiad anochel.
Nid yw’n syndod bod heneiddio’n aml yn dod law yn llaw â rhai heriau, ond mae cyfraniadau’r bobl hŷn yn y cyfweliadau’n ein hatgoffa bod heneiddio’n aml yn gyfnod llawn boddhad, sy’n cynnig rhyddid a chyfleoedd newydd.
Pan fyddwch chi’n gwylio’r fideo, nid pobl sy’n byw mewn ofn o heneiddio, nac yn poeni am ddirywio y byddwch chi’n eu gweld. Ond, pobl sy’n parhau i ddysgu, cyfrannu, cysylltu ag eraill a mwynhau profiadau newydd.
Rhaid i ni beidio ag anwybyddu’r anawsterau y gall heneiddio eu hachosi, na’r problemau sy’n atal pobl rhag byw a heneiddio’n dda. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn dathlu’r pethau cadarnhaol y mae llawer o bobl hŷn yn eu profi wrth heneiddio, a herio’r rhagdybiaethau hen ffasiwn sydd, yn rhy aml o lawer, yn dylanwadu ar sut y mae cymdeithas yn meddwl ac yn siarad am heneiddio.
Rhaid i ni gydnabod bod mynd yn hŷn yn rhan naturiol o fywyd y dylid ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i ddathlu – nid ar 1 Hydref yn unig, ond bob dydd.
GWYLIWCH HENEIDDIO YNG NGHYMRU: LLEISIAU POBL HŶN