Angen Help?

Comisiynydd yn ymateb i Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU ar y Sector Gofal

i mewn Newyddion

Datganiad: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymateb i Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU ar y Sector Gofal

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Er y bydd yn cymryd amser i ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Ymchwiliad Covid heddiw yn fanwl, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer yma yng Nghymru, roeddwn i eisiau rhannu fy ymateb cychwynnol.

Mae cyhoeddi’r adroddiad yn ein hatgoffa o effaith ddinistriol y pandemig ar bobl hŷn mewn cartrefi gofal, a arweiniodd yn anffodus at filoedd o unigolion yn colli eu bywydau, yn ogystal â’r boen a’r galar parhaus sy’n dal i gael ei deimlo gan lawer o anwyliaid.

“Rwyf hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth yn yr adroddiad o’r effaith sylweddol a gafodd y pandemig ar staff gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl, a pha mor bwysig oedd y cymorth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach – gyda chost bersonol yn aml.”

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o fethiannau annerbyniol a oedd yn creu amgylcheddau mewn lleoliadau gofal lle gallai’r feirws ledaenu, gan gynnwys methiannau i gynllunio’n effeithiol ar draws sawl maes. Arweiniodd hyn at ddiffyg Cyfarpar Diogelu Personol, rheoli heintiau’n wael, canllawiau aneffeithiol, oedi o ran galluogi ymweliadau diogel, a phroblemau eraill, ac roedd pob un o’r rhain yn creu risgiau a chanlyniadau sylweddol i bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod methiannau cyson i gydnabod hawliau sylfaenol pobl hŷn a defnyddio’r hawliau hyn fel sail ar gyfer penderfyniadau, wrth wraidd llawer o’r problemau dan sylw yn yr adroddiad.

“Mae hefyd yn destun pryder mawr ei bod yn ymddangos bod gofal cymdeithasol wedi bod yn ‘ôl-ystyriaeth’ yn ystod y pandemig, er gwaethaf sicrwydd bod gwendidau penodol pobl sy’n cael gofal a chymorth, a phwysigrwydd y sector yn gyffredinol, yn cael eu cydnabod wrth lunio polisïau a phenderfyniadau.

“Serch hynny, fel y gwyddom erbyn hyn, y realiti oedd nad oedd y sector gofal cymdeithasol a chartrefi gofal yn benodol wedi cael digon o warchodaeth ar adeg pan oedd angen hyn fwyaf arnynt.

Rwy’n croesawu argymhellion y Cadeirydd, sy’n ymateb i lawer o’r materion a amlygwyd yn y dystiolaeth a rannwyd â’r Ymchwiliad gan fy swyddfa, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â gwella gofal a chymorth diwedd oes, a chanllawiau newydd i roi mwy o eglurder ynghylch trefniadau ymweld.

“Rwyf hefyd yn croesawu bod y Cadeirydd yn galw am gyflawni’r camau gweithredu gofynnol ar unwaith, a fyddai’n helpu i sicrhau ein bod yn fwy parod i wynebu materion tebyg pe byddant yn codi yn y dyfodol. Byddai hyn hefyd yn dangos ymrwymiad i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig i wneud newidiadau a gwelliannau ystyrlon, fel yr addawyd pan gyhoeddwyd yr Ymchwiliad yn 2021.

“Fodd bynnag, byddwn wedi hoffi gweld yr argymhellion yn canolbwyntio mwy ar sicrhau atebolrwydd am fethiannau neu benderfyniadau gwael, rhywbeth rwy’n gwybod sy’n flaenoriaeth i lawer o bobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru.

“Rwy’n aros am ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru, a fydd yn nodi sut bydd yn ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad. Os byddaf yn teimlo bod unrhyw feysydd lle nad yw hyn yn ddigonol, neu lle nad yw’n ymddangos bod lleisiau, profiadau a hawliau pobl hŷn wedi cael eu hystyried yn ddigonol, ni fyddaf yn oedi cyn mynegi fy mhryderon.”

Darllenwch yr Adroddiad Ymchwiliad

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges