Angen Help?

Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi Tanwydd

i mewn Newyddion

Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi Tanwydd

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd, mater allweddol sy’n effeithio ar fywydau degau o filoedd o bobl hŷn yng Nghymru.

“Rwy’n falch bod canfyddiadau’r adroddiad yn adlewyrchu’r dystiolaeth a rannais â’r Pwyllgor a bod llawer o’r argymhellion yn cyd-fynd â’r camau gweithredu rwyf wedi bod yn galw amdanynt i fynd i’r afael â’r mater hwn sy’n peri mwy a mwy o bryder.

“Yn arbennig, rwy’n croesawu argymhellion y Pwyllgor i wella data ar nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd, a fydd yn rhoi darlun cliriach o wir raddfa’r mater hwn a’i effaith, ac ar gyfer targedau dros dro newydd i gyflawni’r gwelliannau.

“Fodd bynnag, byddwn hefyd wedi hoffi gweld ymateb mwy cadarn gan y Pwyllgor i alwadau gen i a sefydliadau allweddol eraill ar ran Llywodraeth Cymru i archwilio’r ffyrdd y gallai ddarparu cymorth ariannol i bobl hŷn yn dilyn newidiadau i’r system Taliadau Tanwydd Gaeaf. Mae cynsail ar gyfer hyn, gyda Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol yn flaenorol ar gyfer costau tanwydd i aelwydydd incwm isel.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a’i argymhellion, a fydd, gobeithio, yn arwain at gamau gweithredu ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu fforddio cadw eu hunain yn gynnes ac yn iach.”

Darllen adroddiad y Pwyllgor

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges