Ymateb i gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn galw amdano er mwyn helpu i fynd ati’n well i ddiogelu’r miloedd o bobl hŷn yng Nghymru sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin.
“Mae cyhoeddi’r cynllun hwn – sef y cyntaf o’i fath yn y DU – yn gam pwysig ymlaen. Mae’n adlewyrchu bod graddfa ac effaith cam-drin pobl hŷn yn cael ei gydnabod yn fwyfwy, a bod angen gweithredu’n benodol ac yn ystyrlon i sicrhau, beth bynnag fo’u hoed, y gall pawb sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, gael gafael ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
“Rwy’n croesawu’n arbennig bod y cynllun yn cydnabod y cysylltiadau rhwng cam-drin ac oedraniaeth. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn edrych arno drwy fy ngwaith fy hun ac mae’n hanfodol er mwyn pennu’r dulliau mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â cham-drin a diogelu pobl hŷn mewn cymdeithas.
“Bydd y camau a gymerir drwy’r cynllun yn ategu ac yn cefnogi fy ngwaith i atal cam-drin pobl hŷn, yn ogystal â’r amrywiaeth eang o waith sy’n cael ei gyflawni ledled Cymru gan aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlais yn 2020.
“Ar ben hynny, drwy alluogi gwelliannau mewn meysydd allweddol – gan gynnwys cyfathrebu, hyfforddi’r gweithlu, casglu data a chydweithio – bydd y cynllun yn helpu i amddiffyn miloedd o bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.”
Darllenwch y Cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn