Ymateb i’r cyhoeddiad am newidiadau posibl i’r drefn gymhwyso ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw ei fod ‘eisiau i fwy o bobl fod yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf’. Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau llawer o bobl hŷn yng Nghymru.
“Mae colli’r gefnogaeth hanfodol a geir yn sgil y Taliad Tanwydd Gaeaf yn fater sy’n dal i gael ei godi gyda mi gan bobl hŷn ym mhob cwr o Gymru. Mae llawer o unigolion wedi dweud wrthyf eu bod wedi torri’n ôl ar eu gwres y gaeaf diwethaf oherwydd y newidiadau, ac mae llawer hefyd yn poeni am y gaeaf sydd o’u blaenau.
“Mae gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ar bryderon pobl hŷn – a’r rheini sy’n eiriol drostynt ac yn eu cefnogi – ynglŷn ag effaith cyflwyno prawf modd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, a’i bod yn ymateb i’r pryderon hyn ac yn sicrhau nad yw pobl hŷn yn wynebu gaeaf arall lle nad ydyn nhw’n siŵr sut byddant yn fforddio eu costau gwresogi.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU egluro ar frys beth fydd cyhoeddiad heddiw yn ei olygu mewn gwirionedd.
“Dydy codi’r trothwy ariannol i bobl hŷn ddod yn gymwys i gael y taliad ddim yn ddigon ar ei ben ei hun. Rydyn ni’n gwybod bod achosion wedi bod lle mae pobl wedi ceisio hawlio Credyd Pensiwn ac wedi cael eu gwrthod oherwydd eu bod ychydig o bunnoedd, neu hyd yn oed geiniogau, drosodd. Bydd llawer o bobl felly’n amharod i roi cynnig arall arni, sy’n golygu y byddent yn parhau i golli allan y gaeaf nesaf.
“Byddwn yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i adfer y Taliad Tanwydd Gaeaf yn llawn fel hawl gyffredinol.
“Bydd hyn yn golygu bod pawb sydd angen y taliad yn ei gael, bod trothwyon ‘ymyl y dibyn’ posibl yn cael eu dileu, ac na fydd pobl hŷn yn wynebu proses hawlio a allai fod yn anodd ac yn stigmateiddio pobl hŷn.”