Myfyrio ar Raglen Lywodraethu 2026-2030
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu, sy’n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer tymor pedair blynedd y Senedd sydd i ddod, ac sy’n darparu fframwaith allweddol y gellir ei ddefnyddio i fesur cyflawniad, cynnydd a gwelliannau.
Ar ôl bod drwy’r Rhaglen yn fanwl, roeddwn i eisiau rhannu fy meddyliau ynghylch lle mae gan y rhaglen botensial i wella bywydau pobl hŷn, lle mae angen cymryd camau pellach a sut byddaf yn craffu ar y ddarpariaeth dros dymor y Senedd.
Rwy’n croesawu llawer o elfennau’r Rhaglen, yn enwedig ei ffocws cryf ar atal, cefnogi annibyniaeth a gwella iechyd a lles pobl. Mae’r blaenoriaethau hyn yn hanfodol i alluogi pobl i fyw a heneiddio’n dda, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymateb i’r pwysau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.
Mae nifer o ymrwymiadau’r rhaglen yn adlewyrchu galwadau am weithredu rwyf wedi’u gwneud i Lywodraeth Cymru, a phe baent yn cael eu troi’n gamau gweithredu ystyrlon, byddent yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl hŷn. Mae’r galwadau hynny’n cynnwys:
- Gwneud cynnydd tuag at ddarparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, ochr yn ochr â chefnogi pobl i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach a chael gofal yn nes at eu cartref.
- Datblygu cynllun iechyd pobl hŷn fel rhan o Strategaeth Iechyd Cyhoeddus newydd i Gymru, gan gynnwys canolbwyntio ar gynyddu disgwyliad oes iach.
- Gwella ansawdd tai a chynyddu’r ddarpariaeth tai cymdeithasol.
- Galluogi diagnosis, triniaeth a chymorth cynharach i bobl sy’n byw gyda dementia, wedi’u hategu gan strategaeth ddementia newydd i Gymru.
- Darparu mwy o gefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl drwy Strategaeth Genedlaethol newydd.
- Gwella polisi ac ymarfer sy’n ymwneud â diwygio systemau diogelu oedolion.
Rwyf hefyd yn croesawu’r ymrwymiad penodol i gadw’r cerdyn bws rhatach i bobl 60 oed a hŷn, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi annibyniaeth pobl hŷn.
Mae’r ymrwymiadau hyn yn darparu sylfaen gadarn a fframwaith ar gyfer gweithredu, a byddaf yn monitro ac yn craffu’n ofalus ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod uchelgeisiau’r Rhaglen yn cael eu troi’n newid a gwelliannau ystyrlon i bobl hŷn.
Byddaf hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach mewn nifer o feysydd allweddol a gafodd lai o ffocws yn y Rhaglen, gan arwain o bosibl at golli cyfleoedd i ymateb i faterion allweddol sy’n aml yn effeithio ar bobl hŷn.
Er enghraifft, nid yw’r Rhaglen yn cyfeirio at gynhwysiant digidol, tai hygyrch ac addasadwy, na chymunedau oed-gyfeillgar – ac mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi pobl hŷn i aros yn iach, yn annibynnol ac i gadw mewn cysylltiad â’u cymuned.
Ar ben hynny, nid oes cyfeiriad at effaith tlodi ar bobl hŷn na heriau costau byw y mae llawer o unigolion bellach yn eu hwynebu yn nes ymlaen mewn bywyd, nac at unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Gwyddom fod y materion hyn yn cael effaith sylweddol ar iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn, yn ogystal â chreu pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, felly mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn cymryd camau i ymateb i’r rhain yn effeithiol.
Yn fwy cyffredinol, roedd yn drawiadol mai prin iawn oedd cyfeiriadau’r Rhaglen at y materion penodol sy’n gallu wynebu pobl hŷn, er gwaethaf y newidiadau demograffig sylweddol y bydd yn cael eu gweld yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf a goblygiadau’r rhain i wasanaethau cyhoeddus, cymunedau a’r economi.
Heb y gydnabyddiaeth hon, mae perygl y bydd penderfyniadau polisi yn anwybyddu’r anghydraddoldebau a brofir gan bobl hŷn, gan gynnwys y rhai y mae eu profiadau’n cael eu llywio gan anabledd, ethnigrwydd, tlodi, cyfrifoldebau gofalu neu nodweddion gwarchodedig eraill.
Rhaid i ni ystyried oedolion hŷn fel dinasyddion gweithredol, yn hytrach na dim ond defnyddwyr gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a chyhoeddus. Yn hytrach, rhaid defnyddio eu profiadau bywyd, eu cyfraniadau a’u dyheadau i lunio polisi ac ymarfer, fel bod penderfyniadau’n adlewyrchu realiti yn nes ymlaen mewn bywyd a chyfleoedd cymdeithas sy’n heneiddio.
Bydd hyn yn cefnogi dull gweithredu mwy strategol sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn hanfodol i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau nid yn unig yn barod i ymateb i newid demograffig, ond hefyd yn gallu cefnogi pobl i gael ansawdd bywyd da. Mae gan gymunedau oed-gyfeillgar ran hollbwysig i’w chwarae yma, gan ddarparu fframwaith ymarferol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi pobl i aros yn annibynnol yn hirach.
Fel y nodwyd uchod, mae’r uchelgeisiau yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n canolbwyntio ar atal, disgwyliad oes iach, lles cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy i’w croesawu. Ond, mae’n bwysig cydnabod mai dim ond drwy roi mwy o gydnabyddiaeth i bobl hŷn a’n cymdeithas sy’n heneiddio y byddant yn cael eu cyflawni’n realistig.
Dyna pam, fel Comisiynydd, y byddaf yn parhau i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wrth galon trafodaethau a phenderfyniadau wrth i’r Rhaglen symud ymlaen, er mwyn i’r polisïau a’r gwasanaethau sy’n siapio dyfodol Cymru adlewyrchu realiti bywydau pobl hŷn a chefnogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.