Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar Dlodi ymysg pobl hŷn
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwyf yn croesawu’n fawr yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau, sy’n edrych ar effaith tlodi ar fywydau pobl hŷn ac yn galw am amrywiaeth o gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU i wrthdroi’r cynnydd mewn tlodi ymysg pobl hŷn sydd wedi’i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r casgliadau a’r argymhellion yn yr adroddiad yn adlewyrchu’n agos y dystiolaeth a’r pryderon a rannais â’r Pwyllgor, gan nodi amrywiaeth o fesurau ymarferol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau llawer o bobl hŷn pe baent yn cael eu datblygu.
“Rwy’n croesawu’n arbennig alwadau gan y Pwyllgor i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau pensiwn sy’n wynebu rhai grwpiau, cynyddu argaeledd tariffau cymdeithasol a mynediad atynt, a gwella’r broses ar gyfer hawlio Credyd Pensiwn, gan gynnwys cyflwyno ‘tapr’ i sicrhau nad yw pobl a allai fod ychydig yn uwch na’r trothwy cymhwyso yn colli allan mwyach ar y cymorth ehangach y mae hyn yn ei ddatgloi.
“Rwyf hefyd yn croesawu’r alwad ar Lywodraeth y DU i benodi comisiynydd pobl hŷn ar gyfer Lloegr, a fyddai’n sicrhau bod gan bobl hŷn yn Lloegr lais annibynnol cryf i gynrychioli eu buddiannau a helpu i ddiogelu eu hawliau, ochr yn ochr â chreu cyfleoedd i weithio ar draws gwledydd i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed wrth lunio polisïau a phenderfyniadau.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad, ac yn gobeithio y bydd yn ymrwymo i gyflawni’r ystod o gamau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
“Ar ben hynny, yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad o’r Pensiwn Gwladol, mae’n hanfodol fod canfyddiadau’r Pwyllgor yn cael eu hystyried er mwyn i brofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi lywio a siapio’r gwaith hwn.”
Darllenwch adroddiad y Pwyllgor