Y Comisiynydd yn ymateb i adroddiad Cyflwr Meddygaeth Frys yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Meddygaeth Frys
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae canfyddiadau’r adroddiad gan Goleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn darparu rhagor o wybodaeth bwysig am raddfa ac effaith darparu gofal mewn amgylcheddau anghlinigol, yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘ofal coridor’, ac yn dangos pam bod angen gwneud mwy o lawer i fynd i’r afael â’r materion hyn.
“Ni ddylai geiriau fel ‘brawychus’ a ‘pharth rhyfel’ fyth gael eu defnyddio i ddisgrifio agweddau ar ein gwasanaeth iechyd, ond dyma’r math o eirfa sy’n gyffredin mewn adroddiadau gan gleifion a staff am eu profiadau, a dyna’r iaith rwy’n ei chlywed wrth sgwrsio gyda phobl hŷn a’u hanwyliaid ledled Cymru.
“Mae tystiolaeth gynyddol yn profi bod gofal coridor – sy’n peryglu diogelwch ac urddas cleifion – wedi ei normaleiddio yn y GIG o ganlyniad i’r pwysau sy’n wynebu’r gwasanaeth, a bod gofal or fath yn realiti bob dydd bellach, fel y mae adroddiad y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn ei adlewyrchu.
“Rhaid i hyn newid yn gyflym, a dyna pam fy mod i eisiau gweld byrddau iechyd a Llywodraeth nesaf Cymru yn cymryd camau gweithredu ar y cyd i sicrhau bod triniaethau yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol bob amser.
“Mae hyn yn hollbwysig er mwyn gallu darparu gofal diogel ac urddasol o ansawdd uchel, gwella disgwyliadau pobl am yr hyn y gallent ei brofi pe bai angen triniaeth arnynt, ac yn bwysig iawn, adfer ymddiriedaeth yn ein system iechyd, rhywbeth sydd, yn anffodus, wedi ei golli ymysg llawer o bobl hŷn.”