Y Comisiynydd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch effaith cyllideb yr wythnos nesaf ar bobl hŷn
Wrth drafod y gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 30 Hydref, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru:
“Mae llawer o bobl hŷn wedi rhannu pryderon sylweddol â mi ynghylch yr effaith y bydd cyflwyno prawf modd ar y Taliad Tanwydd Gaeaf yn ei gael ar eu hiechyd a’u lles.
“Mae’r craffu ar y polisi yn awgrymu y bydd dros 80% o bobl hŷn sy’n byw o dan neu’n agos at y llinell dlodi nawr yn colli allan ar gymorth ariannol hanfodol[1], ac mae hefyd yn codi amheuaeth ynghylch a fydd cynlluniau Llywodraeth y DU yn cyflawni’r arbedion a ragwelir mewn gwirionedd.[2]
“Ar ben hynny, ni fydd y cynnydd mewn pensiynau y tynnwyd sylw ato gan Lywodraeth y DU yn cael ei gyflwyno tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac ni fydd incwm y rheini sydd ar ‘hen’ bensiwn y wladwriaeth (unrhyw un a gyrhaeddodd oedran pensiwn y wladwriaeth cyn 2016, a’r rhan fwyaf o’r rheini sy’n cael pensiwn y wladwriaeth yng Nghymru) yn codi hanner cymaint â’r symiau a ddyfynnwyd gan y llywodraeth.
“Am y rhesymau hyn, byddwn yn annog y Canghellor yn daer i ailfeddwl am y penderfyniad hwn cyn cyllideb yr wythnos nesaf, er mwyn amddiffyn pobl hŷn rhag ei effaith bosibl, sydd heb gael ei asesu’n ddigonol fel y mae’r Llywodraeth ei hun wedi cyfaddef.
“Byddai gwrthdroi’r cynlluniau a fydd yn dod i rym y gaeaf hwn yn caniatáu i lywodraeth y DU ddangos eu bod wedi gwrando ar yr amrywiaeth o bryderon a godwyd gan bobl hŷn a rhanddeiliaid ac yn cynnig cyfleoedd i fynd i’r afael â materion allweddol sydd wedi cael eu nodi.
“Er enghraifft, gellid cynyddu incwm pobl hŷn yn sylweddol drwy gamau gweithredu fel defnyddio data lleol i dargedu pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys i gael cymorth ariannol, fel Credyd Pensiwn, a’u cefnogi i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo – yng Nghymru, amcangyfrifwyd na chafodd gwerth £117m o Gredyd Pensiwn ei hawlio’r llynedd.
“Yn yr un modd, byddai camau i fynd i’r afael ag ‘ymyl y dibyn’ o ran Credyd Pensiwn – sy’n golygu y gallai pobl hŷn sydd ond ychydig o bunnoedd uwchlaw’r trothwy cymhwyso golli allan ar ystod eang o gymorth – yn lliniaru’r effaith ar bobl hŷn ar incwm isel a fyddai’n colli allan o dan y cynigion presennol.
“Fodd bynnag, hyd nes y caiff materion fel hyn eu datrys, mae’r risg o gyflwyno prawf modd ar y Taliad Tanwydd Gaeaf yn llawer mwy nag unrhyw fuddion honedig.
“Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio bod cwmpas y gyllideb yn llawer ehangach na’r Taliad Tanwydd Gaeaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cyhoeddi mwy o fuddsoddiad mewn iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n chwarae rhan hollbwysig yn yr agenda iechyd ataliol ac yn cefnogi annibyniaeth pobl hŷn ac ansawdd eu bywydau.
“Ar ben hynny, hoffwn weld y gyllideb yn adlewyrchu’r ymrwymiadau a wnaed i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais ehangach yn erbyn menywod a merched. Rydym wedi gweld cynnydd pwysig yma yng Nghymru – fel y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn a lansiwyd y llynedd a’r ffocws ar bobl hŷn fel rhan o’r dull glasbrint i fwrw ymlaen â’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – ac mae’n hanfodol ein bod yn gallu adeiladu ar hyn gyda’r adnoddau cywir i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr posibl a bod gwasanaethau’n gallu ymateb yn briodol i anghenion dioddefwyr hŷn.
“Yn y pen draw, mae’n hanfodol nad yw cyllideb gyntaf y Llywodraeth newydd yn cael effaith anghymesur ar bobl hŷn a’n bod yn gweld buddsoddiad ystyrlon i leihau’r pwysau sylweddol ar wasanaethau a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth y gallai fod ei angen arnynt.”
[1] Mae dadansoddiad o’r effaith yn dangos y bydd y taliad tanwydd gaeaf yn cael ei dorri i bedwar o bob pum pensiynwr sy’n cael trafferthion ariannol: https://www.independent.co.uk/news/home-news/winter-payment-age-uk-pension-b262556.html
[2] Rheoliadau Taliadau Tanwydd Gaeaf y Gronfa Gymdeithasol 2024: llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau: https://www.gov.uk/government/publications/the-social-fund-winter-fuel-payments-regulations-2024