Ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar yr Adolygiad o Bensiwn Gwladol
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
Mae’r Adolygiad Pensiynau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnig cyfle i archwilio sut y gallwn greu system gynaliadwy sy’n sicrhau bod gan bobl ddigon o incwm pan fyddant yn ymddeol ac nad ydynt yn wynebu caledi ariannol na thlodi, sy’n broblem i nifer sylweddol o bobl hŷn.
“Fel rhan o hyn, bydd yn hanfodol pennu lefel yr incwm sydd ei angen ar bobl hŷn er mwyn cael safon byw dderbyniol, gan gydnabod y rhan allweddol y mae’r Pensiwn Gwladol yn debygol o barhau i’w chwarae yn hyn o beth, yn enwedig yma yng Nghymru.
“Mae hefyd yn bwysig bod yr Adolygiad o Oedran Pensiwn Gwladol sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â’r gwaith hwn yn edrych y tu hwnt i ddisgwyliad oes fel ffordd o bennu’r oedran cymhwyso, gan ganolbwyntio lawer mwy ar sut mae disgwyliad oes iach yn effeithio ar ein gallu i weithio wrth i ni heneiddio.
“Ar hyn o bryd, mae’r bwlch rhwng disgwyliad oes a disgwyliad oes iach yn y DU yn fwy na 15 mlynedd, ffigur sy’n cynyddu mewn ardaloedd difreintiedig. Heb weithredu i gau’r bwlch hwn, ni fydd llawer o bobl yn gallu gweithio’n hirach, tra gallai eraill roi eu hunain mewn perygl drwy barhau i weithio er eu bod mewn iechyd gwael, rhywbeth a allai greu costau annisgwyl eraill o bosibl oherwydd yr angen cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Ar ben hynny, mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran mewn cyflogaeth yn dal yn gyffredin, gan greu rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag aros mewn gwaith neu ddychwelyd i waith.
“Nes i’r materion hyn gael sylw, bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd neu’n amhosibl aros mewn gwaith neu ddod o hyd i waith wrth iddynt gyrraedd diwedd eu 60au a gallent fod mewn perygl o galedi ariannol neu fynd i dlodi wrth iddynt nesáu at Oedran Pensiwn Gwladol.
“Felly, rhaid i unrhyw newidiadau i’r system bensiynau a awgrymir gan yr adolygiadau hyn gael eu hategu gan gamau gweithredu ystyrlon i leihau anghydraddoldebau iechyd a rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, sy’n cyfyngu ar gyfleoedd gwaith a chyflogaeth i gynifer o bobl hŷn.
“Byddai hyn yn gwneud mwy na chynyddu cynhyrchiant ac yn rhoi hwb i’r economi, oherwydd byddent hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl gynllunio’n ariannol a pharatoi’n fwy effeithiol ar gyfer eu hymddeoliad.”