Y Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad ar adolygiad annibynnol o Covid-19 yng Nghymru
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu cynnal adolygiad annibynnol o Covid-19 yng Nghymru. Byddai adolygiad o’r fath yn darparu cyfleoedd pwysig i ystyried y camau a’r penderfyniadau penodol a gymerwyd yng Nghymru mewn ymateb i’r pandemig, a’r effaith a gafodd y rhain ar fywydau pobl hŷn.
“Gwnaeth Gweinidogion Cymru penderfyniadau allweddol am y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau allweddol eraill a’r cyfyngiadau a osodwyd ar ein bywydau bob dydd, ac felly mae’n hanfodol bod atebolrwydd am y rhain.
“Byddai cynnal adolygiad penodol i Gymru hefyd yn darparu cyfleoedd i archwilio ymhellach a oedd hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hystyried yn ddigonol, yn enwedig mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac wrth weithredu a gwneud penderfyniadau.
“O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio ers dechrau’r pandemig, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr adolygiad hwn yn gyflym, ac edrychaf ymlaen at graffu ar ragor o fanylion – gan gynnwys y cwmpas a’r amserlenni arfaethedig – pan gyhoeddir y rhain ym mis Tachwedd. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd roi sicrwydd na fydd yr adolygiad hwn yn effeithio ar ei hymateb i Ymchwiliad Covid y DU, a gyhoeddodd ei adroddiad diweddaraf yr wythnos hon, nac yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu a argymhellwyd hyd yma.
“Mae’n hanfodol bod gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig yn cael eu trosi’n newidiadau a gwelliannau ystyrlon i ddiogelu pobl hŷn yn well – nid yn unig o ran ymateb i bandemig yn y dyfodol, ond hefyd yn ehangach wrth ymateb i faterion cyfredol a materion sy’n dod i’r amlwg. Ochr yn ochr â hyn, rhaid sicrhau bod pobl hŷn a’u hanwyliaid yn cael y tryloywder a’r atebolrwydd y maen nhw’n eu haeddu.”