Angen Help?
United Nations Logo

DATGANIAD AR Y CYD: Cefnogi’r camau nesaf tuag at gryfhau hawliau dynol pobl hŷn ledled y byd

i mewn Newyddion

DATGANIAD AR Y CYD: Cefnogi’r camau nesaf tuag at gryfhau hawliau dynol pobl hŷn ledled y byd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, a’r Comisiynydd dros Bobl Hŷn yng Ngogledd Iwerddon, Siobhan Casey, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd cyn cyfarfod nesaf Gweithgor Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig (CU) ar Hawliau Dynol Pobl Hŷn¹, a fydd yn cynnwys ffocws ar sefydlu Confensiwn newydd ar Hawliau Pobl Hŷn, sef mecanwaith allweddol ar gyfer diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn:

“Mae ein hawliau yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ein bod yn cael ein trin yn deg ac ag urddas, ac wrth ddiogelu ein rhyddid, ein hhawl i ryddid personol a’n preifatrwydd.

“Nid yw ein hawliau yn lleihau wrth inni heneiddio, ac eto mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru a Gogledd Iwerddon wedi dweud wrthym eu bod yn aml yn teimlo fel pe bai hyn yn wir.

“Felly, mae gweithredu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn weladwy, yn cael eu diogelu ac yn cael eu hymgorffori ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig.

“Mae’n bwysig cydnabod y cynnydd a wnaed gan Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig, sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol a sefydliadau cymdeithas sifil wrth hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Bellach mae’n rhaid inni adeiladu ar y cynnydd hwnnw ar frys er mwyn gwireddu hawliau ym mywydau bob dydd pobl.

“Byddai sefydlu Confensiwn newydd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn yn fecanwaith allweddol i gyflawni hyn, ac mae’r ddwy ohonom yn cefnogi hynny’n gryf.

“Byddai cyflwyno Confensiwn yn helpu i ddarparu dehongliad cliriach a mwy hygyrch o hawliau dynol yng nghyd-destun profiadau pobl hŷn, gan gynnig fframwaith mwy cadarn ar gyfer mynd i’r afael â materion hawliau penodol sy’n effeithio ar bobl hŷn.

“Byddai Confensiwn hefyd yn creu dyletswyddau ar gyfer llywodraethau a chyrff cyhoeddus, a fyddai’n helpu i sicrhau mwy o ffocws ar bobl hŷn a’u hanghenion wrth wneud penderfyniadau, yn ogystal â mwy o atebolrwydd drwy well adrodd a chasglu data.

“Yn ogystal, byddai Confensiwn yn ailgyfeirio sylw llunwyr polisi a phenderfynwyr at hawliau pobl hŷn, ac yn creu cyfleoedd i ystyried ystod eang o bolisïau ac arferion o safbwynt newydd, gan ddefnyddio’r Confensiwn fel ffordd o hwyluso newid.

“Ac yn bwysig, byddai diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn drwy Gonfensiwn sy’n seiliedig ar iaith glir, berthnasol a hygyrch yn helpu pobl hŷn i weld sut mae hawliau dynol yn berthnasol i’w profiadau bob dydd, eu perthnasoedd a’u rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus. Byddai hyn yn helpu i rymuso pobl hŷn i ddeall, adnabod, hyrwyddo ac arfer eu hawliau gyda mwy o hyder.

“Mae dyheadau llawer o bobl hŷn ar draws ein dwy wlad yn hynod debyg: cael eu gwerthfawrogi, cael eu clywed a chael eu trin ag urddas. Mae Confensiwn newydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau bod yr uchelgeisiau hyn yn cael eu cefnogi gan hawliau clir ac amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Felly, wrth i’r momentwm barhau i dyfu, edrychwn ymlaen at weithio’n adeiladol gyda phartneriaid rhyngwladol yn ystod y sesiwn sydd i ddod ym mis Hydref a thu hwnt, er mwyn cefnogi’r camau nesaf tuag at gryfhau hawliau dynol pobl hŷn ledled y byd.”

Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Siobhan Casey, Comisiynydd dros Bobl Hŷn Gogledd Iwerddon

Dysgwch ragor am Weithgor Rhynglywodraethol

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges