Y Comisiynydd yn galw am fwy o gymorth i bobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol yng Nghymru
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad y bydd cronfa Argyfwng a Gwydnwch newydd yn cael ei sefydlu i ddarparu cymorth ariannol i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi yn Lloegr, dyma oedd gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, i’w ddweud:
“Gyda chronfa Argyfwng a Gwydnwch newydd gwerth £1biliwn y flwyddyn yn cael ei lansio yn Lloegr o fis Ebrill ymlaen i roi cymorth ariannol i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd, mae cyfle i ddefnyddio cyllid canlyniadol i sefydlu cynllun tebyg yma yng Nghymru.
“Mae hyn yn rhywbeth rydw i eisoes wedi bod yn galw amdano, gan gynnwys yn fy mhapur Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, oherwydd mae’r meini prawf a ddefnyddir gan gynlluniau presennol yn aml yn golygu nad yw pobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol yn gallu cael gafael ar gymorth hanfodol.
“Gwyddom fod cost sylweddol yn dod yn sgil caledi ariannol – o ran yr effaith ar iechyd a llesiant pobl, a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus sy’n deillio o hynny.
“Byddai buddsoddi mewn mynd i’r afael â’r problemau hyn yn helpu i atal pobl rhag cyrraedd sefyllfa argyfyngus, drwy leihau costau a phwysau, ac – yn bwysig iawn – gwella ansawdd bywyd pobl a’u helpu i heneiddio’n dda.
“Dyna pam mae’n rhaid i sefydlu cronfa wydnwch fod yn flaenoriaeth yma yng Nghymru.”