Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb ar hawliau pobl hŷn
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb, sy’n egluro’r niwed sylweddol a achosir gan oedraniaeth – i bobl hŷn ac i gymdeithas yn ehangach.
“Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn adlewyrchu’n agos y camau yr oeddwn i a’m rhagflaenydd yn galw amdanynt wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, ac rwy’n enwedig yn croesawu’r galwadau i archwilio a yw deddfwriaeth i atal gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithiol o ran amddiffyn pobl hŷn – yn dilyn pryderon a godwyd nad yw hyn yn wir yn aml.
“Rwyf hefyd yn croesawu’r galwadau i flaenoriaethu strategaeth cynhwysiant digidol newydd ar gyfer y DU sy’n cynnwys canolbwyntio’n fanwl ar anghenion pobl hŷn, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu heithrio a’u gadael ar ôl wrth i fwy o wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu’n ddigidol, a sicrhau bod dewisiadau all-lein yn dal i fod ar gael.
“Yn ogystal â hyn, rwy’n falch bod y Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth y DU i edrych ar y strwythurau a’r systemau sydd gennym ar waith yma yng Nghymru – gan gynnwys rôl y Comisiynydd, y strategaeth genedlaethol, Cymru Oed-Gyfeillgar, a’n rhwydwaith cynhwysfawr o Hyrwyddwyr Pobl Hŷn mewn awdurdodau lleol – gyda’r bwriad o greu fframwaith tebyg yn Lloegr.
“Fel Comisiynydd, rwyf wedi dweud fy mod i eisiau i Gymru arwain y ffordd i bobl hŷn ac mae hon yn enghraifft dda o hynny – mae cyfleoedd go iawn i ddysgu oddi wrth Gymru er mwyn sicrhau newid ystyrlon i bobl hŷn.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth y DU, a fydd yn gadarnhaol gobeithio, ac at barhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn ei holl ffurfiau.”
Darllenwch adroddiad y Pwyllgor