Y Comisiynydd yn ymateb i Adroddiad Monitro Blynyddol y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n destun pryder mawr bod oedi yng nghyswllt y broses Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru yn golygu ei bod yn bosibl bod pobl yn profi cyfnodau estynedig o amddifadedd anghyfreithlon, fel yr amlygir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
“Mae bron i naw o bob deg cais DoLS ar gyfer unigolion 65 oed a hŷn, felly mae’r oedi hir cyn dyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn golygu bod llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o’u rhyddid heb unrhyw warchodaeth gyfreithiol.
“Ar ben hynny, does gan bobl hŷn ddim cyfle i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed nac i herio wrth aros i benderfyniad gael ei wneud – ac mae’r broblem hon yn cael ei waethygu gan gyn lleied y defnyddir Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol i gefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain.
“Mae’n amlwg bod angen gwneud gwelliannau sylweddol a pharhaus i sicrhau nad yw pobl hŷn – sydd yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf agored i niwed – yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghyfreithlon, ac rwy’n cefnogi’r galw am ailwampio’r system.
“Rwyf hefyd yn bryderus bod y materion y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu tuedd gynyddol cyrff cyhoeddus i fethu â chyflawni eu dyletswyddau statudol – rhywbeth sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei normaleiddio. Rhaid mynd i’r afael â hyn, a rhaid i gyrff cyhoeddus fod â’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu a chefnogi unigolion, ac i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal.”
Darllenwch yr adroddiad: