Angen Help?

Taliad Tanwydd Gaeaf: Comisiynydd Pobl Hŷn yn rhybuddio bod mwy o berygl o sgamiau sy’n targedu pobl hŷn

i mewn Newyddion

Taliad Tanwydd Gaeaf: Comisiynydd Pobl Hŷn yn rhybuddio bod mwy o berygl o sgamiau sy’n targedu pobl hŷn

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod pobl hŷn mewn mwy o berygl o gael eu targedu gan droseddwyr sy’n manteisio ar newidiadau treth sy’n ymwneud â’r Taliad Tanwydd Gaeaf.

Dywedodd fod sgamiau a thwyll sy’n ymwneud â threfniadau treth yn bethau cyffredin, ond pan fydd trefniadau newydd fel y rhain yn cael eu cyflwyno, mae cynnydd sylweddol yn aml yn y math hwn o weithgarwch troseddol. Ychwanegodd fod troseddwyr hefyd yn aml yn targedu pobl hŷn yn benodol, oherwydd eu bod yn ymddangos yn fregus.

Mae’r Comisiynydd wedi annog pobl hŷn i fod yn wyliadwrus ac i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol neu ariannol â rhywun sy’n cysylltu â nhw’n annisgwyl am y mater hwn.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Pan fydd newidiadau uchel eu proffil yn digwydd i drefniadau treth neu ariannol, fel y rhai rydyn ni’n eu gweld gyda’r system newydd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, rydyn ni’n aml yn gweld cynnydd enfawr mewn twyll a sgamiau, sy’n aml yn cael eu targedu at bobl hŷn sy’n aml yn cael eu hystyried yn dargedau ‘hawdd’ gan droseddwyr.

“Rhai sgamiau cyffredin yw rhywun yn cysylltu â nhw drwy neges destun neu e-bost, naill ai gyda rhybudd fod arian yn ddyledus neu addewid o ad-daliad, ac yn dweud wrth y unigolion i glicio dolen i ddatrys y mater, sy’n aml yn golygu rhannu gwybodaeth bersonol neu ariannol.

Os bydd rhywun yn cael rhywbeth sy’n ymddangos yn ddilys, ond nad yw’n siŵr, dylai chwilio am rif ffôn neu gyfeiriad e-bost sydd ar gael i’r cyhoedd a chysylltu â’r sefydliad dan sylw i holi.

“Yn yr un modd, os ydych chi’n cael rhywbeth rydych chi’n meddwl sy’n sgam, rhowch wybod am y mater. Gallwch chi anfon negeseuon testun sgam amheus ymlaen at 7726 (sy’n dweud SPAM), neu anfon negeseuon e-bost sgam amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk er mwyn iddynt ymchwilio iddynt.

“Rhaid i bobl hŷn fod yn wyliadwrus a pheidio â rhannu manylion personol os oes rhywun yn cysylltu â nhw’n annisgwyl am hyn neu fater tebyg.”

DIWEDD

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges