Ymateb i adroddiad ‘Pawb ar y Bws?’ RNIB Cymru ynglŷn â gwasanaethau bysiau
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu adroddiad RNIB Cymru heddiw, sy’n edrych ar yr heriau sy’n wynebu pobl ddall a rhannol ddall sy’n defnyddio bysiau yng Nghymru – llawer ohonynt yn bobl hŷn.
“Mae gwasanaethau bysiau yn aml yn hanfodol i helpu pobl i aros yn annibynnol ac i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, yn enwedig wrth fynd yn hŷn.
“Mae’r rhwystrau y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad – sy’n ymwneud â chynllunio teithiau, hygyrchedd ar fysiau, cyrraedd y safle bws a dal y bws, ac ymddygiad gyrwyr a theithwyr – yn adlewyrchu’r materion a godwyd gan lawer o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru yn fy sgyrsiau â nhw. A gall y problemau hyn ei gwneud hi’n anodd, os nad yn amhosibl, cael gafael ar y gwasanaethau hanfodol yma.
“Gyda newidiadau sylweddol ar y gweill yng Nghymru yn sgil Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), mae’n hanfodol bod y mathau hyn o faterion yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw – ochr yn ochr â gwella argaeledd, amlder a dibynadwyedd gwasanaethau bysiau.
“Byddaf yn galw am hyn yn y dystiolaeth y byddaf yn ei rhannu â’r Pwyllgor sy’n craffu ar y ddeddfwriaeth, ac wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd.”
Darllenwch Adroddiad 'All Aboard?' RNIB Cymru