Ymateb i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod ar gryfhau trefniadau diogelu yng Nghymru
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae pobl hŷn yn profi’r un math o gamdriniaeth a niwed â grwpiau eraill, ond yn aml nid oes cydnabyddiaeth na dealltwriaeth lawn o hyn ac mae hynny’n creu bylchau yn y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael.
“Rwyf i felly’n croesawu’r datganiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog, sy’n nodi nifer o fesurau arfaethedig sydd wedi’u cynllunio i gryfhau atebolrwydd, cydlyniant a phrosesau rhannu gwybodaeth yn y system ddiogelu.
“Byddai cyflwyno Cynllun Gweithredu Cenedlaethol newydd ar Ddiogelu wedi’i ategu gan fframwaith cadarn ar gyfer gweithredu, bod yn atebol a chyflawni, yn gyfle i nodi uchelgais gyffredin glir ar gyfer y dyfodol.
Mae’n hanfodol bod y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu yn cael ei lywio a’i siapio gan leisiau a phrofiadau uniongyrchol pobl hŷn. Mae hyn yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn deall y rhwystrau penodol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth roi gwybod am gamdriniaeth a phryderon a chael gafael ar gymorth, ac yn ymateb iddynt yn briodol.
“Mae cyfleoedd hefyd i ddefnyddio’r gwersi, y camau gweithredu a’r ymrwymiadau a geir yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru, gan sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gynnal a’i gynnwys yn llawn mewn unrhyw flaenoriaethau diogelu cenedlaethol a gyflwynir yn y dyfodol.
“Yn yr un modd, dylai cryfhau strwythurau cenedlaethol a threfniadau llywodraethu helpu i sicrhau dull gweithredu mwy rhagweithiol, fel bod y risgiau sy’n dod i’r amlwg yn cael eu nodi’n gynharach, bod camau’n cael eu cymryd ar sail y gwersi a ddysgwyd a bod gwelliannau’n cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru.
“Wrth symud ymlaen, mae angen i welliannau ddigwydd ym maes data hefyd, fel ei fod yn fwy cyson a bod modd ei ddadansoddi yn ôl oedran a nodweddion eraill.
“Ond rhaid i ni ystyried mwy na rhifau yn y system yn unig wrth fesur yr effaith. Rhaid mesur sut mae’n ein helpu ni i ddeall a fydd profiadau pobl hŷn yn gwella, a ydyn nhw’n gallu cael gafael ar y cymorth cywir ar yr amser cywir ac a yw trefniadau diogelwch yn arwain at ganlyniadau gwell i fywydau pobl. Mae gan gynigion y Dirprwy Weinidog y potensial i gryfhau trefniadau diogelu yng Nghymru a sbarduno gwelliannau hollbwysig.
“Prawf eu llwyddiant yn y pen draw fydd i ba raddau y mae’r cynigion hyn yn gwella profiadau pobl hŷn, mynediad at wasanaethau a chanlyniadau, nid a ydynt yn cynyddu gweithgarwch ac adrodd yn y system. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i graffu’n fanwl arno fel Comisiynydd.”