Angen Help?

Y Comisiynydd yn lansio adolygiad ffurfiol o effeithiolrwydd cymorth eiriolaeth yng Nghymru

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn lansio adolygiad ffurfiol o effeithiolrwydd cymorth eiriolaeth yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal adolygiad ffurfiol o eiriolaeth annibynnol, gan archwilio a yw’r trefniadau presennol yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed yn effeithiol.

Mae’r adolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio eiriolaeth lle gallai fod pryderon am ddiogelu, gan fod pobl hŷn heb lais yn y sefyllfaoedd hyn yn gallu bod yn arbennig o agored i niwed.  

Mae’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth a data gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn ogystal â chan Lywodraeth Cymru a Byrddau Diogelu Rhanbarthol, sydd i gyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynllunio a darparu cymorth eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn. O dan gwmpas yr adolygiad, mae gan y cyrff hyn ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i’r Comisiynydd, sydd wedi gofyn am yr wybodaeth sydd ei hangen arni erbyn 16 Hydref.

Mae’r adolygiad yn edrych ar amrywiaeth o feysydd allweddol sy’n ymwneud ag argaeledd a hygyrchedd cymorth eiriolaeth annibynnol, gan gynnwys sut mae hyn yn cael ei gomisiynu, ei ddarparu a’i fonitro, yn ogystal â chysondeb ymarfer, ymwybyddiaeth ymarferwyr, hyfforddiant a threfniadau llywodraethiant.

Mae’r Comisiynydd yn cynnal ei hadolygiad mewn ymateb i ymchwil sydd eisoes yn bodoli sy’n awgrymu mai ychydig o flaenoriaeth a roddir gan ymarferwyr i gynnig ac i ddefnyddio eiriolaeth ar hyn o bryd. Mae hi hefyd wedi nodi nifer o ymholiadau i’w gwasanaeth Cyngor a Chymorth lle byddai mynediad at eiriolwr annibynnol wedi bod o fudd i berson hŷn neu wedi sicrhau canlyniadau gwell.

Craffir ar gannoedd o ddarnau o dystiolaeth fel rhan o’r adolygiad, a fydd yn sail i adroddiad a gyhoeddir yn y Flwyddyn Newydd a fydd yn nodi canfyddiadau’r Comisiynydd.

Ochr yn ochr â’i hadroddiad, bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi cyfres o gamau gweithredu gofynnol, gan nodi’r gwelliannau sydd eu hangen a’r amserlenni i’w cyflawni, a bydd dyletswydd ar y cyrff sy’n destun i’r adolygiad i ymateb iddynt.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae eiriolaeth annibynnol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn sefyllfaoedd lle nad ydynt o bosibl yn gallu siarad drostynt eu hunain, yn enwedig pan fydd unigolyn yn agored i niwed neu pan fydd pryderon diogelu.

“Er hynny, mae ymchwil a thystiolaeth a gasglwyd drwy fy ngwaith yn awgrymu nad oes gan lawer o bobl hŷn y mynediad at eiriolaeth sydd ei angen arnynt, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle byddai hyn wedi arwain at ganlyniadau gwell iddynt.

“Dyna pam fy mod yn adolygu meysydd allweddol sy’n effeithio ar argaeledd a hygyrchedd cymorth eiriolaeth, er mwyn deall pa mor effeithiol yw’r trefniadau presennol i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru.”

Adolygiad y Comisiynydd yw’r ail dro iddi ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i sbarduno newid ar ran pobl hŷn yn ystod y 18 mis diwethaf, gan ei bod eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ffurfiol ar ymgysylltu ac ymgynghori i fyrddau iechyd ac i awdurdodau lleol yn 2025.

Ychwanegodd y Comisiynydd: 

“Gan ystyried pwysigrwydd eiriolaeth annibynnol, rwy’n cynnal yr adolygiad hwn gan ddefnyddio fy mhwerau statudol fel Comisiynydd, sy’n golygu bod gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnaf ac ymateb i unrhyw argymhellion a wnaf ochr yn ochr â chyhoeddi fy nghanfyddiadau.

“Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod camau gweithredu ystyrlon yn cael eu cymryd yn lleol ac yn genedlaethol i gyflawni’r newid a’r gwelliannau sydd eu hangen er mwyn i bobl hŷn allu sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.”

DIWEDD

Darllenwch y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges