Angen Help?

Ymateb i Gyhoeddiad y Cap ar Brisiau Ynni

i mewn Newyddion

Dywedodd y Cyfarwyddwr Polisi, Rachel Bowen:

“Bydd y cyhoeddiad heddiw y bydd y cap ar brisiau ynni ar gyfer aelwyd gyffredin yn cynyddu 10% i £1,717 y flwyddyn o fis Hydref ymlaen yn peri pryder mawr i bobl hŷn ledled Cymru a bydd llawer yn ei chael hi’n anodd ymdopi y gaeaf hwn.

“Bydd cynnydd mewn costau ynni yn arwain at fwy o bobl hŷn yn gwario llai ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian. Mae angen i Lywodraeth y DU ailystyried ar frys y penderfyniad i gyfyngu taliadau Lwfans Tanwydd Gaeaf i’r bobl hŷn hynny sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig, er mwyn osgoi gwthio mwy o bobl hŷn yng Nghymru i dlodi, a fydd yn peryglu iechyd a lles llawer ohonynt.

“Yn y cyfamser, mae hi’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, yn enwedig Credyd Pensiwn, sy’n werth £75 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rhai sy’n ei hawlio ac yn datgloi ystod o hawliau pwysig eraill sy’n darparu rhagor o gymorth.”

 

I weld a allech chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, ewch i https://www.gov.uk/credyd-pensiwn neu ffoniwch 0800 99 1234.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges